Gwneud Marc 21 – Adnabod Crist
26 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
21 – Adnabod Crist
Marc 6:45-56
Yna’n ddi-oed gwnaeth i’w ddisgyblion fynd i’r cwch a hwylio o’i flaen i’r ochr draw, i Bethsaida, tra byddai ef yn gollwng y dyrfa. Ac wedi canu’n iach iddynt aeth ymaith i’r mynydd i weddïo. Pan aeth hi’n hwyr yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. A gwelodd hwy mewn helbul wrth rwyfo, oherwydd yr oedd y gwynt yn eu herbyn, a rhywbryd rhwng tri a chwech o’r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Yr oedd am fynd heibio iddynt; ond pan welsant ef yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, oherwydd gwelodd pawb ef, a dychrynwyd hwy. Siaradodd yntau â hwy ar unwaith a dweud wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.” Dringodd i’r cwch atynt, a gostegodd y gwynt. Yr oedd eu syndod yn fawr dros ben, oblegid nid oeddent wedi deall ynglŷn â’r torthau; yr oedd eu meddwl wedi caledu. Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. Pan ddaethant allan o’r cwch, adnabu’r bobl ef ar unwaith, a dyma redeg o amgylch yr holl fro honno a dechrau cludo’r cleifion ar fatresi i ble bynnag y clywent ei fod ef. A phle bynnag y byddai’n mynd, i bentrefi neu i drefi neu i’r wlad, yr oeddent yn gosod y rhai oedd yn wael yn y marchnadleoedd, ac yn erfyn arno am iddynt gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. A phawb a gyffyrddodd ag ef, iachawyd hwy.
Geiriau Anodd
- Canu’n iach: Ffarwelio.
- Helbul: Trafferth.
- Drychiolaeth: Ysbryd.
- Oblegid: Oherwydd.
- Marchnadleoedd: Ardaloedd agored lle roedd pobl yn prynu a gwerthu nwyddau.
Cwestiwn 1
Ydych chi’n meddwl y byddai gweld gwyrth yn eich helpu i gredu yn Iesu Grist?
Cwestiwn 2
Pa fath o bethau mae’r bobl rydych chi’n eu hadnabod yn dweud am Iesu?
Mae gan y Saeson ddywediad diddorol iawn – “You can’t see the wood for the trees.” Yr hyn mae’n ei olygu yw er bod yr hyn rydych chi’n chwilio amdano yn union o’ch blaen, am ryw reswm dydych chi ddim yn gallu ei weld. Mae’n hollol amlwg, ond dydych chi ddim yn ei weld. Wrth ddarllen yr hanes yma am Iesu yn cerdded ar y dŵr ac ymateb y disgyblion, rydych chi’n teimlo fod y disgyblion yn dal yn methu gweld yr hyn oedd o dan eu trwynau. Roedden nhw wedi bod yn teithio gyda Iesu, yn treulio pob dydd yn ei gwmni, wedi gweld ei holl wyrthiau, a doedden nhw dal ddim yn deall. Hyd yn oed ar ôl y wyrth ddiwethaf welson nhw o fwydo’r pum mil, dydyn nhw ddim yn gallu credu fod Iesu yn gallu cerdded ar ddŵr ac felly maen nhw’n mynd yn ofnus, ac yna wedi’u drysu.
O ystyried hyn, mae edrych ar ymateb y bobl wedi iddyn nhw lanio yn fwy rhyfeddol fyth. Wrth i’r bobl hyn weld Iesu, maen nhw’n sylweddoli pwy yw e yn syth. Dydyn nhw ddim yn oedi o gwbl, ond yn dechrau rhuthro er mwyn dod â phobl at Iesu er mwyn iddo eu gwella. Doedden nhw ddim yn amau o gwbl pwy oedd wedi cyrraedd, na’r ffaith ei fod yn gallu eu helpu. Yn hytrach maen nhw’n dod mewn ffydd, ac mae eu ffydd yn cael ei phrofi’n gywir.
Mae’r hanes yn rhoi rhybudd difrifol i ni. Roedd y disgyblion wedi treulio’r holl amser yna yng nghwmni Iesu, ac eto doedden nhw ddim wedi deall pwy oedd e mewn gwirionedd. Ar y llaw arall roedd y dieithriaid hyn wedi gweld yn syth pwy oedd Iesu, wedi rhedeg ato a derbyn iachâd. Oes perygl ein bod ni yn treulio llawer o’n hamser yn mynd i’r capel a phethau felly, ond eto heb adnabod Iesu?
Cwestiwn 3
Beth ydych chi’n credu roedd Iesu eisiau’i ddangos i’r disgyblion drwy gerdded ar y dŵr?
Cwestiwn 4
Sut ydych chi’n meddwl roedd y disgyblion yn teimlo wrth sylweddoli mai Iesu oedd yno?
Gweddïwch
y bydd Duw yn caniatáu i chi weld mai Iesu yw’r Brenin sy’n gallu eich achub, credu ynddo fe, a rhedeg ato.