Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Teulu: Mae gwaed yn dewach na dŵr!

31 Mawrth 2019 | Gan Steffan Job

A hithau’n Sul y mamau, mae’r byd yma’n llawn o deuluoedd – ac mae pob un ohonyn nhw’n wahanol.

Sut deulu sydd gennyt ti? Os wyt ti fel fi mae’n siŵr dy fod ti dros y flwyddyn ddiwethaf wedi profi gymaint o hapusrwydd drwy fod yn rhan o deulu, ond ar y llaw arall dwi’n siŵr dy fod wedi profi peth rhwystredigaeth hefyd.

Sut felly ddylem ni fel Cristnogion ymagweddu tuag at ein teuluoedd?

 

Mae Teulu’n dda!

Mae’n hawdd i ni gymryd teulu’n ganiataol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn naturiol yn cael ein geni i mewn i deulu ac mae’n hawdd i ni golli golwg ar fendithion sy’n dod o fod yn rhan o deulu. Yn ein cymdeithas heddiw mae yna bwyslais mawr ar yr unigolyn, ar ein hawliau ni i wneud yr hyn a fynnwn. Ond nid yw Duw am i bobl fyw ar eu pen eu hunain a rhan fawr o ddarpariaeth Duw i bobl yw’r teulu. Dyma batrwm y mae Duw am i ni ei dilyn, ac fel pob peth arall mae Duw am i ni wneud – mae’n dda ac mae er ein lles ni. Mae’r Beibl yn dweud ein bod wedi ein creu ar ‘lun a delw’ Duw – golyga hyn ein bod mewn ffordd arbennig iawn yn debyg i Dduw. Rydym yn gwybod fod Duw yn dri pherson – Tad, Mab ac Ysbryd Glân ac mae yna berthynas berffaith o gariad rhyngddynt. Pan greodd Duw ni fe’n gwnaeth yn bobl sydd angen perthynas. Rydym angen perthynas gyda Duw, ond rydym hefyd angen perthynas gyda’n gilydd. Mae pob un ohonom angen cwmni, a rhoi a derbyn cariad a chyfeillgarwch. Mae’r teulu’n rhan bwysig o batrwm Duw ar ein cyfer. Mae hi mor drist pan mae plant yn dioddef drwy i oedolion eu cam-drin o fewn teuluoedd. Dylai’r teulu fod yn lle saff lle y gallwn gael gofal a chariad.

Mae pob teulu’n wahanol! 

Mae’n hawdd cymharu ein teulu ni gydag eraill a bod yn eiddigeddus weithiau. Mae’r Beibl yn llawn o esiamplau o deuluoedd gwahanol y mae Duw wedi eu bendithio. Paid â phoeni os nad yw dy deulu’n berffaith – mae Duw’n parhau i dy garu. Sylwa ar y ddau deulu gwahanol yma:

  • Jacob (Genesis 27-50) – Mae’n werth i ti ddarllen hanes y teulu yma. Dyma beth oedd ‘dysfunctional family’ go iawn – y math o deulu a fyddai’n ffitio i mewn yn dda yn Eastenders neu Bobl y Cwm! Twyllo, celwydd, ymladd, hunanoldeb a ffraeo – mae’r cyfan i weld yn hanes y teulu. Ond er bod gymaint o bethau wedi mynd o’i le a gymaint o bobl anonest ac annoeth yn y teulu, mae Duw yn parhau i weithio trwyddynt a’u caru.
  • Timotheus (2 Timotheus 1:5) – ychydig iawn a wyddom am deulu Timotheus, ond gwelwn yn yr adnod yma fod mam a nain Timotheus yn Gristnogion ac wedi gofalu bod Duw yn cael lle pwysig yn aelwyd y cartref. Dyma hyfryd!

Mae Duw yn caru ac yn gweithio ym mhob math o deuluoedd gwahanol.

Sut mae bod yn rhan o deulu?

Gan ein bod wedi gweld bod teulu yn rhan o gynllun Duw, a bod pob teulu’n wahanol, sut felly mae Duw am i ni agweddu tuag at ein teulu?

Y galon sy’n cyfri. Wyt ti’n cofio dameg a ddywedodd Iesu am y dyn â darn o bren yn ei lygad (Mathew 7:3-5)? Mae’r stori’n ddigon doniol wrth i ni ddychmygu’r dyn yma’n mynd o gwmpas yn pwyntio at y tamed o lwch oedd yn llygad pawb arall pan oedd ganddo ddarn mawr o bren yn ei lygad ei hun! Mae’r wers yn un amlwg iawn – mae Iesu’n dweud mai delio gyda’n pechod a’n drygioni ni sy’n bwysig, nid beio pawb arall. Rhaid i ni ddelio gyda’n calon ni, cyn dechrau ceisio delio gyda chalon unrhywun arall! Mae hon yn wers bwysig iawn wrth i ni feddwl am ein hagwedd tuag at ein teulu.

Mae’n hawdd iawn i ni edrych ar mam neu dad neu ar ein chwaer neu’n brawd a’u beio am bethau sy’n ein gwylltio. Fel Cristion mae Duw yn gwybod beth yw ein hamgylchiadau, ond mae’n dweud wrthym am beidio poeni am ein hamgylchiadau – mae Duw am i ni ganolbwyntio ar ein calon ein hunain. Wrth feddwl am hyn mae geiriau Iesu yn Mathew (5:14-16) yn gymorth mawr:

Chwi yw goleuni’r byd. Ni ellir cuddio dinas a osodir ar fryn.  Ac nid oes neb yn goleuo cannwyll a’i rhoi dan lestr, ond yn hytrach ar ganhwyllbren, a bydd yn rhoi golau i bawb sydd yn y tŷ. Felly boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Fel Cristion mae gennyt ti gyfrifoldeb i garu dy deulu ac i ddangos goleuni Duw ym mhob sefyllfa yn y cartref. Os wyt yn rhan o deulu fel un Jacob neu fel un Timotheus – rhaid i ni fod yn debyg i Iesu Grist!

Esiampl Crist

  • Cariad Iesu tuag at ei fam

Mae’r Beibl yn dweud wrthym ein bod i garu pawb, ond mae ein perthynas gyda’n rhieni‘n wahanol… yn fwy arbennig. Mae’r Beibl yn dweud wrthym am ‘anrhydeddu ein tad a’n mam’ (Exodus 20). Golyga hyn ein bod i ufuddhau, i ofalu ac i barchu ein rhieni. Pam gwneud hyn? Er bod pob rhiant daearol yn bechadur maent yn gofalu amdanom ac maent eisiau’r gorau i ni. Y peth cywir felly yw eu parchu am yr hyn maent wedi ei wneud trosom. Mae ein perthynas gyda’n rhieni i adlewyrchu ein perthynas gyda Duw perffaith. Rhaid i ni barchu’r rhai sydd ag awdurdod a gofal drosom. Gwelwn hyn ym mywyd Iesu Grist. Pan mae ar y groes mae’n dweud:

Yna dywedodd wrth y disgybl (Ioan), “Dyma dy fam di.” Ac o’r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i’w gartref.

Mae Iesu’n gwybod ei fod yn marw, ac er y bydd yn atgyfodi, fe fydd yn mynd i’r nefoedd, felly mae am i Ioan edrych ar ôl ei fam. Yn union fel y gwnaeth Iesu ofalu a pharchu ei rieni, rhaid i ni wneud yr un peth.

  • Cariad Iesu tuag at Dduw a’r hyn sy’n gywir

Nid oes llawer o wybodaeth am berthynas Iesu gyda’i deulu yn y Beibl, ond yn Marc (pennod 3) fe welwn Iesu yn ymateb mewn ffordd rhyfedd iawn i’w deulu. Mae Iesu’n brysur iawn yn dysgu pobl ac yn eu hiachau ac yna fe ddaw teulu Iesu ato i’w weld, ond nid ydynt yn gallu ei gyrraedd. Mae rhai sy’n agos at Iesu yn dweud wrtho fod ei deulu y tu allan yn aros amdano, ond mae Iesu yn ymateb drwy edrych ar y dyrfa a dweud:

“Dyma fy mam a’m brodyr i. Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Mae Iesu’n dysgu rhywbeth pwysig yma. Nid dweud y dylem anwybyddu ein teulu y mae, yn hytrach mae’n dweud wrthym mai’r peth pwysicaf bob tro yw’n perthynas gyda Duw – rhaid i hyn gael y flaenoriaeth hyd yn oed dros ein teulu. Cofia, er bod Duw am i ti garu dy deulu, ni ddylai’r teulu ddod o flaen Duw yn dy fywyd. Mae hyn yn arbennig o wir i blant sy’n cael eu cam-drin a’u hesgeuluso gan eu rhieni – nid yw Duw am i ni adael plant mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Croes Iesu

Mae Iesu Grist yn ein caru, ac mae’r cariad yma wedi costio’n ddrud iawn; roedd yn gariad aberthol. Carodd Iesu ni gymaint nes marw ar groes a dioddef barn Duw am ein pechodau ni. Dyma yw’r math o gariad mae Duw am i ni ei ddangos tuag at ein teulu. Mae hyn yn ymarferol iawn – golyga hyn pan wyt ti’n siŵr dy fod wedi cael dy drin yn anheg gan un o dy deulu, rhaid i ti faddau a charu a cheisio dangos Crist iddynt mewn ffordd ymarferol. Gall caru dy deulu gostio yn ddrud i ti.

Mae bod yn rhan o deulu yn fraint ryfeddol; does yr un teulu ar y ddaear yma yn berffaith, ond mae genym gyfrifoldeb i garu a chyfrannu a helpu ein gilydd. Felly ar Sul y mamau yma, diolcha i Dduw am ei gariad rhyfeddol a diolcha i dy Fam am ei gofal drostot ti.

Mae Steffan Job yn byw ym Mangor ac yn aelod o Gapel y Ffynnon.