Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Be ’dych chi ’di bod yn ’neud dros yr Haf?

1 Medi 2017 | Gan Siwan Davies

Siwan Davies o Aberystwyth sy’n rhoi hanes un o’r gweithgareddau a mynychwyd ganddi.

Rhai wythnosau yn ôl, (22ain i 28ain o Orffennaf) fe ymunais i (drwy berswâd ffrind) â thîm ‘Ymgyrch y Traeth’ yng Nghei Newydd (grŵp sy’n cyflwyno newyddion da’r Beibl trwy weithgareddau gwahanol i deuluoedd sydd ar eu gwyliau). Er bod ymuno â’r tîm wedi apelio i mi ers amser, roedd y diwrnodau yn arwain at y profiad yn llawn nerfusrwydd ac ansicrwydd am beth oedd yn fy nisgwyl. Roedd ymuno â thîm nad oeddwn yn ei adnabod, ac yn siarad iaith nad oeddwn yn rhy gyfforddus o’i siarad yn fy arswydo braidd.

OND! Pan gyrhaeddon ni festri’r capel (HQ) fe gefais y croeso mwyaf cynnes erioed, ac yn bendant helpodd hyn i mi ymlacio ychydig. Wrth i’r wythnos fynd ymlaen, fe dyfais yn agosach at aelodau eraill y tîm gan wneud llawer o ffrindiau newydd. Yn wir, mae cwmni hwylus yn medru gwneud i ni fwynhau unrhyw beth (gan gynnwys cysgu ar ‘air-bed’ ar lawr festri eglwys!)

Bu ambell i ddigwyddiad doniol yn ystod yr wythnos hefyd:

Un bore, fe es i allan i’r gawod (a oedd yn debyg i doiledau ‘porta-loo’ fel sydd yn yr Eisteddfod). Pan agorais y drws roedd buwch yno yn syllu arnaf i gyda’i llygaid mawr melyn! Roedd cae cyfan o wartheg wedi dianc o gae cyfagos. Fe gymerodd hi ychydig o amser i mi gael y dewrder i redeg allan o’r gawod, yn ôl i hafan y festri i ofyn “Are the cows supposed to be next to the shower?”

Ar ôl bore gwlyb a thawel ar y traeth, fe benderfynodd Dave (arweinydd ein tîm) y byddai’n syniad da i gario ein ‘gazebo’ yn ôl i HQ ar agor fel ymbarél mawr, i ni osgoi gwlychu’n ormodol. Fe wnaethom ni hyn trwy gerdded yng nghanol y ffordd, gydag un person yn cario pob coes y ‘gazebo’ a phawb arall yn cysgodi o dan y to defnydd. Y peth mwyaf doniol am hyn oedd wynebau pobl a oedd yn ein pasio!

Ar nodyn mwy difrifol, roedd y gwaith plant yn llwyddiannus gyda nifer o blant yn dod yn ôl yn gyson i’r clybiau a’r gweithgareddau a drefnwyd ar y traeth. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt ar wyliau am yr wythnos neu fwy, roedd gennym gyfle gwych i ddod i’w adnabod nhw a’u teuluoedd. Pan oedd fwy o strwythur i’r boreau, roeddwn i’n gyfrifol am y plant o dan 5 oed. Roedd yn rhaid trefnu gemau a gweithgareddau fel pwll peli bach, teganau, swigod ayyb. Gan fod y plant o dan 5, roedd yn rhaid i riant ddod gyda nhw ac felly fe agorwyd nifer o gyfleoedd i siarad gyda rhieni neu neiniau a theidiau am Iesu Grist. Roedd rhai teuluoedd yn delio gyda phroblemau anodd megis tor-priodas. Fe ffeindiais siarad gyda phobl am bethau fel hyn yn sialens gan fy mod i, fel merch ifanc, braidd yn ddibrofiad yn y ‘byd go iawn’. Er nad oeddynt yn Gristnogion, ges i’r cyfle gweddïo gyda rhai dros eu teuluoedd, plant ac wyrion – sialens bellach gan fy mod erioed wedi gweddïo yn uchel yn Saesneg o’r blaen!

Cyfrifoldeb arall oedd gen i ar ddiwrnodau mwy anffurfiol oedd gwahodd teuluoedd i’n clybiau a’n gweithgareddau. Dydd Mercher, roedd hi wedi bod yn glawio ychydig cyn i ni fyd i lawr i’r traeth ac felly dim ond dau neu dri o deuluoedd oedd yno. Es i i wahodd rhai o’r teuluoedd ond dim ond un ferch oedd am ymuno. Er hyn, fe chwaraeon ni ambell gêm gan wneud astudiaeth Feiblaidd nes ymlaen. Cyn iddi fynd fe roddwyd iddi efengyl Ioan, (er mwyn iddi ddarllen ychydig o’r bennod gyntaf), a dywedon ni wrthi i ddod yn ôl y diwrnod canlynol os oedd ganddi unrhyw gwestiynau. Fe ddaeth hi’n ôl y diwrnod canlynol wedi darllen yr efengyl gyfan! Roedd hyn yn gymaint o anogaeth i ni fel tîm, i weld bod Duw yn gweithio yng nghalonnau’r plant.

Ar un llaw, roedd yr wythnos yn un blinedig, llawn paratoi a oedd yn golygu codi am 7:00 bob bore! Ond rhaid i mi bwysleisio mor werth chweil oedd y gwaith a fy mod mor falch bod fy ffrind wedi fy mherswadio i fynd. Roedd yn gymaint o fraint i fedru gwneud gwaith Duw gyda thîm a oedd yn teimlo gymaint fel teulu mawr, ac i fod yn rhan o gynllun Duw mewn ardal mor agos i adref!