Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Dechrau Tymor Newydd

4 Medi 2017 | Gan Steffan Job

Ymdopi fel Cristion yn yr ysgol

Dyma ni yn cychwyn ar flwyddyn arall yn yr ysgol. Wn i ddim sut wyt ti’n teimlo am fynd yn ôl i’r ysgol – mae’n sicr yn gyfle i gael llond trol o hwyl, i wneud ffrindiau gwych ac i wynebu heriau gwahanol. Ond gall ysgol hefyd fod yn anodd weithiau – yn arbennig os wyt ti’n Gristion. Ceisio gwneud dy waith, bod yn esiampl a thystiolaeth i ffrindiau, sefyll dros yr hyn sy’n iawn a hynny i gyd wrth geisio tyfu i fyny dy hunan.

Mae’n hawdd meddwl dy fod ar dy ben dy hun, ond mae’n bwysig cofio fod miloedd o Gristnogion wedi (ac yn) mynd trwy’r un sefyllfa â ti. A beth sy’n bwysicach i gofio ydi fod Duw wedi eu cadw, pob un:

Dŷn ni’n gwybod fod Duw’n trefnu popeth er lles y rhai sy’n ei garu

Rhufeiniaid 8:28.

Nid yn unig fod Duw yn addo i fod gyda ti ond mae hefyd wedi rhoi hanesion pobl yn y Beibl sy’n esiampl i’n helpu ac yn gallu ein hysbrydoli i sefyll yn gadarn.

Un o’r bobl yma oedd Daniel.

Cafodd Daniel ei herwgipio gan Frenin Babilon pan oedd yn hogyn ifanc, cafodd ei gludo ymhell o’i gartref (Israel) i ddinas ddieithr a’i orfodi i fyw bywyd gwahanol iawn i’r hyn oedd yn arferol i ddyn ifanc o Israel. Mewn ffordd real iawn, roedd ar ben ei hun ymhell o’i gartref ac yn wynebu pob math o bwysau, ond fe safodd Daniel yn gadarn. Fe wnaeth e lwyddo yn ei waith a llwyddo i fod yn blentyn i Dduw.

Yn amlwg does dim amser yn yr erthygl hon i edrych ar yr holl hanes mewn manylder – ond beth am i ti gymryd yr wythnos nesaf i ddarllen yr hanes? Mae ei hanes i gael yn llyfr Daniel a’r saith pennod gyntaf (medri ddarllen un bennod bob dydd) – mae i’w gael yma ar beibl.net.

Dyma rai pethau yr ydw i’n ei dysgu gan Daniel – gobeithio y byddant yn gymorth i ti yn yr ysgol!

1. Gweddi (Daniel 2:19)

Drwy’r hanes gwelwn fod Daniel yn gweddïo. Gwna di’r un peth – gweddïa y bydd Duw yn dy gadw yn yr ysgol ac yn dy helpu. A chofia fod Duw yn ateb gweddi, nid wishful thinking ydi gweddi ond ffordd o siarad gyda’n Tad sydd yn Dduw nerthol – does dim y tu hwnt iddo Ef. Mae Duw am i ti rannu dy brofiadau gyda fe a dibynnu arno ym mhob dim. Cofia hefyd nad oes angen gweddïau hir i siarad gyda Duw – just bydd yn onest a gofyn am help.

2. Gwneud ei orau (Daniel 6:3)

Roedd Daniel yn dda iawn ac yn gydwybodol yn ei waith a thrwy hyn fe gafodd gyfle i fod yn dystiolaeth dros Dduw. Mae’n hawdd meddwl fod Duw yn ein galw i siarad gyda phobl amdano yn unig, ond mae gennym gyfrifoldeb i wneud ein gorau yn ein gwaith. Cofia fod y ffordd mae rhywun yn byw yn dweud llawer mwy na’r geiriau a ddaw allan o’i geg. Felly gweithia’n galed a mwynha dy waith!

3. Ffrindiau da (Daniel 1:6)

Roedd Shadrach, Meshach ac Abednego yn ffrindiau – pan aeth pethau yn anodd roedden nhw yn gymorth i’w gilydd. Mae’n bwysig cael ffrindiau sy’n Gristnogion. Mae Duw wedi ein creu i fod angen ffrindiau – felly cofia rannu gyda dy ffrindiau (a bydd yn ffrind da iddyn nhw). Os nad oes ffrindiau sy’n Gristnogion yn yr ysgol – gwna’n siŵr dy fod yn ffeindio ffrindiau yn y capel neu yn yr ardal leol (trwy fynd i wersyll neu glwb ieuenctid).

4. Bod yn onest (Daniel 6:10-11)

Doedd Daniel byth yn cuddio’r gwir amdano’i hun – roedd yn blentyn i Dduw (hyd yn oed os oedd hyn yn golygu y byddai’n cael ei daflu i’r llewod). Os wyt ti yn Gristion, yna paid â chuddio – bydd yn onest. Os oes rhywun yn gofyn cwestiwn i ti am fod yn Gristion – ateb e yn onest. Bydd Duw yn dy gadw ac yn dy helpu.

5. Roedd gan Daniel bwrpas (Daniel 2:47)

Drwy’r hanes gwelwn fod Daniel yn cael effaith ar y bobl o’i gwmpas – mewn ffordd real iawn, mae’n cynrychioli Duw ym Mabilon. Gwelwn fod rhai yn cael eu hachub, a gwelwn fod rhai yn caledu yn erbyn Duw, ond mae Daniel yn oleuni yn y sefyllfa. Os wyt ti’n Gristion rwyt ti hefyd yn oleuni yn yr ysgol yr wyt ti wedi cael dy roi ynddi. Dyma mae Iesu yn ei olygu pan mae’n dweud ‘Chi yw goleuni’r byd’. Mae Duw wedi dy roi yn yr ysgol ac mae yna bwrpas ac urddas anhygoel i bob dim yr wyt yn ei wneud. Mae hyn yn gysur brilliant.

6. Ymlacia a Thrystia

Bu’n rhaid i Daniel a’i ffrindiau wynebu sefyllfaoedd anodd iawn. Er hyn i gyd roedd Duw yn rheoli ac yn eu cadw. Nid oedd modd i’r fflamau, llewod na’r brenhinoedd eu cyffwrdd.

Tydi Duw ddim yn gaddo y caiff ei blant amser hawdd ar y ddaear ond mae yn gaddo y bydd yn gymorth iddynt. Bydd yn eu cadw ac un dydd fe gaiff pob Cristion dreulio gweddill ei amser gyda Duw yn y nefoedd. Mae’n annhebygol iawn y byddi di’n gorfod wynebu’r hyn a wnaeth Daniel a’i ffrindiau, ond beth bynnag a ddaw cofia i ymlacio ac ymddirieda yn Nuw.
Mae’n dy garu ac yn gwybod am dy sefyllfa a bydd yn gymorth i ti, fel yr oedd yn gymorth i Daniel. Ti mewn dwylo saff.

Rhai adnodau i helpu:
  • Rhufeiniaid 8:28-32
  • Rhufeiniaid 8:38-39
  • 2 Corinthiaid 10:3-4
  • Effesiaid 2:4-5