Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Sut ma’ cychwyn Undeb Cristnogol?

18 Medi 2017 | Gan John Settatree

Yw hi’n anodd bod yn Gristion yn yr ysgol neu coleg? Wyt ti’n cael trafferth rhannu dy ffydd â dy ffrindiau?

Mae bod yn rhan o Undeb Cristnogol wedi bod yn gymorth mawr i lawer o Gristnogion ifanc ers blynyddoedd, ac efallai y bydd yn dy helpu di hefyd.

Beth yw Undeb Cristnogol?

Criw o Gristnogion sy’n dod at ei gilydd mewn ysgol neu goleg yw Undeb Cristnogol. Pwrpas Undeb Cristnogol yw rhannu’r newyddion am Iesu Grist gyda gweddill y disgyblion neu fyfyrwyr a bod yn gymorth ac yn gefnogaeth i’ch gilydd.

Pam cychwyn Undeb Cristnogol?

Mae’n Feiblaidd!

Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus: a’u hannerch fel hyn:…
Actau 17:22

Mae’r frawddeg fach uchod yn rhagflaenu un o’r pregethau mwyaf yn hanes yr eglwys, lle mae Paul yn rhannu’r newyddion da am Iesu Grist gyda phobl nad oedd wedi clywed am Iesu erioed o’r blaen. Beth sy’n ddiddorol ydi lle mae’n gwneud e – yn yr Areopagus.

Roedd yr Areopagus yn fan lle’r oedd pobl yn mynd i glywed a thrafod y syniadau diweddaraf. Mewn ffordd, yr Areopagus oedd ysgol y dydd hwnnw. Felly mae Paul yn dangos pwysigrwydd mynd â newyddion Iesu Grist i bob rhan o’n cymdeithas. Mae’r Undeb Cristnogol yn ffordd wych o wneud hynny.

Mae’n effeithiol!

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o gychwyn nifer o Undebau Cristnogol dros y blynyddoedd ac mae wedi bod yn fendith fawr i weld sut mae Duw yn defnyddio a datblygu Cristnogion ifanc drwyddynt. Yn ogystal â hyn rwyf wedi gweld lot o bobl ifanc yn dod i’r Undeb Cristnogol heb wybod dim byd am Iesu Grist, ond yna yn dod yn Gristnogion drwy’r Undeb Cristnogol.

Sut fedra i gychwyn Undeb Cristnogol?

Cychwynna gyda Christnogion

Pan roedd yr apostol Paul yn mynd i dref newydd i sôn am Iesu Grist, roedd e wastad yn cychwyn yn y Synagog gyda’r Iddewon (y bobl oedd yn gwybod am Dduw) (e.e. Actau 17:2-17). Y rheswm dros gychwyn gyda’r Iddewon oedd mai nhw oedd yn gwybod am Dduw yn barod, ac felly’n barod i gredu yn Iesu Grist.

Y cam cyntaf i gychwyn Undeb Cristnogol yw ffeindio Cristnogion eraill yn dy ysgol neu coleg a fydd yn barod i helpu – gallen nhw fod yn ddisgyblion neu’n athrawon hyd yn oed. Nhw fydd y rhai fydd mwyaf tebygol o dy helpu neu roi gwybod i ti am rywbeth tebyg sydd eisoes yn bodoli.

Os nad wyt ti’n gallu ffeindio Cristion arall sy’n fodlon i dy helpu i gychwyn Undeb Cristnogol, efallai y medri ofyn i weinidog neu weithiwr eglwys leol i dy helpu. Rwy’n gwybod am nifer o Undebau Cristnogol sy’n cael cymorth mawr gan weinidogion lleol sy’n mynd mewn i helpu bob wythnos.

Gweddïa

Ar ôl i ti ffeindio Cristnogion eraill, dechreua weddïo gyda nhw am yr Undeb Cristnogol. Mae’n bwysig dy fod yn dibynnu ar Dduw mewn Undeb Cristnogol.

Gofyn caniatâd

Y peth nesaf i wneud yw mynd i ofyn am ganiatâd a chymorth gan y prifathro neu rywun arall sy’n helpu i redeg yr ysgol e.e. athro dosbarth neu athro addysg grefyddol. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn dda iawn am helpu disgyblion i gychwyn grŵp. Ond paid â digalonni os yw pethau’n anodd ac yn araf i gychwyn – weithiau mae’n cymryd amser i sortio pethau allan! Gwna’n siŵr fod gan dy Undeb Cristnogol ffocws Cristnogol clir, ond ei fod yn parhau i fod yn agored i rai sydd ddim yn credu yn Iesu Grist ond sydd eisiau dod.

Cer amdani!

Unwaith rwyt ti wedi cael caniatâd ac mae pob peth yn barod i fynd yna mae’n rhaid i ti feddwl am drefn i’r Undeb Cristnogol. Byddwn i’n argymell i ti feddwl am gyfres o sesiynau y medri ei dilyn. Paid â phoeni os nad wyt ti’n teimlo y medri wneud y gwaith i gyd dy hun – gofynna am help gweinidog neu athro sy’n Gristion.

Rwyf wedi ffeindio’r adnoddau yma yn ddefnyddiol iawn: Discovering Jesus gan Tim Hawkins a CY sef fersiwn ieuenctid o Darganfod Cristnogaeth. Maen nhw’n dda iawn gan eu bod yn esbonio beth ydi bod yn Gristion yn glir iawn. Cofia efallai na fydd llawer o dy gyd-ddisgyblion yn gwybod beth yw Cristion go iawn – mae’r llyfrau yma yn ffordd dda o gychwyn pethau.

Rhai pethau eraill i’w cofio:

  • Mae angen dewis amser sy’n gyfleus i bawb – mae yn ystod yr awr ginio yn amser da i roi hanner awr i’r cyfarfod.
  • Mae’n syniad da cael amrywiaeth yn y cyfarfodydd – nid oes rhaid cael astudiaeth Feiblaidd drwy’r amser. Gelli rannu’r cyfarfod i fyny gan roi peth amser i gemau ac yna ychydig o amser i’r sesiwn Beiblaidd.
  • Rho bosteri i fyny – mae’n bwysig fod pawb yn cael gwybod am yr Undeb Cristnogol!
  • Gwna i bobl deimlo bod croeso iddynt – cofia ei bod yn bwysig iawn i wneud i bobl deimlo bod croeso iddynt yn yr Undeb Cristnogol. Paid â gwneud iddyn nhw deimlo’n wirion os nad ydynt yn gwybod ateb i gwestiwn, neu neidio arnynt os nad ydynt yn cytuno â thi am rywbeth!
  • Cofia nad Undeb Cristnogol yw pob peth! – cofia nad yw Undeb Cristnogol yn unig yn mynd i fod yn ddigon i gynnal ffydd rhywun. Nid capel neu eglwys yw Undeb Cristnogol ond cyfle i estyn allan i gyd-ddisgyblion a chymorth i ti i fyw fel Cristion yn yr ysgol. Rhaid i ti gofio ei fod yn bwysig dy fod yn mynd i’r capel, ac os daw rhywun yn Gristion rhaid i ti ei annog ef neu hi i fynd i gapel da hefyd lle byddant yn cael eu dysgu o’r Beibl.