Gwneud Marc 28 – Pwysicrwydd Ffydd
5 Mai 2020 | Gan Emyr James
28 – Pwysicrwydd Ffydd
Marc 9:14-29
Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o’u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau â hwy. Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe’u syfrdanwyd, a rhedasant ato a’i gyfarch. Gofynnodd yntau iddynt, “Am beth yr ydych yn dadlau â hwy?” Atebodd un o’r dyrfa ef, “Athro, mi ddois i â’m mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud, a pha bryd bynnag y mae hwnnw’n gafael ynddo y mae’n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau’n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant.” Atebodd Iesu hwy: “O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi.” A daethant â’r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn. Gofynnodd Iesu i’w dad, “Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “O’i blentyndod; llawer gwaith fe’i taflodd i’r tân neu i’r dŵr, i geisio’i ladd. Os yw’n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni.” Dywedodd Iesu wrtho, “Os yw’n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i’r sawl sydd â ffydd ganddo.” Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.” A phan welodd Iesu fod tyrfa’n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.” A chan weiddi a’i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw. Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a’i godi, a safodd ar ei draed. Ac wedi iddo fynd i’r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o’r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?” Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”
Geiriau Anodd
- Meddiannu: Cymryd drosodd.
- Malu ewyn: Poer yn dod dros y gwefusau.
- Ysgyrnygu ei ddannedd: Dannedd yn rhwbio yn erbyn eu gilydd.
- Diymadferth: Heb allu gwneud dim drosto ei hun.
- Goddef: Dioddef.
- Ysgytiodd: Siglodd.
Cwestiwn 1
Petai rhywun yn gofyn i chi beth yw ‘ffydd’, sut fyddech chi’n ateb?
Cwestiwn 2
Ydych chi byth yn ceisio gwneud pethau dros Dduw yn eich nerth eich hun?
Mae’r darn hwn o Efengyl Marc yn delio â dwy ran hollbwysig o’r bywyd Cristnogol, sef ffydd a gweddi. Rydym yn clywed fod gan ddyn blentyn, a bod y bachgen hwnnw wedi dioddef ers yn ifanc dan ddylanwad ysbryd drwg. Roedd yr ysbryd hwn yn achosi iddo gael ffitiau o ryw fath, a hyd yn oed yn ceisio cael y bachgen i’w ladd ei hunan. Roedd y tad wedi clywed am y ffordd roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi bod yn gwella pobl ac roedd yn gobeithio y bydden nhw’n gallu helpu. Ond mae’r disgyblion yn methu gwneud dim. Mae’n edrych fel petaen nhw wedi mynd yn falch a chredu y gallan nhw helpu’r bachgen yn eu nerth eu hunain yn hytrach na gweddïo ar Dduw. Doedd eu hyder nhw ddim yn y lle cywir ac felly roedd eu ffydd yn wan.
Pan mae Iesu’n cyrraedd ac mae’r tad yn gofyn a yw e’n gallu helpu mae Iesu’n esbonio fod unrhyw beth yn bosibl os oes gennych ffydd, os yw eich hyder ynddo fe. Mae ymateb y dyn yn dweud y cyfan – “Rwy yn credu, mae gen i ffydd, ond mae hi’n wan. Helpa fi i gredu.” Mae’n amlwg yn sylweddoli ei fod yn methu helpu ei hun na’i fab, ac mae’n gofyn i Iesu am help, ac am y nerth i gredu. Mae’n dibynnu ar Iesu i nerthu ei ffydd.
Wedi i Iesu iacháu’r bachgen, mae’n esbonio i’r disgyblion fod angen gweddi er mwyn cyflawni gweithredoedd fel hyn. Felly, darllenwch y darn eto, ac edrychwch am y weddi. Does dim sôn fod y disgyblion yn gweddïo, na Iesu chwaith. Yr unig berson sy’n galw allan am help yw’r tad. Mae’n gweddïo ar Iesu am help, ac mae Mab Duw yn ateb ei weddi. Felly ffydd yw rhoi eich hyder yn Nuw yn hytrach nag ynoch chi eich hunan, a gweddïo yw galw allan ar Dduw gan sylweddoli eich bod yn methu helpu eich hunan, ac mai dim ond Duw a all eich helpu.
Cwestiwn 3
Pam ydych chi’n meddwl bod y disgyblion wedi mynd yn falch?
Cwestiwn 4
Ydych chi erioed wedi profi diffyg ffydd? Pa bethau a all fod yn help i gryfhau eich ffydd?
Gweddïwch
ar Dduw i’ch helpu chi yn y mannau hynny lle mae’ch ffydd yn wan, ac i ddibynnu arno ef ym mhob peth.