Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Dydd Gwener y Groglith

19 Ebrill 2019 | Gan Steffan Job
Luc 23:43

Rhannu

Dydd Gwener y Groglith – mae pawb yn gwybod ei fod yn ddigwyddiad pwysig – Iesu yn marw ar y groes, ond pam a beth sydd ganddo i’w wneud gyda ti a fi heddiw?

Un gair – marwolaeth.

Dwi ddim eisiau codi’r felan ar bawb, a dwi’n gwybod na wnâi ffrindiau newydd wrth godi’r peth, ond does dim ots pwy yw rhywun, eu cefndir neu faint o arian sydd ganddyn nhw, mae pawb yn y pen draw yn marw. Does dim llawer o ddim byd yn sicr mewn bywyd, ond marw… mae’n digwydd i bawb yn y diwedd.

Mae’n un o’r pethau ofnadwy yna – mae gymaint ohonom wedi profi’r tristwch a ddaw o golli rhywun agos, boed yn Daid, Nain neu ffrind. Mae’r cyfan i’w weld mor annheg a chreulon ac annaturiol. A phwy ohonom sy’n hoffi meddwl am ein marwolaeth ein hunain? Gwthio’r cyfan i gefn y meddwl a wna’r rhan fwyaf ohonom… nes bod yn rhaid i ni wynebu’r peth.

Mae’n swnio’n beth syml ac amlwg, ond mae Duw yn casáu marwolaeth hefyd.

All Duw ddim marw ei hunan, ond mae’n galaru wrth weld marwolaeth yn cymryd gafael yn y bobl mae wedi eu creu; nid fel yma mae pethau i fod. Gan ein bod wedi troi cefn ar yr un sydd wedi’n creu a gwrthod ei ffyrdd mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i ni. Canlyniad ein calonnau drwg ni yw marwolaeth. Dwi ddim yn dweud fod rhywun yn marw o ganlyniad i rywbeth sbesiffig maent wedi ei wneud, ond gan fod calon pob un ohonom yn ddrwg, felly mae marwolaeth yn realiti i bawb. Fel mae’r Beibl yn dweud – ‘Cyflog pechod yw marwolaeth’.

Er nad oes modd i ni wneud unrhywbeth i atal marwolaeth, mae Duw yn gallu a dyna pam fod marwolaeth Iesu ar y groes mor bwysig. Doedd Iesu ddim yn haeddu marw o gwbl gan ei fod yn ddyn ac yn Dduw ac wedi byw yn berffaith ac wedi plesio Duw ei dad yn llwyr. Doedd gan farwolaeth ddim gafael arno o gwbl.

Ateb Duw i’n marwolaeth ni oedd bod Iesu wedi dod a marw ar y groes.

Ar y groes mae Iesu yn dioddef a derbyn y farwolaeth y mae pob un ohonom yn ei haeddu. Yr un da a pherffaith yn marw dros y rhai sydd ddim yn dda ac yn bell o fod yn berffaith. Doedd dim ffordd arall i dorri grym marwolaeth a’n cymodi â Duw. Fyddai Duw ddim yn berffaith pe na bai yn barnu pob drwg, ac ar y groes rhwng y ddau leidr mae Iesu yn ei gorff ei hun yn derbyn y farn y mae drygioni’r byd yn ei haeddu. Trwy i Iesu farw mae’n torri grym drygioni yn ein bywyd, sef marwolaeth. A’r hyn sy’n profi fod hyn wedi digwydd yw ei fod yn dod nôl yn fyw tri diwrnod wedyn!

Wrth wynebu marwolaeth Iesu, mae gan bob person ddewis.

Does unman lle y gwelwn hyn yn fwy clir nag yn ymateb y ddau leidr oedd ar y ddwy groes bob ochr i Iesu. Gwelwn un ohonynt yn rhegi ar Iesu ac yn gwneud hwyl ar ei ben er ei fod yn y sefyllfa fwyaf truenus. Mae’n gwrthod Iesu ac yn bychanu’r aberth y mae Iesu wedi ei wneud.

Yr oedd un o’r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw’r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”  Luc 23:39

Dyna mae gymaint heddiw yn ei wneud; gwrthod Iesu a’i anwybyddu. Canlyniadau hynny fydd marw heb Iesu, a gorfod ei wynebu fel barnwr cyfiawn.

Ond mae’r lleidr arall yn wahanol. Mae’n sylweddoli ei fod mewn sefyllfa ddifrifol a’i fod yn marw  o ganlyniad i’w ddrygioni ei hunan.

Ond atebodd y llall, a’i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? I ni, y mae hynny’n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy’n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o’i le.” Luc 23:40-41

A’i ymateb? Mae’n gofyn i Iesu ei helpu.

Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i’th deyrnas.” Luc 23:42

Mae’n syml, mae’n onest a gwelwn ymateb hyfryd Iesu:

Atebodd yntau, “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Luc 23:43

‘Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys’ – yn y nefoedd, yn mwynhau bywyd gyda Duw. Doedd y lleidr ddim yn gallu gwneud dim i brofi ei gariad tuag at Iesu a doedd o ddim yn gallu gaddo byw bywyd gwell (doedd ganddo ddim bywyd ar ôl!). Mae’n derbyn maddeuant llwyr ac wrth i’w lygaid gau am y tro olaf yn y byd yma mae’n eu hagor yn y nefoedd yn edrych ar Dduw.

Ar y groes gwelwn Iesu yn marw er mwyn talu’r pris dros bechodau pobl a thorri grym marwolaeth. Gwelwn hefyd effaith hyn ar y lleidr oedd ar y groes drws nesaf iddo pan gafodd y lleidr faddeuant llwyr a bywyd am byth gyda Duw.

Beth amdanat ti?

Rwy’n gobeithio fod marwolaeth yn bell oddi wrth bob un ohonom, ond rhyw ddydd fe fydd yn rhaid i ni wynebu ein crëwr. Sut wyt ti am ymateb? Mae’r ffaith fod marwolaeth ar y ffordd yn arwydd fod rhywbeth mawr o’i le a tydi Duw ddim am i ti fod yn elyn iddo am byth; paid troi dy gefn ar Iesu. Os wyt ti’n gweld dy fod angen maddeuant ac nad oes gobaith yn unman arall, yna tro at Iesu a gofyn am help. Mae’r Beibl yn dweud yn glir y bydd yn dy glywed. Mae’r groes yn dangos ei fod wedi cymryd y gosb rwyt ti’n ei haeddu, ac mae ei atgyfodiad yn dangos y byddi’n saff gyda fe am byth!

Oes oes gen ti mwy o gwestiynau, beth am ddanfon nhw atom trwy’r ddolen ar dop y wefan? Neu os wyt ti eisiau dysgu mwy am pam wnaeth Iesu farw ar y Groes, beth am ofyn i rywun yn dy eglwys? Os hoffet ddysgu mwy am y Pasg trwy edrych ar beth sydd gan y Beibl i ddweud, mae gennym dau gynllun darllen sy’n astudio’r hanes – 1 a 2. I wrando ar bregeth ar waith Iesu ar y groes, ewch i’r dudalen hon.