Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Temtasiwn: Ba mor bell gallaf fynd?

26 Gorffennaf 2017 | Gan Andrew a Ruth Vine

Un tro roedd dyn cyfoethog am gyflogi chaffeur. Gan fod ei dŷ ar ben lôn gul oedd yn mynd ar hyd clogwyn serth penderfynodd y byddai’n gofyn cwestiwn i bob un o’r tri ymgeisydd.
“Os mai chi fyddai fy chaffeur, pa mor agos at y clogwyn fyddech chi yn gallu gyrru?”
“Yn agos iawn, llai na medr” dywedodd yr ymgeisydd cyntaf yn hyderus.
“Llai na medr? Gallaf fi yrru o fewn deg centimedr i’r clogwyn!” oedd ymateb yr ail.
Yna trodd y dyn at y trydydd ymgeisydd. “Beth amdanat ti?” gofynnodd, “Pa mor agos y byddet ti yn gyrru?”
Atebodd yntau yn syth “Syr, byddwn i’n gyrru mor bell i ffwrdd o’r clogwyn a phosibl”. Cafodd y swydd yr eiliad honno.

Os ydym yn onest, mae’n debyg fod llawer ohonom yn delio gyda phurdeb rhywiol yn debyg i’r ddau yrrwr cyntaf yn yr hanes. Gofynnwn:

  • Pa mor bell gallaf fynd?
  • Beth gallaf edrych arno?
  • Lle gallaf fynd?
  • Pa mor bell yw rhy bell?

Pa mor bur gallaf fod?

Mae’n hawdd iawn i ni gael y persbectif anghywir wrth feddwl am ryw a pherthynas gorfforol. Cawn ein temtio i bechu a mynd mor ‘agos at y dibyn’ ag sy’n bosibl, ond mae Duw am i ni gadw mor bell o’r perygl ag sy’n bosibl. Nid ‘Pa mor bell gallaf fynd?’ ddylai’r cwestiwn fod, ond ‘Pa mor bur gallaf fod?’

Os mai’r peth gorau yw bod yn saff, pam ein bod yn ceisio mynd mor agos at y dibyn?

Mae’r Beibl yn dangos i ni mai’r ffordd yr ydym yn perthnasu gyda Duw yw rhan o’r broblem. Ydan ni’n gweld Duw fel prifathro cas sydd am reoli pob peth? Rhywun sydd am ddifetha ein hwyl a’n bywyd? Dyna’n union oedd dadl y diafol wrth demtio Efa yng ngardd Eden yn Genesis 3.

Mae’r gwirionedd yn wahanol iawn! Mae Duw am i ni fwynhau bywyd i’r eithaf.
Fe sydd wedi creu rhyw, a hynny er ein mwyn ni, fel anrheg hyfryd i’w agor ar noson briodas gyda’r person rydym yn ei garu ac wedi ymroi yn llwyr iddo/iddi (edrych ar Mathew 19:4-9). Yn union fel y mae agor anrheg Nadolig cyn y dyddiad yn arwain at deimladau o euogrwydd a methiant i fwynhau’r anrheg yn llawn, bydd cael rhyw y tu allan i briodas yn arwain at broblemau a theimladau o rwystredigaeth sy’n golygu nad ydym yn ei fwynhau yn iawn. Ond os dani’n aros am yr adeg iawn, does dim yn well nag agor anrheg hyfryd!

Mae Diarhebion 6:27 yn dweud fod chwarae gyda rhyw fel cael tân yn ein mynwes. Mae tân yn grêt ar noson tân gwyllt neu yn y lle tân, ond os dani’n ei roi yn ein mynwes – mae’n brifo! Felly er mwyn defnyddio rhodd Duw yn gywir, cael y mwynhad cywir, ac osgoi’r peryglon a ddaw o gamddefnyddio rhodd Duw, rhaid peidio â gwthio’r ffiniau. Yn hytrach rhaid ceisio cadw’n bywyd rhywiol mor bur â phosib.

Felly sut mae modd i mi gadw fy hun yn bur a pharchu rhodd Duw?

Cofia beth yw pwrpas rhyw. Nid rhywbeth hunanol yw rhyw na chyfle i gymryd mantais o berson arall. Mae rhyw yn rhan o berthynas gŵr a gwraig ac yn amlygiad o’u cariad tuag at ei gilydd. Yn 1 Corinithiaid 13 wrth i Paul ddisgrifio cariad mae’n dweud nad yw cariad yn ceisio ei ddibenion ei hun. Yn dy berthynas gyda dy cariad cofia nad cadw dy hun yn bur yw dy unig gyfrifoldeb ond cadw dy gariad yn bur hefyd. ‘Beth fyddai orau iddo/iddi?’ ddylai’r cwestiwn fod. Dyna pam fod rhyw o fewn priodas mor rhyfeddol, gan fod dau berson wedi addunedu i’w gilydd am oes.

Doethineb ymarferol

Dywed 1 Corinthiaid 10:13

…mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi’ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio â rhoi mewn.

Dwyt ti ddim ar dy ben dy hunan! Mae Duw yn rhoi’r Ysbryd i’n helpu i wrthod y temtasiwn.

Mae Hebreaid 12:1-2 yn dweud wrthym am gael gwared â phob dim sy’n ein dal yn ôl yn y bywyd Cristnogol ac edrych ar Iesu sydd wedi gaddo ein helpu. Efallai dy fod yn stryglo gydag edrych ar luniau anweddus, ffilmiau anghywir neu safleoedd gwe drwg. Os yw pechod yn peri problem o safbwynt perthynas gyda Duw, yna rhaid cael gwared a’r pethau yma!

Dywed 1 Corinthiaid 6:18-9:

Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol … Dim chi biau eich bywyd.

Wyt ti’n cofio hanes Joseff gyda gwraig Potiphar? Roedd y temtasiwn yn gymaint i Joseff nes ei fod wedi rhedeg i ffwrdd! Mae Solomon yn cynghori ei fab yn Diarhebion 5:8:

Cadw draw oddi wrthi hi! Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi.

Felly, os yw’r temtasiwn yn ormod, peidiwch a cyffwrdd nhw gyda pholyn deg troedfedd!

Darllen y Beibl a gweddïo bob diwrnod. Pam? Am fod gair Duw yn darian i ni fedru gwrthsefyll temtasiwn. Wrth ei gredu cawn ein hamddiffyn rhag celwyddau’r diafol a chawn ein hatgoffa o bwy ydym ni go iawn. Cofia hefyd fod angen gweddïo a chyflwyno ein temtasiynau i Dduw – wyt ti’n cofio Gweddi’r Arglwydd ‘Paid a’n harwain i demtasiwn’?

Os wyt ti mewn perthynas gwna reolau i dy helpu ar ddechrau’r berthynas (yn hytrach na pan dych chi yng nghanol sefyllfa ddwys). Efallai bod rhai yn meddwl fod hynny’n ddeddfol braidd, ond yn union fel mewn gêm rygbi, mae rheolau yno i amddiffyn. Mae rheolau da yna i roi mwynhad, nid i atal mwynhad. Credwn fod y mwynhad mwyaf i’w gael wrth ddefnyddio rhyw yn y ffordd y mae Duw wedi ei fwriadu! Dyma rai rheolau sydd wedi bod yn gymorth (cofiwch nad deddfau Duw yw pob un o’r rhain, ond canllawiau ymarferol i’n helpu):

  • Aros allan o ystafell wely eich cariad.
  • Paid â threulio amser ar dy ben dy hun gyda dy gariad ar ôl 11 y nos.
  • Paid â threulio dy holl amser ar dy ben dy hunan gyda dy gariad. Mae’n dda rhannu amser gyda ffrindiau eraill.

Yn cael dy demtio gan bornograffiaeth? Dyma rai canllawiau i helpu:

  • Beth am fod yn atebol i ffrind? Edrych ar www.covenanteyes.com lle sonnir am wneud pob gwefan y bydd unigolyn yn edrych arnyn nhw’n cael eu gyrru at ffrind.
  • Rho dy ffôn neu dy lap top i dy rieni cyn mynd i’r gwely.
  • Os yw ffrindiau yn yr ysgol yn dangos lluniau neu fideo gyda chynnwys rhywiol ar eu ffôn yna cerdda i ffwrdd.

Yn olaf, pan fyddwn yn methu, rhaid cofio gras Duw!
Mae modd i ni edifarhau, derbyn maddeuant (gweler Salm 51) a chychwyn o’r newydd.

Darllen yr addewid hyfryd sydd yn 1 Ioan 1:9. Os wyt wedi pechu yn rhywiol yn barod, mae Duw yn addo maddau ein holl bechod os byddwn yn cyffesu iddo ac yn ymddiried yn Iesu. Golyga gras Duw dy fod yn gallu bod yn hollol siŵr dy fod yn dal yn blentyn i Dduw. Dywed Effesiaid 5:8 ein bod unwaith yn dywyllwch, ond bellach yn oleuni. Golyga gras Duw ein bod yn gallu codi yn ôl a byw fel plant y goleuni!