Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwyrddach

3 Rhagfyr 2019 | Gan Mari Elin
Gwyrddach

Rhannu

Amhosib yw anwybyddu’r sylw cynyddol y mae ein hamgylchedd yn ei gael ar y cyfryngau. Mae’n destun balchder ein bod ni fel gwlad wedi cyflwyno nifer o ddeddfau a phrosiectau i geisio delio gyda’r problemau – er bod llawer iawn eto i’w wneud. O leihau gwastraff plastic i atal llygredd awyr, ac o ailgylchu i greu ynni cynaliadwy, mae’r frwydr wedi cychwyn. Mae fel pe bai pobl yn deffro i’r angen o ofalu am ein planed. Yma cawn sgwrs gyda Mari Elin sydd y tu ôl i’r blog poblogaidd Gwyrddach, sy’n ceisio hyrwyddo gofal am y blaned.    

D’wed ychydig am dy hunan – wyt ti wastad wedi bod gyda diddordeb mewn gofalu am yr amgylchedd?  

Mari Elin dw’i, a dwi’n byw gyda fy ngŵr Gruffydd ger Aberystwyth. Dwi’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda’r dydd, a gyda’r nos yn ymhél â phob math o bethau creadigol, o greu celf i ’sgwennu llyfr!  

Mewn gwirionedd, dim ond rhyw flwyddyn a hanner yn ôl nes i wirioneddol ddechrau ystyried yr amgylchedd ar lefel bersonol, a’n heffaith ni arno, o ddifrif. 

Fe dreulies i lot o fy mhlentyndod ar fferm fy Mam-gu a Dad-cu, lle’r oedden i’n helpu Mam-gu gyda’r ardd ac yn ei gwylio hi’n gwneud y mwyaf o bopeth oedd ganddi. Doedd dim yn mynd i wastraff, a byddai popeth yn cael ei drwsio. Ac wedyn wrth gwrs dw’i wrth fy modd yn gwylio The Good Life, felly mae’r syniad yma o fyw yn symlach a llai gwastraffus wastad wedi bod o gwmpas. 

Pam fod edrych ar ôl y blaned mor bwysig i ti?  

Fe wnaeth lot o bethau bach arwain fi at gymryd diddordeb, ond efallai’r peth gafodd y mwyaf o ddylanwad arna’i oedd gwylio rhaglen ddogfen David Attenborough, Blue Planet II, a theimlo pob math o bethau – pryder, siom ac euogrwydd.  

Ond pan es i ati i feddwl pam fod hyn wedi effeithio cymaint arna’i, nes i sylweddoli mai achos fy mod i’n Gristion oedd hynny.  Dwi’n credu bod y ddaear yma a phopeth sydd ynddi yn rhodd (hollol hollol anhygoel) i ni oddi wrth Dduw, a’n dyletswydd ni yw gofalu amdani, a pheidio cymryd mantais ohoni. 

Sut ydym ni yn gwneud yng Nghymru o’i gymharu â gwledydd eraill?  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o bolisïau yn ymwneud â’r amgylchedd a newid hinsawdd, a’r bwriad yw ein bod ni’n wlad ddiwastraff erbyn 2050.  Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am fagiau plastig, ac erbyn hyn ni yw’r ail wlad orau yn y byd am ailgylchu yn y cartref – mae lot o waith i wneud yn amlwg, ond ry’n ni ar y trywydd cywir.  

D’wed ychydig am y blog – gwyrddach a’r llyfr newydd?  

Wrth ddechrau ar y daith yma i leihau gwastraff a phlastig, doedden i ddim yn siŵr iawn ble i ddechrau, a doedd dim llawer o wybodaeth ar gael i fi yn Gymraeg.  Felly fe es i ati i gofnodi’r siwrne ar ffurf y blog Gwyrddach.  Dw’i ddim yn arbenigwraig ar fyw yn wyrdd o bell ffordd, ond yn mwynhau trio gwahanol bethau a ‘sgwennu am y profiad.  Mae’r blog ar fin cael ei droi’n llyfr sy’n llawn profiad personol, syniadau syml a phob math o ryseitiau a thiwtorialau – o ddeunydd glanhau i sut i lapio anrhegion! 

Pa effaith mae dy ffydd yn ei gael ar dy fywyd?  

Fi’n dueddol o boeni (lot!) am bethau, yn enwedig dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf, felly mae cael ffydd mewn Duw fi’n gallu trystio gyda phopeth yn y byd i gyd yn help mawr iawn i fi.  Mae fy ffydd i’n gwneud fi’n fwy llawen a gobeithiol hefyd, ac ers dechrau talu mwy a mwy o sylw i’r byd o’m cwmpas, dwi’n gallu ei fwynhau gymaint mwy o wybod mai Iesu sydd wedi creu pob elfen ohono, ac yn rhyfeddu ar greadigrwydd Duw yn ddyddiol. 

Fel person ifanc – wyt ti’n optimistaidd neu yn besimistaidd am ein dyfodol?  

Mae’n hawdd iawn bod yn besimistaidd – bob dydd mae ‘na rhyw ystadegyn newydd yn cael ei gyhoeddi i godi ofn arnom ni.  Y gwir yw ein bod ni wedi gwneud tipyn o smonach o’r ddaear yma, ond mae gobaith.  Mae’r genhedlaeth iau yn cymryd diddordeb mewn materion amgylcheddol, a petai ni’n gallu perswadio pawb i newid un peth bach, mae ’na obaith.  Wedi dweud hynny, mae’r cyfan yn nwylo Duw, a dwi’n falch iawn o hynny! 

 

Pump syniad gan Mari i fyw yn fwy cynaliadwy: 

  • Defnyddiwch fagiau siopa ailddefnyddiadwy 
  • Defnyddiwch botel ddŵr ailddefnyddiadwy a’i hail-lenwi 
  • Defnyddiwch gwpan coffi ailddefnyddiadwy 
  • Prynwch ddillad ail-law neu vintage  
  • Peidiwch â digalonni wrth fethu!