Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cristion o Gymraes

1 Mawrth 2019 | Gan Lois Dafydd
Cristion o Gymraes

Rhannu

Dwi’n Gristion.

Er i mi gael fy magu mewn teulu Cristnogol ac i fynychu’r capel deirgwaith ar y Sul, doedd hynny ddim wedi bod yn wir amdana i erioed. Yn 10 oed fe ddes i i adnabod Duw gan dderbyn Iesu fel fy Achubwr. Sylweddolais ‘mod i wedi torri cyfraith perffaith Dduw a fy unig obaith oedd troi at Iesu, dweud sori a gofyn iddo fy achub. Does arna i ddim cywilydd datgan fy mod yn blentyn i Dduw ac mae agweddau bychanol a sarhaus tuag at Iesu, fy Arglwydd, yn fy nigalonni ac mae byw mewn cymdeithas sy’n aml yn wrth-Gristnogol yn frwydr flinedig.

Dwi’n Gymraes ac yn genedlaetholwraig.

Mae fy Nghymreictod – yn iaith a hunaniaeth – wedi bod yn hollbwysig yn fy mywyd erioed, ac yn rhan o ‘ngwead i fel person. Annibyniaeth i Gymru, y Gymraeg yn iaith swyddogol y wlad, clywed ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn cael ei chanu yn y Gemau Olympaidd a chefnogi’r tîm cenedlaethol yng Nghwpan Pêl-droed y Byd yw rhai o’r pethau y byddwn i wrth fy modd yn eu gweld yn digwydd yn ystod fy oes i. Does arna i ddim cywilydd cyfaddef fy mod i’n caru Cymru a’r Gymraeg ac fel nifer, mae’n siŵr, dwi’n cael fy nghythruddo gan yr agweddau sarhaus a dilornus cyson tuag at Gymru a’r Gymraeg, ac mae’r frwydr gyson i drio cyfiawnhau ein bodolaeth fel cenedl yn gallu fy llethu.

Cristion o Gymraes ydw i, ac mae fy ffydd yn rhan annatod o fy nghenedlaetholdeb.

A dweud y gwir, mae bod yn Gristion wedi dyfnhau fy ymdeimlad i o wladgarwch. Nid hap a damwain yw’r ffaith fy mod wedi cael fy ngeni yng Nghymru, i deulu Cymraeg a chael fy magu yn y diwylliant cyfoethog hwn sy’n perthyn iddi. Rhodd gan Dduw yw’r rhain. Ac fel unrhyw rodd, fe ddylwn ni eu trysori a’u gwarchod mewn diolchgarwch. Fel Cristion dwi’n dymuno dyfodol llewyrchus i Gymru, ac fel Cristion dwi am iddi dderbyn y parch a’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus iddi fel rhan o greadigaeth Duw. Fel Cristion dwi’n gwisgo cenhinen Bedr ar Ddydd Gŵyl Dewi. Fel Cristion dwi’n canu ‘Don’t take me home’ pan fydd Cymru’n chwarae pêl-droed. Fel Cristion dwi’n arwyddo deiseb sy’n amddiffyn hawliau Cymru a’i phobl. Fel Cristion dwi’n gwisgo’r crys rygbi adeg y Chwe Gwlad. Fel Cristion dwi’n arddel y Gymraeg.

Ond er fy mod yn trysori fy nghenedl a’r holl agweddau uchod, nid hi yw fy nhrysor. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni am gasglu ‘i chwi drysorau yn y nef […] oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon.’ (Mathew 6:21). Ac er cymaint fy nghariad at Gymru, y Gymraeg a’m hunaniaeth, galla i uniaethu a William Williams Pantycelyn pan ysgrifennodd yr emyn

Pererin wyf mewn anial dir
yn crwydro yma a thraw,
ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
fod tŷ fy nhad gerllaw.

Dwi’n ymwybodol iawn mai cartref dros dro yw hwn a bod ‘na gartref arall yn disgwyl amdanaf. Duw a greodd yr amrywiol genhedloedd ledled y byd, ond mae Duw hefyd wedi trefnu ffordd i ddod a’r holl genhedloedd hynny ynghyd yn ein cartref tragwyddol fel mae’n dweud yn y Beibl:

‘… wele dyrfa fawr na alla neb ei rhifo, o bobl cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo a mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo. […] yn gweiddi a llais uchel: “I’n Duw ni, sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen y perthyn y waredigaeth!”’ (Datguddiad 7:9)

Ac fel Cymraes dwi’n dymuno gweld Duw yn bendithio Cymru ac Iesu yn cael ei ddyrchafu a’i garu yn gyhoeddus gan fy nghyd-Gymry, a’u bod yn cael eu defnyddio eto gan Dduw i hyrwyddo’r Efengyl.

Mae Lois Dafydd yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynychu Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.