Help! Ydw i yn Gristion go iawn? Colli Sicrwydd
27 Gorffennaf 2017 | Gan Martin Williams
Mae Ioan yn ei lythyr cyntaf yn dweud
Yr wyf yn ysgrifennu’r pethau hyn atoch chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, er mwyn ichwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol.
Mae’r Beibl yn dysgu bod hi’n bosibl i’r Cristion cael sicrwydd bod ganddo fywyd tragwyddol. Serch hynny, gall cyfnodau ddod pan fydd y Cristion yn amau ei iachawdwriaeth, neu yn colli ei sicrwydd. Efallai bod hynny’n wir amdanoch chi yn awr. Efallai eich bod yn cofio’r amser pan ddaethoch i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, yn cofio adeg pan oedd gennych sicrwydd eich bod yn blentyn i Dduw, ond yn awr, mae hynny wedi mynd, rydych chi wedi colli’ch sicrwydd. Pam mae hynny yn digwydd? Oes yna reswm tu ôl i hynny? Pam mae Cristnogion yn colli eu sicrwydd?
1. Ambell waith, heb unrhyw reswm penodol gallwn deimlo bod Duw wedi pellhau oddi wrthym
Rydym yn darllen y Beibl ond dydyn ni ddim yn cael yr un fendith ag o’r blaen; rydym yn ffeindio bod hi’n anodd gweddïo a dydyn ni ddim yn teimlo bod Duw yn gwrando neu’n ateb ein gweddïau mwyach. Rydym yn mynd i’r capel, yn ceisio addoli a gwrando ar y pregethu ond mae’r llawenydd o wneud hynny wedi mynd. O ganlyniad, rydym yn colli ein sicrwydd ac yn dechrau holi a ydym ni wir wedi dod at yr Arglwydd Iesu. Wel, os yw hynny yn ddisgrifiad ohonoch chi, nid ydych ar eich pen eich hunain yn hyn! Mae’r Salmau yn cofnodi profiadau pobl yr Arglwydd ac fe gawsant brofiadau tebyg. ‘Am ba hyd, Arglwydd, yr anghofi fi’n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?’ (Salm 13:1) llefodd y Salmydd.
Mae ‘na adegau pan fydd hyn yn gallu digwydd. Rhaid atgoffa ein hunain nad yw Duw wedi’n gadael – mae’r Arglwydd wedi addo ‘yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser’. Er ein bod yn teimlo bod Duw yn bell, y gwir yw, mae’r Arglwydd gyda ni bob amser. Ambell waith, ar ddydd cymylog gaeafol, nid ydych yn gweld yr haul yn disgleirio nac yn teimlo ei wres, ond mae’r haul yno o hyd, tu ôl i’r cymylau! Yn debyg i hynny, ar adegau mae’n teimlo fel bod Duw wedi pellhau oddi wrthym heb reswm – ond y gwir yw, mae Duw yno o hyd, gyda ni o hyd ac yn dal i’n caru ni.
Rhaid ymddiried ynddo! Dyfalbarhewch i ddarllen y Beibl! Gweddïwch ynglŷn â hyn – byddwch yn onest gyda’r Arglwydd mewn gweddi a gofynnwch Iddo i lenwi eich calon â sicrwydd unwaith eto.
2. Pechod
Mae pechod yn gallu cael effaith mawr ar ein sicrwydd ysbrydol. I fod yn onest, dyma un o’r prif resymau pam bod Cristnogion yn colli eu sicrwydd yn yr Arglwydd.
Mae Duw yn sanctaidd, yn bur ac yn berffaith ac mae’n galw ar Gristnogion i fod yn sanctaidd hefyd:
Byddwch sanctaidd, oherwydd yr wyf fi yn sanctaidd. 1 Pedr 1:16
Ei ewyllys yw i ni fod yn sanctaidd:
Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio. 1 Thes. 4:3
Wrth bechu felly, rydym yn mynd yn groes i ewyllys yr Arglwydd. Os ydym yn dewis dro ar ôl tro i anwybyddu gorchmynion Duw, os ydym yn penderfynu cau ein llygaid i’r Beibl a’n clustiau i’r hyn mae Duw’n ei ddweud, rydym yn mynd i ddechrau colli ein sicrwydd. Os dani’n byw yn bell oddi wrth yr Arglwydd, mae’r Arglwydd yn mynd i bellhau oddi wrthym ni. Fe fyddwn yn colli gwên yr Arglwydd arnom, yn colli’r teimlad o’i bresenoldeb agos, ac yn colli’r tangnefedd mae’n rhoi i’w blant. Yr unig ffordd i gael eich sicrwydd yn ôl felly yw troi oddi wrth bechod, edifarhau a throi yn ôl at yr Arglwydd Iesu.
3. Profiadau anodd
Mae bywyd yn gallu bod yn anodd. Mae profiadau trist yn gallu dod i’n rhan. Dydy’r Beibl ddim yn addo y bydd bywyd y Cristion yn y byd yn rhydd o broblemau a dioddefaint. Bydd y Cristion yn wynebu dioddefaint a thristwch. Bydd y Cristion hefyd yn gorfod dioddef oherwydd ei fod yn Gristion. Efallai daw galar, colled, salwch, colli swydd, problemau teuluol, problemau yn yr ysgol, problemau gyda ffrindiau, erlid, ac unigrwydd i’ch rhan. Mae profiadau anodd a thrist yn gallu effeithio ar ein sicrwydd ni. Mewn cyfnodau anodd mae rhaid atgoffa ein hunain o ddau beth. Yn gyntaf, bod yr Arglwydd yn dal ar ei orsedd:
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Rhu 8:28
Yn ail, bod yr Arglwydd yn dal i’n caru ac yn gofalu drosom ni:
Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf? … Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni. Rhu 8:35-37.
4. Diogrwydd ysbrydol

Rhannu
Mae Duw, yn ei air, yn gorchymyn i ni i gynyddu mewn gras a gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Mae Duw wedi dangos i ni yn y Beibl sut i wneud hynny. Mae’n ein hannog ni i ddarllen a myfyrio ar ei air, y Beibl. Mae’n ein hannog i ni gymryd bob cyfle i wrando ar y Beibl, i drafod y Beibl ac i ddysgu’r Beibl. Fel y mae babi yn tyfu trwy yfed llaeth, felly mae’r Beibl yn dweud y mae’r Cristion yn tyfu trwy yfed llaeth y gair. Mae Duw hefyd yn ein hannog ni i gymryd bob cyfle i fod gyda Christnogion, i gael cymdeithas gyda chredinwyr, er mwyn iddynt fod yn help i ni i ddyfalbarhau yn y ffydd. Mae’n ein hannog ni i gael cymdeithas ag Ef trwy weddi – gweddi bersonol a gweddïo gydag eraill. Os dani’n esgeuluso hyn, os dani’n ddiog, mae’n gallu effeithio ar ein sicrwydd. Gwnewch yn siŵr felly eich bod yn cymryd bob cyfle gewch chi i ddarllen a gwrando ar y Beibl, i gwrdd â, a bod yng nghwmni, Cristnogion ac i gael amser gyda’r Arglwydd.
5. Ymosodiadau’r diafol
Mae’r diafol yn casáu Cristnogion. Mae’n casáu gweld Cristnogion yn llawen ac yn hyderus yn y ffydd. Un o dactics y diafol yw ceisio dinistrio ein llawenydd a’n sicrwydd yng Nghrist. Mae’n ymosod ar ein sicrwydd ni, mae’n ein hatgoffa ni o’n pechod, mae’n ein temtio ni i gymharu ein hunain ag eraill i wneud i ni deimlo’n wael. Mae’n plannu amheuon yn ein calonnau, a hyd yn oed yn defnyddio’r Beibl i geisio dinistrio ein sicrwydd. Ei fwriad yw distrywio ein sicrwydd, ein llawenydd a’n tangnefedd yn yr Arglwydd.
Er enghraifft, un o’r pethau mae’r diafol y ei wneud yw defnyddio geiriau’r Arglwydd Iesu Grist yn Mathew 7 er mwyn greu amheuon a digalondid ynom. Dywedodd yr Arglwydd Iesu
Nid pawb sy’n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?’ Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.
Bydd y diafol yn gwneud i chi feddwl mai amdanoch chi mae’r Arglwydd Iesu yn son yn y fan hon. Bydd Satan yn dweud – “amdanoch chi mae Iesu yn son”! Gan fod llawer o Gristnogion yn gofidio am y geiriau hyn gadewch i mi egluro at bwy y cyfeirir yma. Mae’r Arglwydd Iesu yn disgrifio grŵp o bobl sy’n gwbl sicr eu bod yn mynd i’r nef. Ar ddydd y farn, bydd y rhain yn synnu, fe fyddant mewn sioc, wrth glywed yr Arglwydd Iesu yn dweud “nid adnabûm erioed mohonoch.” Yn yr adnodau mae’r rhain yn dadlau gydag Iesu, yn dweud wrtho “oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?” Mae’r rhain wedi mynd trwy’u bywyd yn credu eu bod yn gwbl ddiogel, dydyn nhw erioed wedi meddwl am foment bod yna unrhyw bosibilrwydd y byddant yn mynd i uffern. Pobl falch sydd fan hyn, yn ymddiried yn eu gweithredoedd eu hunain yn hytrach nag ymddiried yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Os ydych chi, felly, yn gorffwys ar addewid Duw, ei fod Ef wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol; os ydych yn ymddiried heddiw yn yr Arglwydd Iesu Grist, gallwch fod yn gwbl sicr nad amdanoch chi mae Iesu’n son yn Mathew 7!
Mae Ioan yn dweud ‘os ydy’r Mab gan rywun, mae’r bywyd ganddo’, 1 Ioan 5:11-12. Gweddïaf y bydd pob un ohonoch sy’n ymddiried yn yr Arglwydd Iesu yn profi’r llawenydd o wybod yn eich calonnau bod gennych fywyd tragwyddol.