Stressed!
22 Mai 2018 | Gan Steffan Job

Rhannu
Gall pob math o bethau roi straen (stress) arnom. Gwaith ysgol, arholiadau, bywyd cartref, ffrindiau, bywyd yn gyffredinol neu hyd yn oed ni ein hunain.
Pan fyddwn yn teimlo straen ac yn teimlo bod gwaith yn mynd yn ormod mae’n hawdd iawn gwthio Duw i lawr ein rhestr o flaenoriaethau. Yn y cyfnodau yma gallwn yn hawdd wthio darllen y Beibl a gweddïo allan o’n bywydau a cheisio byw yn ein nerth ein hunain.
Fel Cristnogion rydym yn freintiedig iawn. Nid yn unig bod Duw gyda ni ym mhob sefyllfa ond mae’r Beibl hefyd yn rhoi arweiniad a chyngor pwysig i ni.
Ond beth sydd gan y Beibl a Duw i wneud ag arholiadau Lefel A – does dim sôn am TGAU yn y Beibl?!
Mae gan y Beibl lawer i ddweud wrthym pan fyddwn mewn sefyllfaoedd o bwysau mawr. Cofia sut y gwnaeth Duw achub Dafydd pan oedd yn dianc oddi wrth Saul oedd am ei ladd; dyma’r un Duw a achosodd i Paul ganu pan oedd yn y carchar; dyma’r un Duw a roddodd nerth i Daniel sefyll dros ei ffydd a bod yn wahanol ym Mabilon. Mae’r Beibl yn llawn hanesion am Dduw yn cadw ei bobl, ac os wnaeth e gadw ei bobl yn y Beibl, fe fydd yn dy gadw di heddiw os wyt yn blentyn iddo. Dyma’r Duw sydd wedi ein creu i gyd gydag emosiynau a theimladau – ac mae E’n gwybod beth sydd orau ar ein cyfer.
Felly beth am edrych ar ambell i adnod a fydd o gymorth:
Darllen Rhufeiniaid 8:31-39:
(Beibl.net) 31 Felly, beth mae hyn yn ei olygu? Os ydy Duw ar ein hochr ni, sdim ots pwy sy’n ein herbyn ni! 32 Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e’n aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni? 33 Pwy sy’n mynd i gyhuddo’r bobl mae Duw wedi’u dewis iddo’i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy’r un sy’n eu gwneud nhw’n ddieuog yn ei olwg! 34 Felly pwy sy’n mynd i’n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy’r un gafodd ei ladd a’i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni. 35 Oes yna rywbeth sy’n gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd! 36 Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“O’th achos di dŷn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser;
Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i’r lladd-dy.”37 Ond dŷn ni’n concro’r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi’n caru ni. 38 Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. 39 Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!
Beth yw’r gwaethaf all ddigwydd?! Yma, mae Paul yn dweud os wyt yn Gristion, na all dim dy dynnu allan o law Duw. Mae newyddion da’r efengyl yn wir ac mae Duw o dy blaid fel Cristion. Os yw Duw wedi dy achub, fydd e byth yn dy adael nag yn peidio rhoi unrhyw beth yr wyt ei angen? Gall dim byd dy wahanu oddi wrth gariad Duw.
Mae’n bwysig atgoffa dy hunan o’r gwirioneddau yma pan fyddi’n teimlo o dan straen – dyma’r pethau mwyaf pwysig yn y byd i gyd.
Darllen Philipiaid 4:6-7
(Beibl.net) 6 Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. 7 Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.
Mae gweddi yn angenrheidiol! Mae Duw yn dweud wrthyt am beidio â phoeni am ddim. Mae’n dy annog i ddweud pob dim wrtho – beth sy’n digwydd a sut wyt ti’n teimlo. Swnio’n syml, yn tydi? Daw hyn hefyd ag addewid anhygoel – y bydd heddwch Duw yn gwarchod dy galon.
Darllen Mathew 6:25-34
(Beibl.net) 25 “Felly, dyma dw i’n ddweud – peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed a beth i’w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? 26 Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na nhw. 27 Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach Ref drwy boeni!
28 “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. 29 Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.Croes 30 Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi? 31 Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ 32 Y paganiaid sy’n poeni am bethau felly. Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. 33 Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. 34 Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Mae Duw yn digoni POB angen sydd gennym. Mae Duw yn bwydo a dilladu’r adar a’r blodau. Os yw’n gallu gwneud hyn, gall ofalu amdano ti hefyd. Fe yw dy Dad nefol. Nid yw hyn yn golygu y bydd yn darparu pob dim wyt ti eisiau (e.e. yr ipod diweddaraf, llwyddiant ym mhob dim). Ond fe fydd yn darparu pob dim yr wyt ti ei angen.
Os wyt ym mlwyddyn 11 neu 13, bydd yna bwysau arnat i feddwl mai dyma’r blynyddoedd mwyaf pwysig yn dy fywyd! Ond os nad yw pethau’n gweithio allan fel yr oeddet wedi gobeithio, rhaid i ti gofio fod Duw yn rheoli a bod ganddo gynllun ar dy gyfer. Wrth gwrs, mae’n bwysig dy fod yn gwneud dy orau er gogoniant i Dduw (mae’r Beibl yn dweud hynny yn glir). Ond cofia eiriau Iesu, fe fyddant yn gymorth i ti gadw pethau mewn persbectif: ‘Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw’.
Am ragor o gyngor a chymorth gyda chyfnod arholiadau darllena Don’t Panic! The Ultimate Exam Survival Kit gan Martin Cole ac Andrew Roycott. (The Good Book, Rhif ISBN 978-1905564552, £1.99)
Rhai ‘tips’ ar gyfer cyfnod arholiadau:
- Bydd yn drefnus – gwna’n siwr dy fod yn gwybod pryd mae dy arholiadau a llunia amserlen adolygu.
- Cadwa gydbwysedd yn dy fywyd – cofia roi amser i ymlacio. Dyw gweithio drwy’r amser ddim yn gwneud lles i ti na’r graddau rwyt yn gobeithio eu cael.
- Gwna ymarfer corff – boed yn rhedeg neu dim ond yn mynd am dro – mae ymarfer corff yn bwysig ac yn lleihau straen.
- Mae angen bwyta yn gall – digon o ffrwythau a phrydau bwyd da i dy gadw’n iach a rhoi egni i ti.
- Cysga! Mae cael digon o gwsg yn bwysig i fedru canolbwyntio (nodyn – dyw cysgu tan 11 yn y bore ddim yn cyfrif!)
- Paid â chadw’r cyfan i ti dy hun – gwna’n siwr dy fod yn rhannu gyda ffrindiau a theulu.
- Bydd yn ffrind da – cofia fod gen ti gyfrifoldeb tuag at dy ffrindiau yn y cyfnod yma.
- Gwna’n siwr dy fod yn rhoi amser bob dydd i ddarllen a gweddïo. Os wyt ti’n rhy brysur i wneud hyn… rwyt ti’n llawer rhy brysur.