Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Fy hoff emyn: Lowri Havard

27 Chwefror 2018 | Gan Lowri Havard

Mae bywyd yn gallu bod yn anodd ac yn greulon a dydi hi ddim yn helpu neb os ydyn ni fel Cristnogion yn trio gwadu hynny, neu esgus nad ydi hynny’n wir. Mae ‘It is well with my soul’ wedi dod yn un o fy hoff emynau dros y misoedd diwethaf. Mae’n emyn dwi’n ei chael yn anodd iawn ei ganu ar adegau, sy’n swnio’n od! Ond mae’r geiriau yn rhai heriol, ac mae Duw wedi eu defnyddio i ddangos i fi beth sydd yn digwydd yn fy nghalon ar adegau pan mae bywyd yn teimlo’n faich.

Falle dy fod ti wedi clywed hanes cyfansoddi’r emyn. Fe anfonodd Horatio Spafford ei bedair merch a’i wraig ar long o Chicago i Brydain ym 1873, ond yn drist iawn fe suddodd y llong. Derbyniodd Spafford neges gan ei wraig a oedd yn dweud ‘Saved alone’ – roedd eu pedair merch wedi marw. Mae’n debyg yr ysgrifennodd Spafford eiriau anhygoel yr emyn wrth iddo deithio i gwrdd â’i wraig ym Mhrydain a mynd heibio i’r fan lle suddodd y llong a boddodd ei ferched. Yn y sefyllfa ofnadwy yna, roedd Spafford wedi medru ysgrifennu:

Whatever my lot, Thou hast taught me to say
It is well, it is well, with my soul.

Mae hyn yn fy atgoffa o hanes Job yn yr Hen Destament a Paul yn y Testament Newydd. Collodd Job ei blant i gyd mewn trychineb, a cholli ei eiddo a’i gyfoeth hefyd, ond yn y sefyllfa yna, dywedodd Job:

‘Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith.
Bendigedig fyddo enw’r Arglwydd.’ Job 1:21

Cafodd yr Apostol Paul ei londdryllio, ei garcharu a’i chwipio, ond yn Philipiaid 4:13, mae’n dweud:

‘yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau’.

Weithiau, pan mae pethau’n anodd, nid dyma fy ymateb i. Mae yna adegau lle dwi wedi dod i sylweddoli drwy drio canu’r emyn It is well nad ydi hi’n well with my soul go iawn. Er fy mod i’n credu fel Job a Spafford a Paul bod Duw mewn rheolaeth lwyr dros bob peth, bod Duw yn Dduw da, a bod ei ewyllys E yn berffaith bob amser, a bod E’n fy ngharu – cymaint nes iddo anfon ei unig Fab i farw drosof fi er mwyn fy ngwneud yn un o’i blant, dwi’n ei chael yn anodd cymhwyso’r gwirioneddau yma i’r sefyllfa boenus dwi ynddi hi ar y pryd.

Efallai dy fod ti yn debyg i fi. Efallai dy fod ti yn mynd drwy rywbeth anodd iawn ar y funud, ac rwyt ti’n brifo a dwyt ti ddim yn deall pam y mae Duw yn gadael i hyn ddigwydd i ti. Rwyt ti’n gwybod fod y Beibl yn dweud fod ‘pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw’ (Rhufeiniad 8:28) ond rwyt ti’n ei chael yn anodd deall sut y gall fod yn dda pan mae’n brifo gymaint. Beth mae hyn ei ei olygu? Ydi hyn yn golygu nad ydym ni yn Gristnogion go iawn, oherwydd y byddai unrhyw Gristion go iawn yn ymateb fel Spafford, Job a Paul? Mae amheuon fel hyn yn gallu codi yn ein dryswch.

Mae darllen y Salmau a gweld bod y Salmydd weithiau yn ymateb yn debyg i fi mewn sefyllfaoedd anodd yn wedi bod yn gysur mawr i fi. Mae Salmau 88 ac 89 (Salmau gan rai o Feibion Cora) gyda’r tywyllaf ohonyn nhw – darllena di nhw dy hunan i ti gael gweld. Yn Salm 88 mae Herman (yr awdur) yn dweud ei fod yn ‘anghenus’ ac ‘mewn dryswch’ (ad.15) ac mae’n dweud wrth Dduw, ‘y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha’ (ad.16). Mae’r Salmydd yn amlwg ar ben ei dennyn. Yn Salm 89, mae Ethan yn dweud wrth yr Arglwydd:

‘O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt, a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?’

Mae’n amlwg yn ei chael yn anodd deall sut y mae ei amgylchiadau yn cyd-fynd gyda’r hyn y mae’n gwybod sy’n wir am Dduw, sef ei fod yn Dduw llawn cariad. Mae Duw wedi rhoi’r Salmau yma yn y Beibl er mwyn bod yn anogaeth i ni. Dydi’r ffaith ein bod ni weithiau yn teimlo fel hyn ddim yn golygu nad ydym ni’n Gristnogion!

Ond beth ddylem ni fel Cristnogion ei wneud pan dyn ni’n teimlo fel hyn? Wel, beth mae’r Salmydd yn ei wneud? Mae’n troi at yr Arglwydd. Un o nodweddion Cristnogion go iawn yw ein bod yn rhedeg at Dduw ein Tad nefol gyda’n hamheuon a’n poen. Mae E bob amser yno ac yn barod i ysgwyddo ein beichiau. Mae Hebreaid 4:15 yn ein hatgoffa ‘nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym’ ni yn Iesu Grist. Felly fe elli di ac fe alla i fynd ato yn ein gwendid, ein dryswch, a’n tor calon yn hollol onest, a dweud fel y tad ym Marc 9:

Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd. ad.24

Ar ôl i Paul nodi ei fod wedi ‘dysgu bod yn fodlon, beth bynnag [ei] amgylchiadau’ mae Paul yn esbonio sut y mae wedi dysgu gwneud hyn. Mae’n dweud yn adnod 13, ‘y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i’. Nid cryfder emosiynol Paul sy’n golygu ei fod yn fodlon. Yr oedd Paul yn wan fel ti a fi. Ond yr oedd gan Paul, ac mae gennym ni hefyd ffrind a Gwaredwr sydd yn gryf, ac yn ddigon cryf i fod yn ‘noddfa a nerth i ni’ (Salm 46 ad.1 – un arall o Salmau Meibion Cora) hyd yn oed yn y sefyllfaoedd gwaethaf.

yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.

Rhannu

Yn nerth Duw, a dim ond trwy nerth Duw y cyrhaeddodd Spafford y fan lle’r oedd yn gallu ysgrifennu’r emyn ‘It is well’.  Ac er efallai nad ydym ni bob amser yn gallu ymuno yn y gân yn syth mewn sefyllfa boenus, wrth i ti ac i fi redeg i loches breichiau ein Tad yn ein gofid, mae E’n medru dod â ni i’r fan yna lle gallwn ni ddweud yn onest fel Spafford a Job a Paul, ‘It is well with my soul.’

Mae Lowri yn fyfyrwraig yn Abertawe ac yn mynychu eglwys Caersalem, Gorseinon. Mae hi newydd wedi mwynhau pedwar diwrnod llawn hwyl fel swyddog ar y Mini Gwersyll! 

Mae geiriau cyflawn yr emyn isod, neu mae cyfieithiad Cymraeg ar gael ar dudalen Gobaith i Gymru.

When peace, like a river, attendeth my way,
when sorrows, like sea-billows, roll,
whatever my lot, Thou hast taught me to say,
‘It is well, it is well with my soul.’

‘It is well with my soul;
it is well, it is well with my soul.’

Though Satan should buffet, though trials should come,
let this blest assurance control,
that Christ has regarded my helpless estate,
and has shed His own blood for my soul.

My sin – O the bliss of this glorious thought! – 
my sin, not in part, but the whole,
is nailed to His cross, and I bear it no more:
praise the Lord, praise the Lord, O my soul!

For me be it Christ, be it Christ hence to live! 
If Jordan above me shall roll, 
no pang shall be mine, for in death as in life
Thou wilt whisper Thy peace to my soul. 

But, Lord, ’tis for Thee, for Thy coming, we wait; 
the sky, not the grave, is our goal; 
O trump of the the angel! O voice of the Lord!
Blessed hope! blessed rest of my soul! 

Horatio Gates Spafford, 1828-88