Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Pam dathlu’r Pasg?

20 Ebrill 2019 | Gan Emma Levy
Pam dathlu'r Pasg

Rhannu

Emma Levy sy’n rhannu pam bod y Pasg yn bwysig iddi hi.

Dwedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?” Ioan 11:25-26

Ges i fy magu mewn teulu Cristnogol, gan mynd i gapel pob dydd Sul. Dysgais o oedran ifanc fod Iesu Grist yn fab Duw a wnaeth E farw er mwyn i bechaduriaid gallu derbyn maddeuant os oeddent yn edifarhau a rhoi ei ffydd ynddo Fe. Er o’n i’n gwybod hyn, doeddwn i ddim yn weld e fel rhywbeth perthnasol i mi. Fi’n cofio meddwl pan oeddwn i’n blentyn “wnâi just dod yn Gristion pan dwi’n hen felly s’dim angen i fi becso am Duw tan hynny.”

Dros amser fe ddechreuais i gymryd fwy o sylw yn ystod pregethau, yn ysgol Sul ac yn glwb ieuenctid. Y mwyaf o’n i’n clywed, y fwy roedd popeth yn teimlo’n ddifrifol a real i mi. Dechreuais i deimlo fel bod pob pregeth wedi ei anelu ataf i yn bersonol. Doeddwn i ddim yn gallu osgoi’r ffaith fy mod yn mynd i orfod wynebu Duw un dydd ac o’n i’n gwybod nad oeddwn yn barod am hynny.

Dechreuais i weddïo i Dduw, yn gofyn iddo Fe maddau i mi am yr holl bethau anghywir roeddwn i wedi neud ac am Ei wrthod E trwy fy mywyd. Fe wnes i weddïo’r un weddi drosodd a throsodd ond nes i ddim teimlo sicrwydd fod Iesu wedi fy achub. Roeddwn i eisiau arwydd neu deimlad arbennig i gadarnhau fy mod i’n Gristion a dechreuais i edrych am resymau i brofi fod Duw ddim eisiau maddau fi.

Wnes i barhau i becso am hyn am gwpwl o flynyddoedd, yn teimlo’n ansicr am le oeddwn i’n sefyll gyda Duw. Fe siaradais i gyda fy nhad am fy ansicrwydd ac fe wnaeth e atgoffa fi fod Duw wedi addo i achub pob un sydd yn galw ar ei enw Ef am faddeuant, a bod Duw byth yn dweud celwydd nag yn torri Ei addewidion. Yn 1 Ioan 1:9 mae’n dweud

Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a’n glanhau o bob anghyfiawnder.

Fe wnaeth dad esbonio i mi os oeddwn i wedi cydnabod fy mod i’n pechadur, ac os oeddwn i wir wedi gofyn am faddeuant ac wedi rhoi fy ffydd yn Iesu fel yr unig un oedd yn gallu cymryd fy mhechodau i ffwrdd, wedyn roeddwn i wedi cael fy achub. Fe des i i sylwi fy mod i ddim angen ryw brofiad mawr, emosiynol i brofi fod fi’n Gristion. Ges i heddwch wrth wybod fod Duw wedi maddau i mi, a bod fy iachawdwriaeth ddim yn dibynnu ar deimlad sbesiffig, ond ar beth wnaeth Iesu ar y groes.

Ers dod yn Gristion, rydw i dal yn gwneud pethau anghywir ac rydw i’n gweld fy angen am faddeuant fwy ac yn fwy pob dydd. Wrth i mi wynebu gwahanol bethau yn fy mywyd, mae Duw yn parhau i ddangos Ei ras i mi ac yn atgoffa fi o fy angen i ddibynnu arno Fe mewn pob sefyllfa.

Mae’r Pasg yn ddathliad gwerthfawr i bob Cristion. Mae’n amser i ddathlu cariad anhygoel Duw wrth gofio sut wnaeth E ddanfon Ei fab i farw ar y groes ac atgyfodi ar y trydydd dydd er mwyn gymryd y gosb rydyn ni gyd yn haeddu fel pechaduriaid. I mi, mae goblygiadau’r Pasg yn meddwl lot fwy na dathliad unwaith y flwyddyn – mae’n rhywbeth sydd wedi trawsnewid fy mywyd. Oherwydd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, rydw i wedi gallu dod yn un o blant Duw. Ac rydw i’n gallu byw pob dydd gyda’r gobaith fod gen i ffydd mewn iachawdwr sydd wedi trechu marwolaeth ac sydd nawr yn y nefoedd yn paratoi lle i mi. Rwy’n gwybod dydw i ddim wedi neud un rhywbeth i haeddu cael fy achub ond oherwydd ras Duw a beth wnaeth Iesu ar y groes rydw i wedi gallu derbyn maddeuant a chael bywyd newydd fel Cristion.

Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio. Effesiaid 2:8-9

I ddysgu mwy am pam fod y Pasg yn berthnasol i ni, beth am ddarllen yr erthygl hon?
Mae Emma Levy o Abertawe yn wreiddiol ac yn astudio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, gan fynychu’r Eglwys Efengylaidd Gymraeg.