Gwneud Marc 36 – Croesawu’r Brenin
14 Mai 2020 | Gan Emyr James
36 – Croesawu’r Brenin
Marc 11:1-11
Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem, at Bethffage a Bethania, ger Mynydd yr Olewydd, anfonodd ddau o’i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i’r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth wrth ichwi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.'” Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef. Ac meddai rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?” Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd. Daethant â’r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn. Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o’r meysydd. Ac yr oedd y rhai ar y blaen a’r rhai o’r tu ôl yn gweiddi: “Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd. Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!” Aeth i mewn i Jerwsalem ac i’r deml, ac wedi edrych o’i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda’r Deuddeg.
Geiriau Anodd
- Ebol: Asyn ifanc.
- Yn union deg: Yn syth.
- Taenodd: Gwasgarodd.
- Hosanna: Mae hyn yn air o fawl i Dduw sy’n galw arno i achub ei bobl.
- Bendigedig: Yn haeddu mawl.
- Teml: Dyma oedd canolbwynt y grefydd Iddewig, lle roedd offeiriaid yn aberthu anifeiliaid i Dduw er mwyn gwneud yn iawn am bechod y bobl.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi gweld brenin neu frenhines yn gorymdeithio?
Cwestiwn 2
Beth ydych chi’n meddwl roedd Iesu yn ceisio ei ddysgu yma?
Ym Marc 1:1-8, gwelsom Ioan Fedyddiwr yn gwneud gwaith negesydd o baratoi’r ffordd ar gyfer y Brenin. Ond doedd e ddim yn edrych fel negesydd cyffredin, ac fel rydym ni wedi gweld sawl tro, doedd Iesu ddim y math o frenin roedd pobl yn ei ddisgwyl – mae’n dlawd, mae’n ostyngedig ac mae’n gwasanaethu eraill.
Yn awr, wrth i Iesu gyrraedd Jerwsalem, canolbwynt y grefydd Iddewig, er mwyn cyflawni’r hyn roedd wedi dod i’r byd i’w wneud, dydy e dal ddim yn edrych fel y math o frenin y byddai’r byd yn ei edmygu. Yn hytrach na marchogaeth i mewn gan edrych yn nerthol ar gefn ceffyl, mae Iesu’n dewis eistedd ar gefn asyn bach.
Ond er nad yw e’n edrych fel y bydden ni wedi disgwyl, roedd Iesu unwaith eto yn cyflawni pethau oedd wedi cael eu dweud amdano gan y proffwydi gannoedd o flynyddoedd yn gynt. Roedd y proffwyd Sechareia (9:9) wedi dweud mai dyma’r union ffordd y byddai’r Brenin yn dod i mewn i Jerwsalem.
Mae’r bobl fel petaen nhw wedi gwrando ar Bartimeus, oherwydd maen nhw’n rhoi clod i’r un sy’n dod i eistedd ar orsedd Dafydd. Maen nhw’n dangos parch ato drwy osod dillad a changhennau o dan draed yr ebol. Ar yr un pryd maen nhw’n galw allan ar Dduw i’w hachub, ac yn diolch mai Iesu yw’r Brenin.
Ond fydd yr olygfa hapus hon ddim yn para yn hir. Er bod llawer wedi ymuno yn y dathlu a’r cyffro wrth i Iesu gyrraedd Jerwsalem, mewn ychydig ddyddiau bydd y dorf yn gweiddi geiriau gwahanol iawn. Yn lle rhoi clod i Iesu, byddan nhw’n galw ar y Rhufeiniaid i’w ladd ar groes. Ydych chi’n cofio tir creigiog dameg yr heuwr ym Marc 4:1-20? Roedd y bobl hyn yn derbyn Iesu yn llawen un funud, ond oherwydd bod eu ffydd heb ei gwreiddio yn ddwfn yn Iesu, dim ond dilyn y dorf maen nhw.
Cwestiwn 3
Oes perygl ein bod ni weithiau yn gwneud pethau da neu ddrwg oherwydd fod pawb arall yn eu gwneud?
Cwestiwn 4
Pam roedd y bobl yn galw ar Dduw i’w hachub?
Gweddïwch
gan roi mawl i Dduw. Mae Iesu yn fendigedig, ac mae ei deyrnas yn wych.