Gwneud Marc 37 – Diffyg Ffrwyth
15 Mai 2020 | Gan Emyr James
37 – Diffyg Ffrwyth
Marc 11:12-26
Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno. A phan welodd o bell ffigysbren ac arno ddail, aeth i edrych tybed a gâi rywbeth arno. A phan ddaeth ato ni chafodd ddim ond dail, oblegid nid oedd yn dymor ffigys. Dywedodd wrtho, “Peidied neb â bwyta ffrwyth ohonot ti byth mwy!” Ac yr oedd ei ddisgyblion yn gwrando. Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i’r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a’r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawai i neb gludo dim trwy’r deml. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw’n ysgrifenedig: ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?” Clywodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i’w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth. A phan aeth hi’n hwyr aethant allan o’r ddinas. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae’r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.” Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw; yn wir, rwy’n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i’r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe’i rhoddir iddo. Gan hynny rwy’n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe’i rhoddir i chwi. A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i’ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.”
Geiriau Anodd
- Chwant: Eisiau.
- Ffigysbren: Coeden ffigys.
- Cyfnewidwyr arian: Pobl oedd yn gwerthu math arbennig o arian i’w ddefnyddio yn y deml.
- Melltithio: Dymuno rhywbeth drwg.
- Camweddau: Pechodau
Cwestiwn 1
Gan gofio rhai o ddamhegion Iesu yn y gorffennol, beth ydych chi’n credu mae ei eiriau i’r ffigysbren yn meddwl?
Cwestiwn 2
Beth sydd yn debyg rhwng y ffigysbren a’r deml?
Dychmygwch eich bod chi eisiau bwyd ac yn sylweddoli bod cypyrddau eich cegin yn gwbl wag! Petaech chi’n gwylltio gyda’r cwpwrdd byddai eich teulu yn meddwl eich bod chi’n wallgof. Efallai wrth ddarllen geiriau Iesu i’r goeden eich bod yn meddwl ei fod yn gwneud rhywbeth tebyg yma. Ond unwaith eto mae Iesu’n defnyddio pethau fel symbolau er mwyn dysgu rhywbeth i’w ddisgyblion.
Pan aeth Iesu i’r deml, beth oedd e’n disgwyl ei weld? Dyma oedd lle mwyaf sanctaidd y grefydd Iddewig, y man lle roedd dynion yn gallu dod i addoli Duw. Dylai’r lle fod wedi bod yn llawn ffrwyth ysbrydol – pobl yn addoli Duw ac yn caru ei gilydd. Ond yr hyn mae’n ei weld yw dynion yn prynu a gwerthu gan dwyllo pobl allan o’u harian; yn defnyddio tŷ Dduw er mwyn dwyn. Wrth ddod i’r deml, gwelodd Iesu nad oedd dim ffrwyth ysbrydol yno, yn union fel y ffigysbren! Pan mae’r disgyblion yn gweld fod y ffigysbren wedi marw, mae Iesu yn esbonio iddyn nhw fod ffydd yn gallu cyflawni unrhyw beth.
Ond pam y mae Iesu’n rhoi’r enghraifft o daflu mynydd i mewn i’r môr? Y mynydd mae’n cyfeirio ato yw’r mynydd roedd Jerwsalem a’r deml wedi eu hadeiladu arno. Yr hyn mae Iesu yn ei ddweud yw fod trefn newydd wedi dechrau, gyda fe yn Frenin drosti. Does dim angen y deml ragor oherwydd nid yn y deml mae cwrdd â Duw nawr, ond yn Iesu Grist. Os oes gennych ffydd ynddo, ac yn credu fod hynny’n ddigon i’ch achub, yna gallwch daflu’r deml i ffwrdd.
Mae dau ganlyniad amlwg i’r ffydd honno. Yn gyntaf, os oes gennym ffydd yna fe wnawn ni dderbyn yr hyn rydym yn gofyn amdano. Ond natur ffydd go iawn yw meddwl yn yr un ffordd â Iesu Grist; felly os ydym yn gweddïo drwy ffydd yna fe fyddwn ni’n amlwg yn gofyn am yr hyn mae e’n credu sydd orau. Yr ail ganlyniad yw fod ein ffydd yn newid y ffordd rydym yn trin eraill. Os ydym wedi derbyn maddeuant gan Dduw, yna sut gallwn ni beidio â maddau i bobl eraill? Os ydym yn dal dig yn erbyn rhywun heb faddau iddynt, dydy hi ddim yn bosibl i weddïo drwy ffydd.
Cwestiwn 3
Pam y mae ffydd mor bwysig wrth weddïo?
Cwestiwn 4
Pam y mae maddau i eraill yn bwysig?
Gweddïwch
am ffydd i gredu y bydd Duw yn rhoi’r hyn rydych chi’n gofyn amdano yn enw Crist.