Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Mae Christmas yn dod!

18 Rhagfyr 2019 | Gan Steffan Job

Rhannu

Dwi’n eistedd ar y soffa gyda photel o cherry coke yn fy llaw o flaen y telly yn edrych ar ‘I’m a celebrity get me out of here!’ – mae’n rhaglen crazy.

Dwi ddim yn siarad am beth mae’n rhaid i’r celebrities ei wneud ar y rhaglen (er fod hynna yn ddigon gwallgof!) – dwi’n siarad am y celebrities eu hunain! Dwi methu’n lân a deall pam bod celebrities mor bwysig i ni heddiw yng Nghymru. Tydi o ddim fel bod y rhan fwyaf o celebs yn gwneud gwaith pwysig iawn ydio?

Ond roedd adeg yng Nghymru pan roedd pethe yn wahanol iawn. Pe byddech chi wedi byw yn Ne Cymru tua 200 o flynyddoedd yn ôl mae’n bur debyg y byddech chi wedi clywed pobl yn siarad am celeb gwahanol iawn i’n celebs ni heddiw. Y frawddeg fyddech chi’n ei glywed ar ochr y stryd fydde ‘Ma Christmas yn dod!’ – ac nid sôn am Nadolig oedden nhw – ond sôn am ddyn. Ac nid jest dyn arferol… ond pregethwr… o Ogledd Cymru…. gydag un llygad… a’i enw oedd Christmas Evans! Dwi ddim am roi gwers hanes i chi (da chi’n cael digon o’r rheini yn ysgol siŵr o fod), ond dwi yn mynd i sôn ychydig am y boi yma, achos dwi’n meddwl galle ni wneud efo mwy o bobl fel Christmas heddiw.

Pwy oedd e? 

Does neb yn cael gwobr am ddyfalu pryd ganwyd Christmas Evans, ar Ragfyr 25, 1766 mewn lle o’r enw Esgair Wen yn ymyl Llandysul. Roedd ei dad yn grudd, ond bu farw pan oedd Christmas yn ifanc, gan adael y teulu mewn tlodi mawr. Dyma pryd y daeth ei ewythr, James Lewis, at ei fam gan gynnig lle i Christmas ar ei fferm, ac felly aeth Christmas at ei ewythr. Roedd James Lewis yn ddyn ofnadwy, oedd yn camdrin Christmas yn fawr.

Ar ôl chwe blynedd o fyw gyda’i ewythr gadawodd Christmas gan fynd i weithio fel gwas fferm. Erbyn hyn roedd yn un deg saith oed ac yn gymeriad caled nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu. Ond yn rhyfeddol iawn daeth Christmas yn Gristion trwy glywed gweinidog yn ei ardal yn pregethu am Iesu Grist, ac o’r cyfnod yna ‘mlaen roedd ei fywyd wedi newid yn llwyr. Fe ddechreuodd gael gwersi ysgrifennu a darllen ac ymroi i ddysgu am Dduw. Roedd ei fywyd wedi newid gymaint, ac yn ôl yr hanes, dyna pam y collodd ei lygad drwy i griw o’i hen ffrindiau ymosod arno a’i guro. Ar ôl peth amser fe symudodd i Ben Llŷn yn y Gogledd a gweithio fel rhywun oedd yn rhannu neges Iesu gydag eraill.

Beth wnaeth e? 

Dyn tlawd oedd Christmas ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel gweinidog mewn nifer o lefydd drwy Gymru gan gynnwys Sir Fôn, Caerffili, Caerdydd a Chaernarfon. Yr un peth sy’n sefyll allan amdano yw lle bynnag byddai’n mynd i bregethu, byddai llawer o bobl yn dod i wrando arno, a llawer o bobl yn dod yn Gristnogion. Roedd Duw yn defnyddio Christmas Evans i fendithio Cymru, ac roedd pobl yn rhyfeddu wrth ei glywed yn pregethu. Pan oedd yn weinidog yn y Gogledd fe âi ar deithiau pregethu, yn aml yn cerdded i dde Cymru i gasglu arian ar gyfer capeli tlawd y Gogledd. Roedd yn treulio llawer o amser yn gweddïo ac yn aml byddai’n gorfod stopio wrth deithio i weddïo am nifer o oriau (mae hanes amdano yn gweddïo am dair awr mewn cae y tu allan i Ddolgellau, gan ei fod yn gwybod ei fod wedi pellhau oddi wrth Dduw). Doedd Christmas ddim yn berffaith o bell ffordd, ac er bod Duw yn ei ddefnyddio roedd yn mynd drwy gyfnodau anodd yn ei fywyd lle’r oedd yn colli golwg ar beth oedd yn bwysig yn y ffydd Gristnogol. Ond trwy’r cyfan fe ddefnyddiodd Duw e, mewn ffordd ryfeddol iawn.

Beth fedrwn ddysgu ganddo fe? 

Roedd Christmas yn celebrity go iawn – roedd Cymru gyfan yn gwybod amdano, ond nid dyna oedd yn bwysig iddo. Roedd yn caru Duw ac roedd am ddweud wrth bobl am Iesu Grist. Nid oedd wedi cael bywyd hawdd o gwbwl, ac eto fe dreuliodd ei holl fywyd yn ymroi i wneud yr hyn oedd Duw am iddo ei wneud. Mae yna bobl heddiw yn y nefoedd oherwydd bod Christmas Evans wedi dweud wrthyn nhw am Iesu Grist a Duw wedi eu hachub. Mae ei fywyd yn dangos i ni sut i fyw fel Cristion. Mae’n golygu rhoi pob dim i Dduw a byw er ei fwyn ef gan ddibynnu arno.

Mae’n hawdd i ni golli golwg ar beth ydi bywyd go iawn yn ein cymdeithas ni heddiw; nid ceisio sylw i ni ein hunain yw’r ffordd ymlaen. Rhaid i ni fyw i wasanaethu Duw a phobl eraill – dyna wnaeth Christmas Evans, a dyna mae Duw yn dy alw di i wneud!