Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Canlyniadau

14 Awst 2019 | Gan Amanda Griffiths
Canlyniadau

Rhannu

Sut wyt ti’n ymateb wrth glywed neu ddarllen y gair “canlyniadau”? Wyt ti’n teimlo’n nerfus, ofnus, sâl neu wyt ti’n un o’r bobl (prin) yna sy’n edrych ymlaen yn gyffrous i dderbyn canlyniadau?

Mae’n gyfnod disgwyl canlyniadau arholiadau i nifer fawr ohonoch. Mae’n siŵr bod y straen o adolygu ac ysgrifennu atebion di-ri mewn arholiadau yn teimlo’n atgof pell erbyn hyn ac mae Awst 15fed a’r 22ain yn agosáu yn ddidrugaredd. Dyma ddau ddyddiad fydd yn llywio dy fywyd tuag at ddewis y cyrsiau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch, coleg chweched dosbarth, prifysgol neu swyddi cywir ar dy gyfer di. Gelli di fod yn disgwyl mathau arall o ganlyniadau wrth gwrs: canlyniadau arholiad cerddoriaeth, treialon i dîm neu gamp chwaraeon arbennig, cyfweliad am swydd ran amser, canlyniad prawf gyrru neu ganlyniad prawf meddygol. Mae ’na gymaint o bethau posib y gelli di fod yn poeni amdanynt yr haf yma. Poeni am rywbeth personol neu am ganlyniadau rhywun arall – ffrind neu aelod o’r teulu.

Pa ateb gallaf i ei roi i ti?

Pa gyfrinach neu berl o ddoethineb gallaf i ei rannu gyda thi i dy helpu i beidio â phoeni neu ‘stresso mas’ yn ormodol? Wel, yn amserol iawn, edrychon ni ar Salm 46 yn ddiweddar yn y capel. Does dim ots beth sy’n creu poendod meddwl i ti, mae ateb a gorchymyn syml iawn yma fydd yn ein helpu ni i gyd i gael a chofio’r persbectif cywir yn ein bywydau ni:

‘Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw…’ (adnod 10)

Mae Duw yn ein gorchymyn i ddod ato ac i ymlonyddu, i anghofio am ein hofnau ni a dryswch ein bywydau ni. Mae e’n ein hatgoffa ni i ddod ato fe sy uwchlaw pob dim, yn holl wybodus, yn holl bresennol a chofio ‘…pan gwyd ef ei lais, todda’r ddaear’ (adnod 6) ‘…gwna i ryfeloedd beidio trwy’r holl ddaear’ (adnod 9). Er i bethau mawr, cadarn y byd gallu cael eu dinistrio ‘…er i’r ddaear symud ac i’r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr, er i’r dyfroedd ruo a therfysgu ac i’r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd…’ (adnodau 2 a 3), ‘nid ofnwn’ meddai’r salmydd. Pam? Achos bod Duw gyda ni. Mae e’n cael ei ddisgrifio fel ‘noddfa’ – man diogel pan mae pob man arall yn beryglus. Mae e’n ‘gaer’ sydd yn ein gwarchod ni rhag pethau drwg. Mae e’n ‘gymorth parod’ mewn adegau anodd ac mae e’n ‘nerth’ – yr un sy’n gallu rhoi’r modd i ni wynebu unrhywbeth. Nagyw e’n gysur mawr i ni wybod bod yr un a greodd y bydysawd, Duw Abraham, Isaac a Jacob, hefyd ‘gyda ni’ (adnod 11)?

Felly paid â phoeni!

Nid fi sy’n dweud hyn (achos dw i’n un gwael am gofio hyn fy hun!!). Mae Iesu yn dweud wrth ei ddisgyblion i beidio â phoeni. Mae e’n defnyddio adar yr awyr i ddangos hyn (Mathew 6:26). Mae e’n dweud bod Duw yn gofalu am yr adar ac yn rhoi popeth sydd ei angen arnyn nhw. Cymaint mwy mae Duw yn ein caru ni – ‘onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?’ ac felly os yw e’n bendithio’r adar â phethau da, gallwn ni fod yn sicr y bydd e’n darparu’r union bethau sydd eu hangen arnom ni. Wrth boeni, rydyn ni fel petai’n diystyru cymaint y mae Duw yn ein caru. Sut ydyn ni’n gwybod cymaint mae Duw yn ein caru ni? Wel, am iddo roi ei fab Iesu Grist i farw ar groes yn ein lle ni. Ni welwyd cariad mwy na hyn.

Ddylen ni ddim poeni ‘chwaith achos – does dim pwynt! Dydyn ni ddim yn gallu gwneud na newid dim yn ein nerth ein hunain – ‘P’run ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?’ (Mathew 6:27). Ac fel mae Iesu’n sôn yn Mathew 6:32, ddylwn ni ddim poeni fel mae rhai sy ddim yn credu yn Nuw yn gwneud. Mae rhoi dy ofnai ar Dduw ac ymddiried dy ddyfodol iddo ef yn dystiolaeth i dy ffrindiau, athrawon a theulu.

Felly, dw i’n gobeithio y cei di dy blesio gyda dy ganlyniadau. Ond yn aml, dydyn ni ddim yn derbyn y canlyniadau rydyn ni eisiau neu’n teimlo ein bod yn eu haeddu. Ydy hyn yn golygu eich bod wedi siomi Duw? Ydy e’n golygu bod Duw ddim yn dy garu di neu ddim eisiau gweld ti’n llwyddo? Ddim o gwbl! Os wyt ti’n Gristion, mae’n rhaid i ti gofio bod gen ti Dad nefol sy’n dy garu di ac wedi cynllunio pob cam a phob eiliad o dy fywyd di yn berffaith gan ei fod e’n dy adnabod yn well nag wyt ti’n adnabod dy hunan ‘…y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt’ (Salm 139:16). Mae gofidio a phoeni yn dangos ein bod ni’n rhoi’r pethau hyn o flaen Duw, bod y tîm pêl-droed, neu yrru car, yr A seren neu’r cwrs prifysgol i gyd yn bwysicach na Duw. Wrth ymddiried dy ddyfodol, dy holl fywyd i Dduw, gelli di fod yn dawel dy feddwl a chalon gan wybod mai Ef sy’n llywio pob cam o dy fywyd, boed hynny’n llwyddo neu fethu.

‘Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw,
yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd,
yn ddyrchafedig ar y ddaear.
Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yn gaer i ni.’

Salm 46:10-11

Mae Amanda Griffiths yn aelod yn Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd.