Criced, CT a Iesu!
4 Gorffennaf 2019 | Gan Gethin Jones
Mae’r adeg yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto – mae llwyth o bobl mewn dillad gwyn ar y teledu! Rhai ohonynt yn chwarae tennis yn Wimbledon, a rhai yn chwarae criced mewn pob math o gystadlaethau. Un o’r cystadlaethau criced sy’n digwydd eto’r haf yma yw Cyfres y Lludw (yr Ashes) lle bydd Lloegr ac Awstralia yn chwarae i ennill cwpan sy’n dal lludw wicedi criced wedi’u llosgi. Ond pam fydden nhw eisiau ennill cwpan yn llawn lludw?!

Darlun gan Julie Bosacker
Yn 1882, roedd gêm criced hynod o gyffrous rhwng Lloegr ac Awstralia – roedd e mor gyffrous fel bod un dyn yn y gynulleidfa wedi cnoi trwy handlen ei ymbarél! Roedd y gêm yn un agos iawn ond Awstralia a enillodd felly fe losgodd tîm Lloegr y wicedi a’u rhoi nhw i dîm Awstralia. Un dyn oedd yn aelod o dîm Lloegr, ond na chafodd gyfle i chwarae yn y gêm yna, oedd myfyriwr o’r enw CT Studd. Cafodd gyfle i chwarae yn y gêm nesa yn erbyn Awstralia’r flwyddyn ganlynol ac fe enillodd Lloegr y tro yna felly fe roddodd tîm Awstralia’r lludw yn ôl iddyn nhw. Dyna ddechrau Cyfres y Lludw.
Bywyd cynnar CT
Ganwyd CT Studd yn 1860. Roedd y Studds yn deulu o gricedwyr. Fel llawer o bobl bryd hynny, roedd y teulu’n mynd i’r capel bob dydd Sul ond doedd y capel ddim yn golygu lot iddyn nhw mewn gwirionedd. Ond pan oedd CT Studd yn bymtheg oed, fe ddaeth ei dad yn Gristion. Bu newid mawr ym mywyd ei dad o ganlyniad i hyn – daeth yn berson gwahanol. Roedd CT yn ddrwgdybus iawn o’i dad ar y cychwyn ac roedd yn meddwl ei fod braidd yn od. Byddai CT yn ceisio osgoi ei dad bob nos gan ei fod yn gofyn iddo pob cyfle a oedd wedi cael ei achub.
Ond ryw flwyddyn wedyn digwyddodd peth rhyfeddol – daeth CT a dau o’i frodyr yn Gristnogion yr un diwrnod! Bu newid ym mywyd CT ar ôl iddo ddod yn Gristion, ond pan aeth i’r coleg, er iddo fynd i’r capel yn rheolaidd, ac er iddo ymuno â’r Undeb Cristnogol a gwahodd ei ffrindiau i ddod i glywed am Iesu, roedd yn glir mai criced oedd ei brif gariad. Aeth yn gapten ar dîm llwyddiannus ei brifysgol, ac roedd e’n enwog trwy Loegr i gyd. Yna aeth yn aelod o dîm Lloegr. Roedd CT yn enwog, yn boblogaidd, roedd ganddo lwyth o ffrindiau a llwyth o arian, ond doedd braidd neb yn gwybod ei fod yn Gristion.
Salwch yn y teulu
Ym mis Tachwedd 1883 (sef y flwyddyn yr enillodd tîm Lloegr y Lludw yn ôl o Awstralia gyda help CT) fe aeth George, brawd CT yn sâl iawn. Roedd CT yn agos iawn at George ac wrth iddo edrych ar ei ôl bob nos, fe welodd ei frawd, yn ei salwch, yn dangos ei ffydd yn yr Arglwydd Iesu. Roedd yn gweld fod Iesu yn cynnal ei frawd ac roedd George yn esiampl fawr iddo gan ei fod yn pwyso ar Dduw ac yn darllen y Beibl er mwyn gwrando ar Dduw. Fe welodd CT mor bwysig oedd y pethau hyn i George a pha mor ddiwerth, o gymharu, oedd pethau’r byd. Dros y Nadolig hwn daeth CT i garu Iesu ac i garu gwrando ar Dduw yn siarad drwy’r Beibl.
Erbyn dechrau Ionawr, roedd George yn well ac roedd CT yn sylweddoli fod Duw wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn i ddod ag ef yn ôl ato. Daeth i weld mor wych oedd y newyddion da am Iesu. Sylweddolodd CT o’r newydd ei fod yn bechadur a’i fod wedi bod yn trin criced fel duw gan roi ei holl fryd ar fod yn gricedwr llwyddiannus a bod yn boblogaidd. Daeth i weld eto fod Iesu wedi marw drosto ar y groes i faddau’i holl bechodau. Fe newidiodd CT – nid am ei fod o am dalu unrhyw beth yn ôl i Dduw – ond am fod Duw wedi rhoi’r ffydd iddo ymddiried fod Iesu wedi gwneud popeth yn ei le, ei fod e’n mynd i ddod yn ôl un dydd i’w achub.
Newid
Dechreuodd rannu’r newyddion da â’i ffrindiau yn y brifysgol a’i ffrindiau ar ei dîm criced. Roedd yn ffrind da iddyn nhw – byddai’n siarad â nhw am Iesu, yn byw mewn ffordd oedd yn dangos iddynt mor werthfawr oedd Iesu iddo, a byddai’n gwahodd ei ffrindiau i ddod i gyfarfodydd lle’r oedd pobl yn pregethu am Iesu. Daeth nifer o’i ffrindiau yn Gristnogion ar ôl clywed y newyddion da.
Ar ôl i CT orffen yn y brifysgol, roedd am wybod sut roedd Duw am iddo dreulio gweddill ei fywyd. Wedi cyfnod hir o weddïo a holi, daeth CT i sylweddoli rhywbeth pwysig – gan fod Iesu wedi ei brynu drwy farw ar y groes, roedd CT yn perthyn i’r Arglwydd Iesu. Felly gofynnodd CT i Dduw gymryd ei holl fywyd. Wedi peth amser, daeth CT ar draws nifer o bobl oedd ar fin mynd allan i China i fod yn genhadon. Doedd CT ddim wedi ystyried gadael Prydain i wasanaethu’r Arglwydd ond wrth iddo wrando ar y dynion yma, fe dyfodd yn hynod o awyddus i fynd i China hefyd. Ym mis Chwefror 1885 fe aeth CT, a nifer o ddynion eraill, allan i China. Dros y 50 blynedd nesaf hyd ei farwolaeth yn 1931 fe weithiodd CT yn ddiflino dros Grist. Aeth i nifer o lefydd gwahanol yn China ac yna symudodd i India a gorffen ei fywyd yn Affrica. Rhoddodd y cyfan oedd ganddo i Dduw a daeth miloedd o bobl i adnabod Iesu Grist drwy ei waith.
Dyna her i ni, ond mae hefyd yn hanes sy’n dangos mor garedig yw Duw a sut mae e’n gallu ein newid ni.
Eisiau gwybod mwy am CT Studd?
Darllenwch y llyfr: C.T.Studd – No retreat gan Janet a Geoff Benge, Ywam Publishing, ISBN 1-57658-288-4