Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cynhadledd ‘Hillsong’

19 Gorffennaf 2017 | Gan Hywel Parry

Ar ddechrau Awst cawsom gyfle fel teulu i fynychu cynhadledd Hillsong yn arena’r O2 yn Llundain. Eglwys yn Sydney, Awstralia yw Hillsong yn wreiddiol, sydd erbyn hyn wedi tyfu i fod yn rhwydwaith o eglwysi mawr ledled y byd. Daw peth o’u henwogrwydd o’r caneuon sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ei aelodau dros y blynyddoedd, a ganir mewn eglwysi o bob math ar draws y byd gan gynnwys yma yng Nghymru.

Roedd o brofiad o fod ymysg 20,000 o bobl yn addoli ac yn gwrando ar air Duw yn cael ei bregethu yn wefreiddiol. Ymysg yr uchafbwyntiau i mi oedd gwrando ar Carl Lentz yn pregethu am fod yn bobl sydd yn ddiolchgar yn ein bywydau bob dydd. Carl sy’n arwain eglwys Hillsong yn Efrog Newydd, ac yn adnabyddus am fod yn weinidog ar Justin Bieber. Bu nifer yn rhannu tystiolaeth am ras Duw ar eu bywydau, gan gynnwys Ashley Jean-Baptiste, a oroesodd plentyndod anodd gan ddod yn Gristion yn 16 oed; bu yn y ffeinal o ‘X-Factor’ ac mae nawr yn cynhyrchu ffilmiau i’r BBC gan gynnwys ar drasiedi Grenfell.

Trwy gydol y gynhadledd roedd pob sgwrs a sesiwn addoli yn galondid ac yn anogaeth i ni – mae’r Iesu yn fyw, mae’n dod â channoedd i ffydd ledled Ewrop ac yma ym Mhrydain.