Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cadw’n Iach

31 Rhagfyr 2019 | Gan Steffan Job
cadw'n iach

Rhannu

Wrth edrych drwy’r cylchgronau ar silffoedd Tesco yn ddiweddar, roeddwn i methu peidio sylwi fod un pwnc yn cael ei drafod tro ar ôl tro sef y post Christmas diet’! Mae’n amlwg fod pobl yn poeni gymaint am ein hiechyd fel eu bod yn teimlo bod yn rhaid cynllunio ymlaen llaw sut yr ydym i golli’r holl bwysau y byddwn yn ei roi ymlaen drwy fwyta dros gyfnod y Nadolig! 

Mae cadw’n iach a cholli pwysau yn fusnes mawr bellach, ac am wn i does dim adeg fwy poblogaidd i ddechrau arni na’r flwyddyn newydd. Mae pawb wedi gorffen bwyta’r holl siocled a’r twrci ac mae’n gyfnod i wneud addunedau ar gyfer y flwyddyn newydd. Ond beth am ein bywyd Ysbrydol? Oes pethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn cadw ein bywyd Ysbrydol yn iach?

Yr ateb syml yw “oes”! Mae Paul wrth ysgrifennu llythyr at ei ffrind a’i ddisgybl Timotheus yn dweud wrtho i ‘ymarfer dy hun i fod yn dduwiol.’ (1 Timotheus 4:7). Felly dyma 6 peth mae Paul yn dweud wrth bob Cristion i’w wneud er mwyn cadw ein bywyd ysbrydol yn iach:

1. Meddwl am Iesu Grist a’r efengyl 

Dyma yw’r allwedd i fywyd Ysbrydol iach. Rhaid i ni edrych ar Iesu Grist a’r efengyl oherwydd oddi wrth Iesu y daw ein nerth. Dim ond trwy edrych ar Iesu byddwn yn cael ein hatgoffa pwy ydan ni go iawn ac yn cael y persbectif cywir a’r nerth i fyw fel Cristnogion.

Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e yn offrwm dros bechod ar ein rhan ni. ’Dyn ni’n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e. 2 Corinthiaid 5:21

Sut mae gwneud hyn?

  • Darllen y Beibl, gwrando ar ganeuon ac emynau Cristnogol da, darllen llyfrau Cristnogol da.

Beth am?

  • Ddysgu cân Cristnogol dda sy’n son am Iesu Grist bob mis o’r flwyddyn nesaf.

2. Darllen y Beibl 

Wrth i ni ddarllen y Beibl mae Duw yn siarad gyda ni. Mae’r Beibl yn ein cywiro, yn ein dysgu ac yn rhoi nerth a chysur i ni. Y Beibl ydi gair Duw ar ein cyfer!

Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd, ac maen nhw’n dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth ’dyn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn. 2 Timotheus 3:16

Sut mae gwneud hyn?

  • Yn aml wrth ddechrau darllen y Beibl mae rhywun yn ceisio gwneud gormod. Cofia dreulio amser bob dydd yn darllen y Beibl, a does dim rhaid i’r amser yna fod yn hir i gychwyn.

Beth am?

  • Dreulio 10 munud bob dydd yn darllen. Mae yna lawer o bethau all dy helpu fel nodiadau Beiblaidd Llwybrau!

3. Gweddïo 

Wrth i ni weddïo rydym yn siarad gyda Duw. Mae’n bwysig treulio amser bob dydd yn siarad gyda’n Tad nefol.

Peidiwch â gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Philipiaid 4:6-7

Sut mae gwneud hyn?

  • Bydd yn onest! Cofia ganmol Duw a diolch iddo am ei ddaioni. Cofia does dim rhaid i ti fod mewn eglwys neu hyd yn oed yn dy gartref i weddïo – medri weddïo yn aml bob dydd wrth i ti fyw dy fywyd .

Beth am?

  • Greu rhestr o bethau yr wyt yn ddiolchgar amdanyn nhw a rhestr o bobl rwyt eisiau gweddïo amdanynt.

4. Treulio amser gyda Christnogion (o bob oed) 

Mae Duw wedi dy achub i fod yn rhan o deulu Duw. Os wyt yn byw yng Nghymru mae Duw wedi dy roi mewn cyswllt â Christnogion eraill – felly treulia amser gyda nhw. Bydd hyn yn gymorth mawr i ti a byddi di’n gymorth mawr iddyn nhw. Rydych i helpu eich gilydd.

Yn yr eglwys ’dyn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. Rhufeiniaid 12:5

Sut mae gwneud hyn?

  • Cychwyn yn y capel – mae’n bwysig dy fod yn mynd i gymaint o gyfarfodydd yn y capel ac y medri di. Does dim rhaid cyfarfod Cristnogion eraill yn y capel yn unig. Beth am fynd allan am baned gyda Christion arall, neu chware pêl droed?

Beth am?

  • Fynd i’r cyfarfod gweddi yn y capel.

5. Gwasanaethu 

Dylai pob Cristion fyw i wasanaethu Duw, nid er mwyn ennill ein hachubiaeth ond i ddangos ein cariad tuag ato a chan fod hyn yn rhan o’i gynllun ar ein cyfer. Mae gwasanaethu yn golygu gwaith caled!

Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich cyrff iddo fel aberthau byw – rhai sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn. Rhufeiniad 12:1

Sut mae gwneud hyn?

  • Mae Duw yn dweud wrthym i’w garu ac i garu pawb arall hefyd. Felly dylem chwilio am bob cyfle i wasanaethu pobl yn ein bywyd. Oes rhywun yn dy fywyd di sydd angen help – ac y medri di ddangos cariad Duw tuag ato?

Beth am?

  • Gynnig helpu un person rwyt ti’n adnabod sydd angen cymorth.

6. Rhannu’r newyddion da 

Dyma oedd gorchymyn olaf Iesu i’r disgyblion – i fynd allan a dweud wrth bobl am y newyddion da sydd i’w gael drwy gredu yn Iesu Grist. Rhaid i ni gofio nad oes gan neb arall newyddion mor dda a phwysig i’w roi i’r byd – mae Duw yn disgwyl i ni ei rannu.

Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno (Iesu) os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw’n mynd i gredu ynddo heb fod wedi clywed amdano? Sut maen nhw’n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? A phwy sy’n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da yn dod!” Rhufeiniaid 10:14-15

Sut mae gwneud hyn?

  • Siarad gyda dy ffrindiau, ymuna gyda dy eglwys/capel lleol neu Undeb Cristnogol.

Beth am?

  • Chwilio am o leiaf un person bob wythnos i rannu’r newyddion da am Iesu.

Gofal – Rhybudd! 

Rhaid cofio mai Duw sy’n ein hachub a’n cadw yn Gristnogion. Ni ddylem byth fod yn ceisio ennill ffafr Duw neu geisio gwella ein bywyd Ysbrydol er mwyn i Dduw ein derbyn. Mae Duw yn ein derbyn er gwaethaf ein pechod a dim ond trwy ei Ysbryd Glân y byddwn yn tyfu yn ysbrydol!