Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Graham Daniels

26 Gorffennaf 2017 | Gan Graham Daniels

Un o freuddwydion gymaint o bobl ifanc yw cael chwarae chwaraeon yn broffesiynol. Ychydig sy’n cael gwireddu’r freuddwyd honno, ond tybed sut brofiad yw hi go iawn? Yn yr erthygl yma cawn gyfle i holi a dilyn stori Graham Daniels a dreuliodd gyfnodau yn chwarae pêl-droed i Gaerdydd ac yna Cambridge Utd.

Rydym am ei ddilyn o gyfnod ei blentyndod yn Llanelli hyd at ei fywyd presennol yng Nghaergrawnt…
Dechrau o’r dechrau – ti’n dod o Lanelli yn wreiddiol, beth yw dy atgofion di o dyfu lan yno? Chwarae pêl-droed a sgorio hatrics i dîm yr ysgol?

Dim o gwbl! Es i i ysgol ramadeg i fechgyn lle’r oedd pawb yn chware rygbi a chriced, gofynnais unwaith a allwn i chwarae football, ond doedd dim modd chware football tra roedd rygbi ar gael! Bues i’n chware pêl-droed gyda’r bois lleol ym mhentref Dafen, yn ‘Stadiwm y Bowling Green’. Doedd dim cae iawn gyda ni felly roeddwn yn chware ar y bowling green lleol. Roedd clawdd yn mynd o’i amgylch a doedd hi ddim yn annhebyg i stadiwm – yn enwedig i fechgyn naw mlwydd oed! A phob un ohonom yn esgus ein bod ni’n chwarae mewn stadiwm anferth llawn miloedd o bobl yn gwylio!

Dechrau gyrfa wych i bêl-droediwr! Beth nesa, transfer o’r Bowling Green i Ninian Park?

Wedi i mi adael y chweched dosbarth es i Brifysgol Caerdydd i astudio Athroniaeth, a chwarae pêl-droed yn rhan amser i Gaerdydd. Roedd hi’n amser cyffrous iawn – roeddwn yn dilyn fy mreuddwyd o anelu at fod yn bêl-droediwr proffesiynol.

Cyfnod gwych felly! A wnei di roi cipolwg i ni ar sut beth yw bywyd pêl-droediwr proffesiynol?

Pan oeddwn yn 21 dechreuais chwarae gyda Cambridge Utd. Fel dywedais i, roedd hi’n hynod gyffrous. Ond serch hynny, mae lot o bwysau ar y chwaraewyr; roeddwn i dan bwysau bob dydd yn ystod y sesiynau hyfforddi a phob penwythnos ar gyfer y gemau. Roedd yn rhaid i ni fod mewn cyflwr corfforol da a chyflwr meddyliol da hefyd. Mae yna bwysau anferthol ar chwaraewyr proffesiynol – rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau ar bob adeg. Roeddwn wedi cyrraedd fy mreuddwyd o chwarae pêl-droed proffesiynol yn llawn amser. Ond doedd hynny ddim yn ddigon. Roeddwn i wastad eisiau mwy, wastad eisiau symud yn uwch, eisiau sgorio mwy o goliau, falle byddwn i’n hapus pe bawn i’n chwarae’n rhyngwladol… Rwy’n cofio gofyn i mi fy hun ‘A fydd fy mywyd i wastad fel hyn?’, dim byd yn ddigon, dim byd yn fy nghadw’n hollol hapus? Er i mi gael pob dim roeddwn wedi breuddwydio amdano, roedd rhywbeth ar goll, roeddwn angen rhywbeth mwy.

Beth ddigwyddodd i newid hyn? Oedd Duw yn chwarae rôl yn dy fywyd?

Pan o’n i’n 15 mlwydd oed roedd angen rhywun ychwanegol i chwarae ar y tîm criced ar gyfer rhyw gêm, ac ar y bws gyda’r tîm fe glywais i rywun yn sôn am ‘adnabod’ Duw. Gwyon Jenkins, un o’m cyd-chwaraewyr ar y tîm criced oedd hwnnw. Roeddwn i wastad wedi credu bod yna Dduw ond yn gwybod tu mewn, o dan bopeth, nad oeddwn i’n Gristion ac yn sicr ddim yn ‘adnabod’ Duw. Gofynnais iddo beth fuodd e’n ei wneud dros y penwythnos, ac atebodd ei fod wedi bod i’r capel ar y Sul – ‘yn dilyn Iesu Grist’ dywedodd e. Rwy’n cofio “Ooooh na!” yn mynd trwy fy mhen i. Roeddwn i wedi synnu bod Cristion yn gallu chwarae criced mor dda! Doedd e ddim yn rhoi pwysau arnaf i gredu, jyst yn dweud sut beth oedd ei berthynas â Duw. Hyd yn oed yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol roedd Gwyon yn dal i gysylltu â mi trwy yrru llythyron ac weithiau’n galw mewn i’m gweld. Doedd e ddim yn pushy o gwbl – jyst yna fel ffrind, a’i fywyd yn dystiolaeth dros Grist. Roeddwn yn sylweddoli ei fod yn wahanol a bod ganddo heddwch yn ei fywyd.

Roeddet ti’n gweld rhywbeth yn ei fywyd ef nad oedd gennyt ti – beth wnest di am y peth?

Am fisoedd roeddwn i’n darllen y Beibl ac yn meddwl am bethau. Gwyddwn fod Duw yn fy ngharu i ac na fydden i’n cael fy ngwrthod.
Roeddwn wedi gweld nad oeddwn byth am gael fy nigoni gan bethau fel pêl-droed a sylweddolais mai’r ffaith nad oeddwn yn adnabod Duw oedd yn achosi’r holl anfodlonrwydd. Gweddïais i Dduw faddau fy mhechodau, a daeth Crist i newid fy mywyd; i fod yn Arglwydd dros fy nghalon. Roedd hyn yn ystod y cyfnod lle roeddwn i’n chwarae i dîm Caergrawnt. Y diwrnod canlynol yn yr ystafell newid gyda gweddill y tîm, gofynnodd un o’r bois ‘What did you do last night then?’. Gan gofio geiriau Gwyon Jenkins 6 mlynedd ynghynt atebais ‘I decided to start following Jesus Christ.’ Ateb y tîm oedd gweiddi ‘Call the physio!!’, ond ar ôl i mi wneud y broffes honno doedd dim troi yn ôl. Nawr rwy’n falch iawn fy mod i wedi sefyll dros Grist o’r dechrau a’i gwneud hi’n glir i bobl beth roeddwn i’n credu; mae’n well sefyll yn gadarn o’r dechrau gyda ffrindiau er mwyn iddynt wybod yn glir pwy ydych chi.

Yn Arglwydd dros dy fywyd? Felly a oedd Duw yn dylanwadu ar dy benderfyniad i ymuno â Christians in Sport?

Wedi i mi ddod i adnabod Iesu’n bersonol, roedd yn rhaid i mi ddweud wrth eraill am y newyddion da am Iesu. Mae Rhufeiniaid 10:14 yn gofyn ‘Sut y mae pobl i glywed, heb fod rhywun yn pregethu?’. Roeddwn yn freintiedig iawn i fod yn Gristion mewn maes lle nad oedd yna lawer o bobl yn sefyll i fyny dros Grist, ac roedd yn rhaid i mi gymryd y cyfle yma i ddweud wrth bobl amdano. Yn bump ar hugain oed ges i anafiadau i ’nghoes a oedd yn fy rhwystro rhag chwarae yn llawn amser mwyach. Astudiais Ddiwinyddiaeth am bedair blynedd tra’n chwarae’n rhan amser dros Gaergrawnt, ac yna gweithio mewn eglwys yno. Yna roedd Christians in Sport yn gam synhwyrol ymlaen yng ngwaith Duw a rhannu’r neges gyda phobl.

A wnei di ddweud rhywbeth wrthym am waith Christians in Sport?

Ein prif fwriad yw cyrraedd pobl ifanc ym maes chwaraeon a dangos cariad Crist iddynt. Un o’m hoff adnodau yw Rhufeiniaid 12:1-2 gan ei fod e’n ein dysgu ni bod popeth amdanom ni’n perthyn i Dduw, a dylai popeth rydym yn ei wneud fod er mwyn Crist a dros Grist. “Pray, Play, Say” yw ein motto ni yn Christians in Sport, mae’n bwysig ein bod ni yn gyntaf yn gweddïo ar Dduw, yn chwarae i Dduw, ac wrth wneud hyn yn dweud wrth eraill am Ei gariad Ef tuag atom ni. Mae yna lawer o bobl dalentog iawn ym myd chwaraeon, ond ble maen nhw’n ffeindio pwrpas? Mewn llwyddiant, mewn arian, mewn gêm a goliau? Mae’n ddyletswydd arnom ni i ddangos mai Crist yw’r pwrpas sy’n parhau, ac mai Fe yn unig sy’n dod â gwir fodlonrwydd.