Dyfalbarhau
1 Gorffennaf 2019

Rhannu
Mae rhedeg 5k, 10k neu hyd yn oed marathon yn boblogaidd y dyddiau hyn, ond mae’n waith caled – rhaid dyfalbarhau wrth hyfforddi ac yn ystod y ras ei hun.
Nid yw bywyd y Cristion yn wahanol – dyna pam mae Paul yn ei ddisgrifio fel ras yn 1 Corinthiaid 9 ac mae angen cymorth arnom i ddyfalbarhau a dal ati. Dyma thema darlleniadau’r mis yma. Mae Duw yn ei Air a thrwy ei Ysbryd yn ein hannog a’n nerthu i ddal ati drwy gadw ein golwg ar Iesu.
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Mae modd lawrlwytho’r gynllun trwy’r ddolen isod, neu dilynwch ni ar Facebook, Instagram neu Twitter i weld y darlleniadau yn dyddiol!