Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 38 – Amser Heb Ddod

15 Mai 2020 | Gan Emyr James

Gwneud Marc 38 – Amser Heb Ddod

Marc 11:27-33

Daethant drachefn i Jerwsalem. Ac wrth ei fod yn cerdded yn y deml, dyma’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid yn dod ato, ac meddent wrtho, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti’n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti’r awdurdod hwn i wneud y pethau hyn?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ofynnaf un peth i chwi; atebwch fi, ac fe ddywedaf wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn. Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o’r byd daearol? Atebwch fi.” Dechreusant ddadlau â’i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘o’r nef’, fe ddywed, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’ Eithr a ddywedwn, ‘o’r byd daearol’?” — yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd mewn gwirionedd. Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

Geiriau Anodd

  • Drachefn: Unwaith eto.

Cwestiwn 1

Pam y mae Iesu fel petai’n osgoi ateb y cwestiwn yma?

Cwestiwn 2

Beth oedd yn bwysig i’r arweinwyr crefyddol, plesio Duw neu blesio dynion?

  Mae’n siŵr ein bod ni i gyd wedi dod ar draws pobl sydd byth yn rhoi ateb syml. Rydych chi’n gofyn cwestiwn iddyn nhw, ac yn lle ateb maen nhw’n gofyn cwestiwn yn ôl. Mae profiad fel yna yn rhwystredig iawn, yn arbennig os yw’r ateb yn effeithio ar eich trefniadau. Dyma’r union beth sy’n digwydd yma.

  Nawr fod Iesu wedi dod i mewn i Jerwsalem fel Brenin ac wedi tarfu ar yr hyn oedd yn digwydd yn y deml, mae’r arweinwyr crefyddol yn chwilio yn galetach fyth am ffordd i’w ladd. Maen nhw’n gofyn pa awdurdod oedd ganddo i wneud y pethau hyn, gan obeithio y bydd yn dweud rhywbeth y gallan nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn.

  Ond nid yw Iesu yn mynd i chwarae eu gêm nhw. Nid yw’r amser iddo farw wedi dod eto; fe sy’n rheoli’r sefyllfa, nid nhw. Felly mae’n gofyn cwestiwn iddyn nhw gyntaf. Y cwestiwn yn syml yw, o ble roedd Ioan yn cael ei awdurdod? Roedd yr arweinwyr crefyddol wedi gwrthod Ioan, ond roedd nifer fawr o’r bobl wedi credu yr hyn roedd yn ei ddweud. Felly mae Iesu wedi rhoi cwestiwn dydyn nhw ddim yn gallu ei ateb yn rhwydd heb gael eu hunain i drafferthion (sef yr union beth roedden nhw’n ceisio ei wneud iddo fe!). Os ydyn nhw’n dweud fod Ioan wedi dod oddi wrth Dduw, yna byddai hynny’n golygu bod popeth a ddywedodd am Iesu yn wir. Ond os ydyn nhw’n gwadu awdurdod Ioan, yna byddai’r holl bobl a gredodd Ioan yn troi yn eu herbyn. Er mwyn osgoi ateb maen nhw’n esgus nad ydynt yn gwybod, felly does dim rhaid i Iesu ateb chwaith.

  Mae’n bwysig nad ydym yn meddwl fan hyn fod Iesu yn dwyllodrus. Mewn un ffordd mae’n ateb y cwestiwn – mae ei awdurdod ef yn dod oddi wrth Dduw, yn union fel Ioan. Ond doedden nhw ddim eisiau clywed yr ateb, dim ond dod o hyd i ffordd o gael gwared arno; a doedd Iesu ddim yn barod i hynny ddigwydd eto. Weithiau fe fydd pobl yn holi am ein ffydd, ond dydyn nhw ddim wir eisiau gwybod yr ateb. Y cyfan maen nhw ei eisiau yw ein profi yn anghywir. Ar adegau fel hyn does dim byd yn anghywir mewn gofyn cwestiynau iddyn nhw hefyd, er mwyn dangos eu rhagrith.

Cwestiwn 3

Ym mha ffyrdd mae agwedd Iesu yma yn ein helpu ni wrth i ni wynebu cwestiynau pobl eraill?

Cwestiwn 4

Pam ydych chi’n meddwl roedd yr arweinwyr yn poeni cymaint am awdurdod Crist?

Gweddïwch

am ddoethineb wrth geisio ateb cwestiynau ac esbonio’r newyddion da am Iesu Grist i bobl eraill.