Gwneud Marc 27 – Y Proffwyd Mwyaf
4 Mai 2020 | Gan Emyr James
27 – Y Proffwyd Mwyaf
Marc 9:2-13
Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu’n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o’r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, ac aeth ei ddillad i ddisgleirio’n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu. Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae’n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Oherwydd ni wyddai beth i’w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint. A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o’r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.” Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy. Wrth iddynt ddod i lawr o’r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw. Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw. A gofynasant iddo, “Pam y mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” Meddai yntau wrthynt, “Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae’n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu? Ond rwy’n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, a gwnaethant iddo beth bynnag a fynnent, fel y mae’n ysgrifenedig amdano.”
Geiriau Anodd
- Gweddnewidiwyd: Newidiwyd y ffordd roedd e’n edrych.
- Claerwyn: Mor wyn fel ei fod yn disgleirio.
- Pannwr: Un sy’n glanhau defnydd trwy ei guro.
- Ymddiddan: Siarad.
- Rabbi: Athro.
- Disymwth: Yn sydyn.
Cwestiwn 1
Pa fath o bethau ydych chi’n eu cysylltu â’r gair disglair?
Cwestiwn 2
Ydych chi erioed wedi dweud y peth anghywir oherwydd doeddech chi ddim yn gwybod beth i’w ddweud?
Mae ein cymdeithas ni yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn Iân. Mae hyn yn arbennig o wir pan mae’n dod i ddillad – nid yw’n dderbyniol i wisgo dillad brwnt. Dyna pam y mae cymaint o hysbysebion ar y teledu yn ceisio gwerthu powdr golchi dillad – maen nhw i gyd yn addo gwneud eich dillad (ac yn arbennig eich dillad gwyn) i edrych yn ddisglair. Yr awgrym yw bod dillad disglair yn eich gwneud chi’n berson gwell.
Ond gyda Iesu, y gwrthwyneb sy’n digwydd. Mae am ddangos i’r tri disgybl oedd agosaf ato rywbeth mwy amdano ef ei hun. Nid ei ddillad sy’n gwneud iddo ddisgleirio; mae ei ddillad ef yn disgleirio oherwydd berffeithrwydd. Roedd y tri yma yn mynd i arwain yr Eglwys yn y dyfodol, ac felly mae Iesu’n eu paratoi drwy ddangos iddynt ychydig bach o’i fawredd.
Mae’r disgyblion yn gweld Iesu yn siarad â dau ddyn oedd wedi gwneud pethau mawr yn enw Duw. Trwy law Moses derbyniodd Israel y gyfraith, ac roedd Elias yn cael ei weld fel y proffwyd mwyaf. A dyma lle maen nhw, yn cael sgwrs â Iesu.
Does dim syndod nad oedd y disgyblion yn gwybod beth i’w ddweud. Ond mae Pedr yn gwneud camgymeriad drwy awgrymu bod Iesu, Moses ac Elias i gyd yn haeddu yr un faint o anrhydedd. Felly mae Duw’r Tad yn siarad gan ddweud mai Iesu yn unig yw ei Fab a bod angen iddyn nhw wrando arno fe.
Yr hyn fyddai’n dangos unwaith ac am byth fod Iesu’n dweud y gwir amdano’i hun fyddai ei atgyfodiad o farwolaeth. Ond doedd y disgyblion ddim yn gallu deall beth roedd e’n ei olygu. Maen nhw’n dangos eu diffyg dealltwriaeth wrth holi am Elias. Roedd wedi ei broffwydo y byddai Duw yn anfon Elias i baratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia. Ateb Iesu yw fod Ioan Fedyddiwr wedi dod yn ysbryd a nerth Elias i wneud y gwaith hwnnw a’u bod nhw heb ddeall y rhan honno o’r Ysgrythur, na chwaith y rhannau sy’n dweud fod yn rhaid i’r Meseia ddioddef. Ydych chi wedi deall pam y bu raid i Iesu ddioddef trosoch chi?
Cwestiwn 3
Beth ydym ni’n ei ddysgu am Iesu fan hyn?
Cwestiwn 4
Pa sicrwydd mae atgyfodiad Iesu yn ei roi i ni?
Gweddïwch
am gael gweld mwy o ogoniant Iesu, i ddeall ei air yn well ac i wrando yn astud arno.