Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 49 – Profion yn dod

29 Mai 2020 | Gan Emyr James

49 – Profion yn dod

Marc 14:27-42

A dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch. Oherwydd y mae’n ysgrifenedig : ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir y defaid.’ Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o’ch blaen chwi i Galilea.” Meddai Pedr wrtho, “Er iddynt gwympo bob un, ni wnaf fi.” Ac meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt y bydd i ti heno nesaf, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, fy ngwadu i deirgwaith.” Ond taerai yntau’n fwy byth, “Petai’n rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf byth.” A’r un modd yr oeddent yn dweud i gyd. Daethant i le o’r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys, ac meddai wrthynt, “Y mae f’enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i’r awr, petai’n bosibl, fynd heibio iddo. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.” Daeth yn ôl a’u cael hwy’n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae’r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru’r un geiriau. A phan ddaeth yn ôl fe’u cafodd hwy’n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i’w ddweud wrtho. Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.”

Geiriau Anodd

  • Taeru: Dweud gyda sicrwydd.
  • Abba: Gair sydd yn golygu tad.

Cwestiwn 1

Ar bwy ydych chi’n dibynnu wrth wynebu adegau anodd?

Cwestiwn 2

Beth mae gweddi Iesu yn ei ddangos i ni am yr hyn yr oedd yn ei wynebu?

  Mae’r Beibl yn llawn rhybuddion ynglŷn â bod yn orhyderus yn ein nerth a’n gallu ein hunain. Mae’r bobl hynny sydd yn sicr ohonyn nhw eu hunain yn aml yn dysgu nad ydyn nhw ddim mor arbennig â hynny wedi’r cyfan.

  Wrth i’r awr agosáu, mae Iesu yn ceisio rhybuddio ei ddisgyblion am y tro olaf beth sydd ar fin digwydd. Mae e’n mynd i gael ei ddal a’i ladd, ac fel defaid heb fugail, fyddan nhw’n rhedeg i ffwrdd. Ond does dim angen digalonni oherwydd byddan nhw’n ei weld eto wedi iddo atgyfodi.

  Mae ymateb Pedr yr union beth byddech yn ei ddisgwyl ganddo. Mae’n dweud nad oes ots beth mae unrhyw un arall yn ei wneud, dydy e ddim yn mynd i adael Iesu i wynebu hyn ar ei ben ei hun, hyd yn oed os oes rhaid iddo farw hefyd. Ond mae Iesu yn dweud wrth Pedr ei fod yn mynd i’w wadu, nid unwaith neu ddwy, and tair gwaith cyn y bore!

  Wrth i Iesu sylweddoli mawredd yr hyn oedd ar fin digwydd, mae’n mynd gyda thri o’r disgyblion er mwyn gweddïo. Mae ei eiriau yn dechrau rhoi syniad i ni mor ddychrynllyd oedd yr hyn roedd yn ei wynebu. Meddyliwch am yr hyn rydyn ni wedi ei weld o Iesu hyd yma – doedd e byth yn ofnus a phob amser yn barod i wneud ewyllys ei Dad. Ac eto, wrth wynebu’r groes, mae’n gofyn i Dduw a oes unrhyw ffordd arall. Ond roedd ef ei hun yn gwybod mai dyma’r unig ffordd, ac mai dyma’r rheswm y daeth i’r byd.

  Beth mae’r tri disgybl yn ei wneud wrth i Iesu gael y profiad dychrynllyd hwn? Ydyn nhw yno, yn ei gefnogi a’i gysuro? Mae’n rhaid fod Pedr yno gydag ef? Na, maen nhw i gyd yn cysgu. Dair gwaith mae Iesu yn dod atynt ac yn gweld eu bod wedi methu aros yn effro. Wynebodd ef hyn ar ei ben ei hun. Ac o’r diwedd, mae’r awr wedi dod.

Cwestiwn 3

Ydych chi erioed wedi wynebu profiad anodd ar eich pen eich hun?

Cwestiwn 4

Beth yw’r hyder rydyn ni’n ei gael wrth weld fod Iesu yn rheoli’n llwyr popeth sydd yn digwydd?

Gweddïwch

am nerth wrth wynebu adegau anodd, a diolchwch i Dduw ei fod bob amser gyda chi.