Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Bodlonrwydd

23 Rhagfyr 2019 | Gan Sylvia Prys Jones
bodlonrwydd

Rhannu

Ydych chi’n fodlon?

Beth yw ystyr bod yn fodlon? Os chwiliwch mewn geiriadur fe welwch fod bodlonrwydd yn cael ei ddiffinio fel boddhad, hapusrwydd, pleser, hyfrydwch. Mae’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno mai dyna’r math o deimladau a brofwn os bydd popeth yn mynd yn dda yn ein bywydau, os byddwn yn byw mewn teulu cariadus, a digon o ffrindiau gennym, os cawn lwyddiant yn yr ysgol neu’r coleg, os byddwn yn iach a digon o arian gennym i brynu pethau sy’n rhoi pleser i ni.

Ond mae’n siwr y byddem ni i gyd yn cytuno hefyd fod bodlonrwydd yn rhywbeth dros dro sy’n gallu diflannu ar amrantiad. Rydym yn eistedd adref y sgrolio trwy luniau Instagram ffrind sy’n cael gwyliau cyffrous dramor, neu’n cael hwyl mewn parti na chawsom wahoddiad iddo. Neu rydym yn dyheu am brynu ffôn neu ddillad newydd ac yn methu eu fforddio. Neu rydym yn cael siom, yn methu arholiad pwysig neu’n colli gêm neu dwrnamaint. Efallai fod ffrindiau’n troi arnom, neu berthynas yn chwalu a ninnau’n unig ac yn isel. Ar adegau felly gall bodlonrwydd gilio fel dŵr yn llifo i lawr twll y plwg.

Gall fod yn anodd iawn bod yn fodlon adeg y Nadolig, yn enwedig, oherwydd bod hysbysebion teledu a’r cyfryngau cymdeithasol yn ein boddi mewn lluniau o hwyl, cwmniaeth, partion ac anrhegion drudfawr.

Mae gan y Beibl dipyn i’w ddweud am fodlonrwydd. Yn ei lythyr at y bobl oedd yn byw yn Philipi mae Paul yn dweud “dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy’n digwydd i mi.”. Dyma fath gwahanol o fodlonrwydd nad yw’n ddibynnol ar amgylchiadau allanol bywyd. Mae’n debyg bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr pan oedd yn garcharor mewn cadwynau yn Rhufain, yn bell o’i ffrindiau, yn brin o lawer o gysuron materol, ac yn gwybod bod marwolaeth yn ei ddisgwyl. Meddai yn yr un llythyr ‘Dw i wedi dysgu’r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy’r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i’n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.’ Yn gyffredinol doedd bywyd Paul ddim wedi bod yn hawdd. Roedd wedi wynebu cyfnodau mewn carchar, cael ei chwipio, newyn, casineb, blinder a pherygl enbyd.

Sut yn y byd gall Cristion fod yn fodlon o dan amgylchiadau o’r fath? Un cysur i ni yw bod Paul wedi dweud iddo ddysgu bod yn fodlon. Nid teimlad dros dro yw hwn sy’n mynd a dod yn ôl ein hamgylchiadau, ond agwedd sefydlog y mae’n rhaid i ni ei meithrin a’i hymarfer. Ni ddylem seilio ein bodlonrwydd nid ar deimladau chwit chwat, ond ar ein ffydd yng nghariad a doethineb Duw. Mae Duw yn ein cyfrif ni yn werthfawr, yn gofalu amdanom ac yn gwybod beth sydd orau er ein lles ym mhob sefyllfa. Wynebodd Iesu wawd a dirmyg yn ystod ei fywyd, ac yna’r dioddefaint mwyaf ar y groes ond dywedodd ‘Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg’.

Ond sut gallwn wneud hynny? Mae’n anodd gwrthsefyll y demtasiwn i fod yn anfodlon, i genfigennu a cholli calon, i rwgnach ac i amau gofal Duw. Mae’r gyfrinach yn y frawddeg nesaf yn llythyr Paul. ‘Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny’. Pan ddown at Iesu a gofyn iddo am faddeuant ac iddo fod yn Arglwydd ar ein bywydau, daw’r Ysbryd Glân i fyw ynom a’n galluogi i fyw wrth ei fodd.

Mae’r Cristion bodlon, sy’n ddiolchgar i Dduw, ac yn ufuddhau yn llawen i’w ewyllys ym mhob dim, yn dwyn clod i Dduw ac yn dystiolaeth i’r byd tywyll o’i gwmpas. Ar adeg y Nadolig, pan fydd cymaint o bwyslais ar bleser, ar brynu a mwynhau, pan fydd cymaint o bethau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ein temtio i genfigennu a bod yn anfodlon, gadewch i ni ofyn i Dduw ein gwneud ni’n fodlon wrth i ni gofio am wir ystyr yr Wyl, sef, ei gariad aruthrol tuag atom yn Iesu Grist.