Fy hoff garol: Amanda Griffiths
14 Rhagfyr 2018 | Gan Amanda Griffiths
Fy hoff garol ydy ‘Wele, cawsom y Meseia’ gan Dafydd Jones, Caeo.
Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca’ ’rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.
Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria,
Aeth i’r lladdfa yn ein lle;
Swm ein dyled fawr a dalodd
Ac fe groesodd filiau’r ne’;
Trwy ei waed, i ni caed
Bythol heddwch a rhyddhad.
Dyma Gyfaill haedda’i garu,
A’i glodfori’n fwy nag un;
Prynu’n bywyd, talu’n dyled,
A’n glanhau â’i waed ei hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!
Dafydd Jones, Caeo (1711-77)
Mae E. Wyn James yn ei gyfrol Carolau a’u Cefndir yn cyflwyno cefndir a chynnwys y garol hon i’r dim:
Defnyddir y term ‘holl gynhwysfawr’ i ddisgrifio’r carolau plygain Cymraeg traddodiadol. Mae’n derm da, gan mai holl hanes yr iachawdwriaeth yng Nghrist yw cwmpas eu cân, ac nid y Geni’n unig.
Mae’r tri phennill byr yma’n crynhoi neges yr Efengyl yn glir a chryno. O nodi’r proffwydoliaethau am achubwr yn yr Hen Destament, i’r aberth ddrud ar Galfaria dros ein pechodau, a’r iachawdwriaeth sydd ar gael i bawb yn sgil hyn, mae Dafydd Jones yn cloi’r garol â gwahoddiad – neu orchymyn efallai – i ddod at Iesu a phlygu glin i’w addoli a’i garu a diolch iddo am ein “prynu” a’n “glanhau” o’n pechod.
Rydw i wrth fy modd gyda’r gwrthgyferbyniadau sy’n blith draphlith yn y garol hon:
- Mae Iesu’n “Feseia” a “gwir Fab Duw” ac eto’n “gyfaill” ac yn “ffrind”
- Tywallt “gwaed” Iesu a’i aberth ef unwaith ac am byth ar y groes oedd yr unig ffordd i ddynoliaeth gael “bythol heddwch a rhyddhad”
Mae E. Wyn James yn esbonio cafodd Ioan Fedyddiwr a’r disgyblion a Dafydd Jones o hyd i’r Meseia, ac yn ein hatgoffa am rai fel Sachareias ac Elisabeth (rhieni Ioan Fedyddiwr) adeg y Geni yn disgwyl yn eiddgar am ddyfodiad y Meseia.
Fyddwch chi’n gallu dweud yr un peth y Nadolig hwn? Fyddwch chi’n derbyn y gwahoddiad i ddod at y Meseia, at Oen Duw, at Iesu a’i gydnabod yn Arglwydd?
Mae Amanda Griffiths yn dod o Gaerdydd ac yn mynychu’r Eglwys Efengylaidd Gymraeg yno.