Cynllun Darllen Addewidion Duw
30 Rhagfyr 2017

Rhannu
Wyt ti wedi gwneud addunedau ar gyfer y flwyddyn newydd? Efallai rwyt am drio bwyta llai o greision, gwastraffu llai o amser ar Facebook, neu am gerdded 10,000 cam bob dydd… Efallai rwyt wedi addo i ddarllen dy Feibl bob dydd a threulio amser yn siarad gyda Duw.
Nid ydym bob tro yn llwyddo i gadw’r addunedau hyn – erbyn diwedd Ionawr byddwn wedi torri o leiaf un adduned. Byddwn yn teimlo siom nad ydym wedi llwyddo i wneud ein 10,000 cam, neu ein bod wedi methu darllen Gair Duw rhai dyddiau. Y newyddion da yw er mor anffyddlon ydym ni i Dduw, y mae Ef yn raslon a thrugarog, a bob tro yn ffyddlon i ni.
Pwrpas y cynllun darllen hwn yw dy helpu i ddarllen trwy rhai o addewidion Duw yn y Beibl. Mae’r addewidion hyn yr un mor wir heddiw ag yr oedden nhw pan ddatganwyd nhw yn wreiddiol. O addewid Duw i’n maddau ni, i’w addewid i wrando ar ein gweddïau, mae’r cynllun darllen yma i helpu ti i weld ffyddlondeb Duw a’i gofal drosot ti er mwyn i ti fod yn hyderus yn hynny wrth i ti wynebu blwyddyn newydd 2018.
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.