Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Adfent 2019

29 Tachwedd 2019 | Gan Gwilym Tudur

Adfent 2019

Rhannu

Mae pobl yn paratoi ar gyfer y Nadolig mewn amrywiol ffyrdd. Mae rhai’n agor drysau bach eu calendrau adfent i fwyta’r siocled blasus. Mae eraill yn dechrau gwrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd Wham! a Mariah Carey ar Spotify. Mae eraill eto yn dathlu trwy godi eu coed Nadolig lliwgar yn eu parlwr a gosod addurniadau o amgylch y tŷ. Ydy, mae’r Adfent yn gyfnod cyffrous iawn o’r flwyddyn wrth i ni edrych ymlaen yn eiddgar ar gyfer y Nadolig. Sut wyt ti yn paratoi am y Nadolig?

Yng nghanol yr holl fwrlwm mae’n hawdd colli golwg ar wir ystyr y Nadolig – fod Mab Duw, Iesu Grist, wedi dod yn ddyn o gig a gwaed. Wyt ti erioed wedi meddwl beth yw ystyr y gair ‘adfent’? Daw’r gair o’r hen air Lladin adventus sy’n golygu ‘dyfodiad’. Dros y blynyddoedd mae’r adfent wedi bod yn gyfnod i Gristnogion feddwl ac ystyried pam fod Iesu wedi dod i’r byd fel baban mewn preseb ym Methlehem. Beth wyt ti am ei wneud gyda dy adfent di? Beth am dreulio peth o’r amser yn meddwl a rhyfeddu ar y ffaith fod Iesu wedi dod yn ddyn?

Bwriad y cynllun darllen hwn yw dy helpu i wneud hynny. Bydd y cynllun hwn yn edrych ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Iesu Grist – y Duw ddaeth yn ddyn. Bob dydd, bydd darn cryno o’r Beibl i’w ddarllen ynghyd ag ychydig o gwestiynau i dy helpu i ddeall y testun. Byddwn yn cychwyn drwy edrych ar sut mae’r Hen Destament yn edrych ymlaen at eni Iesu cyn edrych ar hanes y geni yn y Testament Newydd. Byddwn yn gorffen trwy edrych ar yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â pham wnaeth Duw anfon Iesu Grist i’r byd. Fy ngobaith ydy y bydd y cynllun darllen hwn yn dy gynorthwyo dros y Nadolig i weld mae Iesu yw’r anrheg Nadolig gorau erioed. Nadolig llawen i ti!

Os oes gen ti gwestiynau neu os wyt ti eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop ein gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.

Mae’r darlleniadau cyntaf ar gael yn y PDF isod, a bydd y gweddill yn dilyn yn fuan!

 

Tanysgrifiwch yma i dderbyn y cynllun darllen dros ebost