Garin Jenkins
8 Chwefror 2019 | Gan Garin Jenkins

Rhannu
Does dim bachwr wedi ennill mwy o gapiau i dîm Rygbi Cymru na Garin Jenkins. Nid yn unig ei fod wedi sgorio cais i’w glwb Abertawe wrth iddyn nhw guro Awstralia yn 1992 (21-6 – dipyn o grasfa!) ond mae hefyd wedi chwarae mewn tair cwpan y byd, wedi ennill y gynghrair a’r gwpan i’w glwb yn ogystal â bod yn gapten. Er cymaint mae Garin wedi ei wneud ar y cae chwarae mae’n esbonio mai oddi ar y cae mae wedi wynebu’r her fwyaf yn ei fywyd.
‘Trwy gydol fy nyddiau ysgol roeddwn wrth fy modd gyda rygbi. Ond roeddwn hefyd yn wyllt iawn; doeddwn i ddim yn troi lan i’r ysgol. Dwi’n meddwl i mi roi mewn i bwysau gan fy ffrindiau ac roeddwn eisiau dangos fy hun.
‘Mi wnes i wir wrthryfela pan oeddwn yn dair ar ddeg mlwydd oed – mynd off the rails go iawn.
‘Cefais fy magu i fynd i’r Ysgol Sul lle cefais fy nysgu am Iesu. Mi wnes i ei dderbyn a’i drystio gyda ffydd syml iawn pan oeddwn yn blentyn, ond wedyn troi oddi wrtho pan oeddwn yn dair ar ddeg mlwydd oed.
Amseroedd tywyll
‘Yn y diwedd cefais fy nhaflu allan o’r ysgol a’m rhoi mewn cartref ar gyfer bechgyn drwg. Roedd yn sioc anferth i mi oherwydd doeddwn i ddim eisiau bod yno o gwbl. Roeddwn yn dda mewn chwaraeon, yn arbennig rygbi, pêl droed a bocsio. Roedd yn amser tywyll iawn yn fy mywyd ac roeddwn wirioneddol yn ofni na fyddai modd i mi ddod yn ôl o’r lle yr oeddwn wedi mynd iddo. Dwi’n cofio meddwl mod i’n mynd lawr yr afon yn sydyn iawn ac yn methu cyrraedd y lan. Ond ar yr un pryd roeddwn yn cofio rhai o’r gwersi yr oeddwn wedi eu dysgu yn yr Ysgol Sul, felly roeddwn yn gweddïo ar Dduw am gymorth. Wrth edrych yn ôl dwi ddim yn meddwl y byddwn wedi dod drwy’r cyfnod oni bai am gariad Duw tuag ataf i drwy fy rhieni.
‘Ar ôl pedwar neu bump mis roeddwn yn ôl yn Ynysybwl (fy nghartref), a chefais waith yn y pwll glo. Roeddwn yn mwynhau chwarae rygbi i’r pentref a gweithio’n galed. Ond roeddwn bob amser angen disgyblaeth. Roeddwn yn dechrau poeni na fyddwn i byth yn gwireddu fy mreuddwyd fel chwaraewr rygbi gan fy mod mor ddrwg ar y cae rygbi – cefais fy ngwahardd lawer gwaith – unwaith am ddeg wythnos.
‘Yna yn 1988 fe gaeodd y pyllau glo ac fe gollais i fy ngwaith. Doedd rygbi ddim yn broffesiynol (h.y. cael tâl am chwarae) ar y pryd felly doedd hi ddim yn glir o gwbl y gallwn wneud bywoliaeth allan o’r gêm. Ond fe ddaeth cyfle i fi fynd i Seland Newydd i chwarae, ac i ffwrdd â mi. Ar ôl i mi ddod yn ôl dechreuodd fy ngyrfa rygbi go iawn – roedd pethau’n gwella.
‘Dwi’n dal i gofio’r alwad ffôn yn dweud fy mod wedi cael fy newis i chwarae rygbi i Gymru am y tro cyntaf. Roeddwn yn palu twll ym mharc Pontypridd – ond mi wnes i gamu allan o’r twll yn sydyn iawn pan glywes i’r newyddion!
Gwireddu breuddwydion
‘Roedd y cap cyntaf yn wych, ond doeddwn i ddim eisiau dim ond un cap – roeddwn eisiau llawer mwy. Mae’n od, ond pan fyddwn yn anelu at rywbeth ac yna yn ei gael, dan ni’n gweld nad yw yn ein boddhau wedi’r cyfan. Pan oeddwn yn fachgen bach roeddwn yn meddwl, ‘Pan fyddaf fi yn chwarae rygbi i Gymru mi fyddaf fi’n cael gwyliau braf a char mawr’, ac ie mi roedden nhw’n braf – ond doedden nhw ddim yn llenwi’r gwacter oedd yn fy mywyd.
‘Daeth cyfnod arall trist pan oeddwn yn gapten ar dîm rygbi Abertawe. Roedden ni’n chwarae yn erbyn Caerdydd – y gêm pan dorrodd Gwyn Jones ei wddw. Roedd y gêm yn fyw ar S4C ac ar ddiwedd y gêm fe wnes i neidio i mewn i’r dorf oedd yn gwylio’r gêm. Roedd pawb yn meddwl mod i wedi gwneud Eric Cantona (chwaraewr o Man U wnaeth ymosod ar gefnogwr am weiddi arno o’r dorf), ond roedd fy nhad wedi cael trawiad ar y galon tra’r oeddwn yn chwarae.
‘Dwi’n siŵr fod llawer o bobl a fu’n fy ngwylio yn chwarae yn meddwl nad oeddwn i’n lawer o Gristion. Ond dwi wir yn credu fod y dyddiau cynnar o fynd i’r Ysgol Sul a chael fy nysgu drwy Ymgyrch y Traethau (Beach Mission) yng Nghei Newydd wedi aros gyda mi drwy’r holl amser, er mai yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn llawer cliriach. Doedd Duw byth yn bell i ffwrdd.
‘Doeddwn wir ddim eisiau dweud wrth bawb fy mod yn credu yn Nuw – ‘Wythnos nesaf, dyna pryd y byddaf yn dechrau mynd i’r capel go iawn’ – dyna oedd fy agwedd. Roeddwn yn credu nad oeddwn i’n barod i wneud y cam – neu dyna beth oedd fy esgus beth bynnag. Ond hyd yn oed yn ystod yr amser yna roedd y neges yr oeddwn wedi ei glywed yng Nghei Newydd yn agos i mi.
‘Dyma nhw’n dweud stori wrtha i am Lasarus a’r dyn cyfoethog. Os ydw i’n onest roedd y stori yn fy nychryn yn fawr fel hogyn 12 mlwydd oed. Roedd gan y dyn cyfoethog bob dim yn y byd, ond pan fuodd farw doedd o ddim yn y lle mae Cristnogion yn credu eu bod yn mynd. Ar y llaw arall doedd gan Lasarus ddim byd mewn bywyd, roedd hyd yn oed yn dwyn bwyd y cŵn. Ond pan oedd ei fywyd ef drosodd dyma fo’n mynd i fan lle nad oedd dim poen am byth. A dyna’r stori wnaeth fy mherswadio a’m gwthio ar hyd y ffordd.
Dim fi sy’n rheoli
‘Roeddwn bob amser yn credu fod gennyf fi ddigon o amser i wneud beth bynnag oeddwn i eisiau. Rydym yn credu y bydd yna wythnos nesaf, ond mae’n rhaid i ni sylweddoli nad ni sy’n rheoli. Ychydig amser yn ôl fe gefais gancr yn fy ngwddw. Roedd yn her fawr i mi ac unwaith eto fe wnes i droi at Dduw mewn gweddi. Ond y tro yma fe wnes addewid i Dduw oherwydd y cyfan y mae wedi ei wneud drosof i. Rwy’n teimlo mor freintiedig i gael profi cynhesrwydd a chariad Duw. Mae wedi bod yno drwy’r amser ond dwi wedi’i deimlo’n arbennig yn ddiweddar. Dwi’n ddiolchgar iawn fod pob dim wedi troi allan mor dda yn fy mywyd, ond tro yma does yna ddim awydd ynof i droi i ffwrdd oddi wrth Dduw a mynd fy ffordd fy hun. Dwi wedi gwneud ymrwymiad i Dduw bellach.
‘Mae rhai pobl yn dweud fy mod wedi dod yn Gristion gan fy mod wedi cael gormod o bwmps ar y pen! Ond dwi’n credu pe byddwn i wedi bod yn y sefyllfa dwi ynddi heddiw pan oeddwn i yn chwarae, fe fyddwn i wedi bod yn llawer gwell chwaraewr. Yn sicr fe fyddwn i wedi bod yn llawer cryfach person a llawer mwy o ddisgyblaeth bersonol gennyf. Dwi’n teimlo hefyd fod gennyf i integriti bellach sydd ddim yn effeithio ar ba mor gystadleuol ydw i. Yn anffodus fyddwn i byth yn gallu chwarae rygbi i Gymru gan fy mod dros 45 oed nawr a tua pum stôn yn rhy dew! Ond dwi’n siŵr y bydd yna lawer o sefyllfaoedd heriol i’w wynebu oddi ar y cae chwarae.
‘Rwy’n gwybod fod llawer o bobl yn dweud mod i wedi gwneud yr hyn dwi wedi ei wneud gan fy mod i’n berson penderfynol sydd wedi gweithio’n galed. Ond pan dwi’n edrych yn ôl dros fy mywyd dwi’n gwybod fod Duw wedi bod yn gymorth ac wedi fy mendithio mewn ffordd arbennig. Dwi mor hapus fod Duw wedi dangos gymaint o ras tuag ataf i dros y blynyddoedd.
‘Mae pobl yn dweud fod Garin wedi mynd yn grefyddol. Ond does gen i ddim diddordeb mewn crefydd. Mae gen i wir ffydd a pherthynas gydag Iesu Grist – yr un sydd wedi fy achub. Mae’n hawdd i ni edrych yn ôl a dweud fod y blynyddoedd gorau wedi pasio – ond gydag Iesu medrwn yn sicr ddweud fod y gorau yn dal o’n blaenau!’