Gwneud Marc 55 – Atgyfodiad Gogoneddus
1 Mehefin 2020 | Gan Emyr James
55 – Atgyfodiad Gogoneddus
Marc 15:42-16:8
Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth, daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau’n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin. Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff. Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a’i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd. Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef. Wedi i’r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i’w eneinio ef. Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a’r haul newydd godi, dyma hwy’n dod at y bedd. Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla’r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?” Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn. Aethant i mewn i’r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt. Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma’r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.'” Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt.
Geiriau Anodd
- Amdói: Lapio.
- Naddu: Cerfio.
- Treiglo: Rowlio.
- Peraroglau: Sylweddau sy’n arogli’n dda, ac yn cael eu defnyddio i baratoi corff marw.
Cwestiwn 1
Beth ydych chi’n credu oedd yn mynd trwy feddwl y gwragedd wrth iddyn nhw ddod at y bedd?
Cwestiwn 2
Beth sydd yn drawiadol am ymateb Pilat i farwolaeth Iesu?
Petai llyfr Marc wedi gorffen gyda marwolaeth Iesu, nid newyddion da fyddai mewn gwirionedd, ond hanes am ddyn arbennig a wnaeth ac a ddywedodd lawer o bethau anhygoel, ac a gafodd ei ladd am hynny. Ond nid dyna ddiwedd y stori.
Mae dyn o’r enw Joseff yn gofyn i Pilat am yr hawl i gladdu corff Iesu. Roedd croeshoelio yn gallu cymryd amser hir, ac felly roedd Pilat yn synnu fod Iesu wedi marw mor gyflym. Unwaith eto rydym yn gweld rheolaeth Iesu dros yr holl sefyllfa – er ei fod yn cael ei ladd, roedd hefyd yn dewis rhoi ei fywyd ac yn penderfynu’r awr y byddai’n marw. Felly gyda pharch a chariad mae Joseff yn ei lapio’n dyner mewn deunydd ac yn ei roi mewn bedd.
Wedi i’r diwrnod gorffwys orffen, daeth rhai o’r gwragedd oedd yn dilyn Iesu at y bedd. Roedden nhw am wneud un weithred gariadus olaf i’w Brenin drwy roi peraroglau ar ei gorff fyddai’n ei gadw rhag drewi. Doedden nhw ddim yn siŵr iawn sut y gallen nhw symud y garreg drom oedd yn cau’r bedd, and er syndod mawr iddynt, wrth gyrraedd y lle dyma nhw’n gweld fod y bedd ar agor yn barod. Mae’r syndod yn troi’n ofn wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r bedd a gweld angel mewn gwisg lachar. Roedden nhw’n chwilio am gorff marw, and mae’r angel yn dweud wrthyn nhw fod Iesu wedi dod nôl yn fyw! Dyma’r hyn roedd Iesu wedi ceisio ei esbonio dro ar ôl tro! Doedd dim rhaid ofni na bod yn drist wrth iddo farw, oherwydd roedd e’n mynd i godi o’r bedd. Wrth i’r Brenin Iesu godi mewn buddugoliaeth dros farwolaeth, uffern a’r diafol, roedd yn profi bod y cyfan roedd wedi ei ddweud yn wir. Ond roedd hefyd yn dangos fod Duw wedi derbyn ei aberth; ac yn yr un ffordd y cododd Iesu o’r bedd i fywyd tragwyddol mae sicrwydd y bydd pob un sy’n rhoi ei ffydd ynddo ef hefyd yn codi er mwyn treulio tragwyddoldeb gydag ef ym mhresenoldeb y Tad.
Cwestiwn 3
Ym mha ffyrdd mae atgyfodiad Iesu yn rhoi sicrwydd i ni?
Cwestiwn 4
Meddyliwch eto am bopeth rydych chi wedi ei ddysgu am y Brenin Iesu. Ydych chi’n ei garu, ac eisiau ei ddilyn bob dydd o’ch bywyd?
Gweddïwch
am ffydd i gredu fod Iesu nid yn unig wedi marw er mwyn derbyn y gosb am eich pechod, ond ei fod wedi atgyfodi er mwyn rhoi bywyd i chi hefyd.