Fy Hoff Adnod – Salm 91:14-15
25 Mehefin 2019 | Gan Katie Isaac
Gan Katie Isaac
Aeth Katie i Ysgol Glantaf, Caerdydd. Bellach, mae hi’n aelod yn Eglwys Caersalem, Gorseinon ac mae hi’n hyfforddi i fod yn Heddwas. Dyma Katie yn esbonio beth yw ei hoff adnod, a pham.

Rhannu
“Dw i’n mynd i gadw’r un sy’n ffyddlon i mi yn saff,” meddai’r ARGLWYDD;
“bydda i’n amddiffyn yr un sy’n fy nabod i.
Pan fydd e’n galw arna i, bydda i’n ateb.
Bydda i gydag e drwy bob argyfwng.
Bydda i’n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.” Salm 91:14-15 (Beibl.net)
Pan ro’n i’n dair ar ddeg, ro’n i’n ymwybodol o’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud am y ffaith fod Duw yn gysur i’w bobl ac ei fod yn gariadlon ac yn bwerus iawn, ond er fy mod yn credu hyn, chafodd hynny fawr ddim effaith ar fy mherthynas gyda Duw nac ar fy mywyd o ddydd i ddydd.
Ond pan es i ar wersyll Cristnogol y flwyddyn honno, fe glywais i bregeth a wnaeth i fi sylweddoli o’r newydd peth mor ddifrifol yw pechod a pha mor ddifrifol oedd fy mhechod i. Darllenais i’r adnodau hyn o Salm 91 ar ôl y bregeth honno, a chefais fy llorio gan mor fawr yw ymrwymiad Duw i’n hachubiaeth ni a’n diogelwch ynddo Fe.
Mae’r adnodau hyn yn sôn am y ffaith y gallwn ni droi at yr Arglwydd mewn trafferth, ac mae’n dweud y bydd yn ein hateb pan rydym ni’n galw ar Ei Enw. Yr addewid yw y bydd E yn edrych ar ein hôl ni am ei fod yn ein caru. Rydw i wedi gorfod ymddiried yn Nuw a phwyso arno Fe gymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i fi ddechrau gyrfa newydd, ac mae’r addewid anhygoel yma yn ei Air wedi bod yn gysur ac anogaeth enfawr i fi, yn fy atgoffa bod Duw yn rheoli bob sefyllfa.
Mae bob dydd yn dod â sialensau newydd, ond rydw i’n gwybod bod Duw yn fy ngharu a’i fod wedi fy achub i, ac y bydd E gyda fi drwy bob sefyllfa y bydda i’n ei hwynebu.