Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Ymdopi gydag arholiadau

13 Mai 2019 | Gan Debs Job
Philipiaid 4:6

Rhannu

Arholiadau… mae’r adeg yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto… mae’n gallu bod yn gyfnod stressful, blinedig a dwys! Ond fel Cristion, dydyn ni byth ar ben ein hunain. Felly dyma rhai anogaethau i dy helpu di drwy gyfnod yr arholiadau.

1. Mae Duw yn rheoli

Beth bynnag fydd yn digwydd, os yw’r arholiadau yn mynd yn dda neu yn wael, mae Duw yn gwybod orau ac yn cydweithio popeth er daioni, yn ôl Ei drefn Ef.

Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. (Rhufeiniaid 8:28)

2. Tria dy orau

Mae hyn yn dod â gogoniant i Dduw. Fel Cristnogion, dyw popeth ddim yn dibynnu ar ein llwyddiannau. Does dim ots pa mor glyfar wyt ti na beth yw dy botensial, mae Duw yn cael ei ogoneddu pan ni’n gwneud ein gwaith i’w ogoniant Ef.

Felly, beth bynnag a wnewch, prun ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw. (1 Corinthiaid 10:31)

Mae hyn yn gallu bod yn dystiolaeth dda i dy ffrindiau, athrawon a theulu hefyd.

3. Dim yr arholiadau yma yw’r peth pwysicaf

Efallai eu bod nhw’n teimlo fel big deal (ac wrth gwrs, mae nhw yn bwysig!), ond mae pethau eraill yn fwy pwysig. Mae gan Dduw fwy o ddiddordeb yn ein perthynas ag Ef nag ein canlyniadau mewn arholiadau. Mae hyn yn rhoi persbectif i ni. Gallwn ymddiried yn Nuw a gwybod ei fod yn ein caru ni.

Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. (Mathew 6:33)

4. Gweddïa a bydd yn ddiolchgar

Er bod e’n gyfnod anodd, mae’n gallu bod yn anogaeth ac yn ddefnyddiol i feddwl am yr hyn gallwn fod yn ddiolchgar amdano. Yn ogystal â diolch i Dduw, gallwn ddweud wrth ein Tad Nefol am ein gofidiau a bod yn sicr fod E’n gwrando.

Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu. (Philipiaid 4:6-7)

 

Rhai awgrymiadau ymarferol:

  • Dechrau dy ddydd gyda gweddi a darlleniad bach o’r Beibl – ymddirieda yn Nuw a phaid â gwneud pethau yn dy nerth dy hun;
  • Cadwa at rwtin – cofia i fwyta, yfed digon o ddŵr a chael digon o gwsg;
  • Cofia gymryd seibiannau (breaks) a chael awyr iach (patrwm y Beibl yw cymryd un diwrnod i ffwrdd yn yr wythnos i orffwys, canolbwyntio ar Dduw a gwasanaethu eraill);
  • Siarada gyda theulu a ffrindiau am sut wyt ti’n teimlo.

A chofia, bydd y cyfnod yma ddim yn para am byth!

 

Am fwy o gyngor ymarferol, beth am ddarllen yr erthygl hon – Stressed!