Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cyngor ymarferol i dy helpu i weddïo

26 Gorffennaf 2017 | Gan Sarah Roberts

Yn aml gallwn gael trafferth i weddïo. Mae hon yn broblem mae Cristnogion wedi wynebu dros filoedd o flynyddoedd. Yn yr erthygl yma mae Sarah yn rhoi ychydig o gymorth i ni droi at Dduw mewn gweddi.

1. Duw yw ein Tad Nefol; mae’n bwysig cofio ei fod am i ni droi ato mewn gweddi.

2. Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu’n aml yn mynd i weddïo ar ei ben ei hun, yn ogystal â thros bobl eraill. Dylen ni fod yn dilyn ei esiampl.

3. Mae’n bwysig cofio bod yr Ysbryd Glân yn ein helpu i weddïo.
Dywed yr Apostol Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid:

Ac mae’r Ysbryd yn ein helpu ni yn ein cyflwr gwan presennol hefyd. Wyddon ni ddim yn iawn beth i’w weddïo, ond mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau’n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon. Rhufeiniaid 8:26

4. Mae cadw dyddiadur gweddi yn ddefnyddiol. Mae’n ffordd o gofio’r gwahanol bethau i weddïo amdanynt, tra hefyd yn ffordd o atgoffa rhywun am yr holl weddïau y mae Duw eisoes wedi’u hateb.

5. Rhoddodd Iesu batrwm perffaith i ni ynglŷn â sut i weddïo, a hynny yng Ngweddi’r Arglwydd (Mathew 6:9-13). Pedair agwedd amlwg sydd i’r weddi, sef yn syml: addoli; cyffesu; diolchgarwch; a gofyn. Mae’r acronym Saesneg

‘ACTS’ yn ffordd hawdd o gofio’r drefn:
A – adoration (h.y. addoli)
C – confession
T – thanksgiving
S – supplication (h.y. gofyn)

Mae’n bosibl defnyddio Gweddi’r Arglwydd fel fframwaith, yn enwedig gan ei bod yn ein hatgoffa i roi clod a diolch i Dduw yn hytrach na gofyn am bethau yn unig.

6. Mae’n syniad da gosod rhyw drefn ar gyfer dy amser gweddi. Er enghraifft, beth am sicrhau bod gen ti gyfnodau penodol i dreulio hefo Duw mewn gweddi pob diwrnod?

7. Mae gweddïo mewn awyrgylch heb unrhyw beth i dynnu dy sylw yn bwysig. Beth am roi’r teledu a’r cyfrifiadur i ffwrdd er mwyn canolbwyntio’n iawn? Mae darllen y Beibl neu wrando ar gerddoriaeth Gristnogol cyn gweddïo hefyd yn gallu bod yn help.

8. Ond wrth gwrs, fedri di droi at Dduw unrhyw bryd ac yn unrhyw le
– nid yw byth yn rhy brysur neu yn rhy flinedig i ti allu troi ato.

9. Mae’n help mawr os fedri di ddysgu darnau o’r Beibl – hyd yn oed os mai ambell adnod yn unig yw hynny. Mae’n ffordd dda o gychwyn gweddi os wyt ti’n ei chael hi’n anodd gwybod beth neu sut i gyfleu rhywbeth.

10. Un adnod i’w chofio yw:

Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol. Mathew 18:20

Mae hyn yn ein hatgoffa pa mor bwysig ydy cyfarfod hefo Christnogion eraill, nid yn unig i addoli a chymdeithasu ond hefyd i rannu a chynnal ein gilydd mewn gweddi.