Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 5 – Cyfnewid Lleoedd

8 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

5 – Cyfnewid Lleoedd

Marc 1:40-45

Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.” A chan dosturio estynnodd ef ei law i a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef. Ac wedi ei rybuddio’n llym gyrrodd lesu ef ymaith ar ei union, a dweud wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.” Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi’r hanes i gyd ar goedd a’i daenu ar led, fel na allai lesu rnwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.

Geiriau Anodd

  • Gwahanglwyf: Salwch difrifol sydd yn effeithio’r nerfau a’r croen.
  • Erfyn: Gofyn yn daer, o ddifrif.
  • Tosturio: Teimlo trueni dros rywun.
  • Offeiriad: Arweinydd crefyddol lddewig oedd yn gwasanaethu yn y deml.
  • Offrwm: Aberth i Dduw.
  • Lleoedd: Mannau.

Cwestiwn 1

Ydych chi erioed wedi teimlo’n unig a heb lawer o ffrindiau?

Cwestiwn 2

Pam ydych chi’n meddwl fod lesu mor awyddus i bobl beidio â dweud yn gyhoeddus pwy yw e?

  Er mwyn deall yr hanes yma’n iawn mae’n rhaid gwybod ychydig am y salwch roedd y dyn yn dioddef ohono. Salwch sydd yn effeithio’r nerfau ydyw, sy’n golygu fod modd brifo eich hunan heb sylweddoli. Oherwydd fod modd dal y salwch gan eraill, roedd pobl oedd yn dioddef yn cael eu gorfodi i fyw yn bell o bobl eraill, ar wahân i’r gymdeithas, heb ddim cyswllt bron.

  Pan ddaeth y person hwn at lesu, mae’n debygol iawn y byddai pawb arall wedi rhedeg i ffwrdd, neu o leiaf wedi cadw draw. Ond edrychwch ar y ffordd hyfryd mae lesu’n ymateb. Dydy e ddim yn tynnu yn ôl. Mae’n gwneud y gwrthwyneb – yn cyffwrdd y dyn. Doedd y dyn yma siŵr o fod heb deimlo person arall yn cyffwrdd ag ef ers amser hir. Trwy eiriau lesu, mae’n cael ei wella’n syth.

  Doedd lesu ddim am i bobl wybod pwy oedd e nes bod yr amser cywir yn dod, felly mae’n gofyn i’r dyn gadw’n dawel am ei brofiad, ond mae e’n methu. Mae’n rhannu ag unrhywun sy’n fodlon gwrando. Canlyniad hyn yw fod lesu nawr, oherwydd sylw’r bobl, ddim yn gallu mynd i mewn i’r trefi, ac yn gorfod aros mewn ardaloedd unig – yr union lefydd y byddai’r dyn wedi cael ei orfodi i fyw ynddynt. Mae lesu yma wedi cyfnewid lle â’r dyn er mwyn iddo fe gael ei iacháu. Mae’r hyn sy’n digwydd yn debyg i beth welwn ni pan mae lesu’n marw ar y groes, gan ddioddef barn Duw yn ein lle ni.

Cwestiwn 3

Sut ydych chi’n meddwl y byddai’r digwyddiadau hyn wedi gwneud i’r dyn gwahanglwyfus deimlo?

Cwestiwn 4

Sut ddylai cariad Crist fan hyn newid y ffordd rydym ni’n trin pobl eraill? Pa fath o bobl mae ein cymdeithas ni yn eu hystyried yn frwnt ac yn ceisio cadw draw oddi wrthynt?

Gweddïwch

y bydd Duw yn eich helpu i garu pobl eraill dim ots pwy ydyn nhw, gan roi eu hanghenion nhw cyn eich rhai chi.