Gwneud Marc – Cyfle i ddarllen efengyl Marc gyda’ch ffrindiau
3 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
Gwneud Marc: Darllen a deall y newyddion da am y Brenin Iesu
Bwriad yr astudiaethau hyn yw helpu Cristnogion ifainc i wneud yr hyn mae llawer o Gristnogion hŷn yn ei gael yn anodd, sef darllen a deall y Beibl! Byddwn yn cynhyrchu 55 o astudiaethau o Efengyl Marc. Bydd bod astudiaeth yn cynnwys darlleniad o’r Beibl, sylwadau ar y darn hwnnw, pedwar cwestiwn i chi feddwl amdanynt, ac awgrym am rywbeth i weddïo amdano.
Bydd yr astudiaethau yn cychwyn ar Ddydd Llun 6ed o Ebrill, a bydd un y dydd am y wythnosau nesaf, heblaw am y Sul, er mwyn i chi cael cyfle i dal i fyny gydag unrhyw ddarlleniadau rydych wedi colli.
Bydd yr astudiaethau cyntaf yn ymddangos ar y wefan hon yn fuan, yn yr adran ar y Beibl. Mae hefyd yn bosib derbyn yr astudiaethau dros e-bost trwy’r ddolen hon. Medrwch weld yr astudiaeth gyntaf yma.
Hefyd, bydd y darlleniadau yn ymddangos ar Facebook, Twitter ac Instagram – chwiliwch am ‘Llwybrau’.
Beth am siarad gyda rhai o’ch ffrindiau a chytuno i ddarllen trwy Efengyl Marc gyda’ch gilydd? Ein gobaith yw bydd yr astudiaethau hyn yn helpu chi i ddod i nabod Iesu yn well a dod i garu fe yn fwy.
Peidiwch â phoeni os nad yw’ch ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg chwaith – mae’r un astudiaethau hefyd yn cael ei gynhyrchu yn Saesneg, ac maent yn mynd allan dros e-bost hefyd, neu ar Facebook ac Instagram.