Gwneud Marc 39 – Colli Etifeddiaeth
15 Mai 2020 | Gan Emyr James
39 – Colli Etifeddiaeth
Marc 12:1-12
Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o’i hamgylch, a chloddio cafn i’r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan. Daliasant hwythau ef, a’i guro, a’i yrru i ffwrdd yn waglaw. Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a’i amharchu. Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill. Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab’. Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw’r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.’ A chymerasant ef, a’i ladd, a’i fwrw allan o’r winllan. Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill. Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon: ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfeddol yn ein golwg ni’?” Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.
Geiriau Anodd
- Gwinllan: Lle i dyfu grawnwin.
- Cafn: Sianel.
- Gwinwryf: Lle i wasgu’r sudd o’r grawnwin.
- Tenantiaid: Pobl sy’n llogi eiddo.
- Etifedd: Person sy’n derbyn rhywbeth ar ôl marwolaeth y perchennog.
Cwestiwn 1
Pwy yw’r gwahanol gymeriadau sy’n ymddangos yn y ddameg hon?
Cwestiwn 2
Ydych chi erioed wedi taflu rhywbeth i ffwrdd, dim ond i sylweddoli ei fod yn fwy gwerthfawr nag oeddech chi’n sylweddoli?
Er ei fod wedi gwrthod ateb cwestiwn yr arweinwyr, mae Iesu’n dal i geisio esbonio iddyn nhw mai ef yw’r un roedd Duw wedi addo y byddai’n ei anfon i achub ei bobl. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio damhegion. Roedd y darlun o winllan yn un cyfarwydd iawn iddynt. Mae’n ymddangos sawl tro yn yr Hen Destament fel symbol am Israel fel pobl Dduw. Er enghraifft mae Eseia 5 yn disgrifio’r ffordd y plannodd Duw Israel fel gwinllan, ond oherwydd ei bod hi heb ddwyn ffrwyth fe gosbodd y bobl a gadael iddynt gael eu concro gan wlad arall.
Yn y ddameg hon, mae Iesu’n defnyddio’r darlun hwn er mwyn dangos sut roedd Israel wedi colli ei ffordd. Er bod Duw wedi gwneud cymaint dros y bobl yma, roedden nhw wedi troi i ffwrdd o roi gwir addoliad iddo, gan ddibynnu ar ba mor dda roedden nhw’n gallu byw. Fel y dyn a anfonodd ei weision i dderbyn o’r ffrwyth, fe anfonodd Duw broffwydi er mwyn arwain ei bobl ond fe wnaethon nhw wrthod pob un ohonynt. Yn y diwedd dyma’r dyn yn anfon ei fab, ond wnaethon nhw ei drin ef yn yr un ffordd oherwydd roedden nhw eisiau dal gafael ar eu hawdurdod. Roedd Duw yn awr wedi anfon ei Fab ei hun, ac eto roedden nhw’n ei wrthod. Dyma rybudd ofnadwy i’r bobl.
Mae Iesu’n eu rhybuddio fod teyrnas Dduw fel adeilad. Ar y pryd roedden nhw’n ei wrthod ef fel carreg neu fricsen nad oedd yn edrych yn ddigon da. Ond yn y pen draw byddan nhw’n sylweddoli mai ef yw’r rhan fwyaf pwysig sydd yn dal yr adeilad at ei gilydd. Os ydyn nhw’n parhau fel hyn, yna yn union fel y daeth perchennog y winllan i gosbi’r tenantiaid a rhoi’r hyn oedd ganddyn nhw i bobl eraill, mae Duw yn mynd i’w cosbi nhw am wrthod ei Fab a rhoi’r deyrnas i eraill.
Cwestiwn 3
Pam ydych chi’n meddwl y gwnaeth y tenantiaid yn y ddameg ymddwyn yn y ffordd a wnaethon nhw?
Cwestiwn 4
Pam y mae’n newyddion gwych i glywed fod perchennog y winllan wedi rhoi’r winllan i bobl eraill ar ddiwedd y stori?
Gweddïwch
y bydd Duw yn eich helpu i fod yn ffyddlon gyda’r hyn y mae wedi ei roi i’ch gofal.