Dechrau Newydd
4 Ionawr 2020 | Gan Andrew Norbury

Rhannu
Dychmyga – y diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig yw hi. Rwyt ti wedi gwasgu’r botwm snooze ar dy gloc larwm 5 gwaith yn barod. Rwyt ti’n llusgo dy hun o’r gwely, yn gwisgo dy wisg, yn rhoi dy fag ar dy ysgwydd ac yn mynd i’r ysgol. Yr unig beth sy’n codi dy galon yw y byddi’n gweld dy ffrindiau yno.
Pan rwyt ti’n cyrraedd yr ysgol, rwyt ti’n gweld dy ffrindiau i gyd yn sefyll yn y gornel arferol felly rwyt ti’n dechrau cerdded tuag atynt yn ôl dy arfer. Ond y tro hwn mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd. Mae un ohonynt yn dy weld di’n dod, ond yn hytrach na gwenu a chodi llaw, mae’n gwgu arnat ac yn troi at y grŵp, yn dweud ychydig o eiriau ac yna mae pawb yn cerdded i ffwrdd. Maent yn dy anwybyddu am weddill y diwrnod. Mae hi fel pe bai ti ddim yn bodoli. Mae’r holl flynyddoedd rwyt ti wedi eu treulio gyda nhw yn golygu dim.
Nawr meddylia. Sut fyddet ti’n teimlo? Yn grac? Yn drist? Wedi drysu?
Profodd Iesu wrthodiad fel hyn ar lefel llawer dyfnach a mwy poenus. Roedd wedi treulio tair blynedd gyda’i ddisgyblion. Roedd wedi eu clywed yn dweud pa mor dda oedd hi i fod yn ffrindiau ag ef. Roedd wedi clywed Pedr yn dweud na fyddai byth yn gadael ei ochr.
Ond pan arestiwyd Iesu gan grŵp mawr o filwyr yn y nos, pan fradychwyd ef gan ffrind agos, pan gurwyd ef – gwnaeth ei ffrindiau gorau ffoi. Dyma nhw’n ei adael.
Mae Luc yn dweud wrthym fod Pedr yn eistedd o gwmpas y tân y tu allan i dŷ’r Archoffeiriad tra bod Iesu yn aros i gael ei ddedfrydu, pan heriodd merch fach ef ynglŷn â’i berthynas â’r Iesu. Gwadodd Pedr ei chyhuddiad hi’n llwyr. Holodd dau o bobl eraill gwestiynau tebyg ac unwaith eto fe ddywedodd: ‘Nid wyf fi’n ei adnabod!’. Ar yr eiliad honno ‘troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr’. Dychmygwch yr edrychiad hwnnw. Beth oedd ymateb Pedr? ‘Aeth allan ac wylo’n chwerw.’ Roedd Pedr yn gwybod yn iawn ei fod wedi methu ac wedi gwneud cawlach go iawn o bethau.
Sut wnaeth yr Iesu ymateb i Pedr? Sut mae’n ei drin ef?
Cyn meddwl am hynny, dychmyga Iesu’n troi i edrych arnat ti nawr. Nid edrychiad cyffredin mohono, mae’n gweld trwot ti. Mae’n edrych yn fanwl ar dy fywyd. Mae’n sylwi ar bopeth rwyt ti’n ei wneud: dy hel clecs, y geiriau cas rwyt ti’n eu dweud am bobl, cynnwys dy negeseuon testun, dy Snapchats, dy feddyliau cudd a’r holl bethau rwyt ti’n gobeithio na fydd neb fyth yn clywed amdanyn nhw… Sut wyt ti’n teimlo? Diamddiffyn? Bach? Methiant?
Os yw Iesu’n gwybod popeth amdanaf i, ‘does bosib ei fod am gael dim i’w wneud â mi?
Beth yw ymateb yr Iesu i mi?
Sut mae Iesu’n delio â Pedr?
Wel, ar ddiwedd llyfr Ioan yn y Beibl rydym yn gweld Iesu’n gwneud rhywbeth anhygoel. Dyma’r trydydd tro iddo weld y disgyblion ers iddo godi o’r meirw, ac wedi iddo goginio brecwast iddynt, mae’n galw Pedr i eistedd ar bwys y tân – tân tebyg i’r un y tu allan i dŷ’r Archoffeiriad, ac yn gofyn cwestiwn iddo dair gwaith ‘Pedr wyt ti’n fy ngharu i?’. Wyt ti’n gweld beth mae Iesu’n ei wneud? Mae’n cymryd Pedr yn ôl at y tân, ac yn gofyn tri chwestiwn iddo… mae’n rhoi ail gyfle i Pedr! Yn hytrach na gwrthod Iesu, y tro hwn mae Pedr yn cael y cyfle i ddweud tair gwaith: ‘Rwy’n dy garu di’.
Byddai Pedr wedi teimlo’n fethiant llwyr y noson y bu farw’r Iesu. Eto mae’n dod i gyfarfyddiad ag Achubwr sy’n rhoi cyfle arall iddo, a thrwy gydol ei fywyd mae’n gweld Iesu’n gwneud hyn dro ar ôl tro. Sylweddolodd bryd hynny ei fod yn wannach ac yn fwy pechadurus nag oedd e’n sylweddoli ond bod yr Iesu yn ei garu a’i werthfawrogi yn fwy nag yr oedd wedi’i ddychmygu!
Mae’r Beibl yn esbonio’n glir yr hyn rydym eisoes yn gwybod yn ein calonnau – rydym i gyd wedi methu. Ond pan rydym yn deall hynny ac yn anobeithio mae yna newyddion gwych ar ein cyfer.
Roeddwn i’n arfer trafod y gwahaniaethau rhwng Cristnogaeth a Bwdhaeth gyda fy ffrind o Wlad Thai yn y brifysgol. Dywedodd wrthyf ei fod yn gweld ei fywyd fel gwydraid o ddŵr – bob tro mae’n gwneud rhywbeth o’i le, mae hi fel pe bai darn o fwd yn disgyn i’r dŵr gan ei wneud yn gymylog. Felly mae’n dymuno gwneud mwy a mwy o bethau da i wneud y dŵr ychydig yn lanach.
Pe bai ein bywydau ni’n wydraid o ddŵr, byddai gwydraid brwnt gan bob un ohonom. Pe bai bywyd Iesu’n wydraid o ddŵr, byddai’n hollol bur a glân. Felly, beth sydd angen i ni ei wneud? Sut y gallwn ni ddatrys y llanast hwn?
Neges ogoneddus yr efengyl yw nad yw Iesu’n dweud: ‘Dere ‘mlaen, trïa’n galetach! Pura dy ddŵr mwdlyd drwy wneud gweithredoedd da.’ Mae’n dweud: ‘Mi wna i gymryd dy ddŵr mwdlyd a rhoi fy nŵr ffres, glân i ti. Mi wna i roi dechrau newydd i ti.’
Ti’n gweld, dyna beth ddigwyddodd ar y groes – cyfnewid mawr. Cymerodd Iesu ein beiau ni, yr holl bethau hynny y mae gennym gywilydd ohonynt, ac fe gosbwyd Ef yn ein lle. Ac os ydym yn ymddiried ynddo Ef, cawn dderbyn ei fywyd perffaith Ef yn rhodd. Pan fydd Duw yn edrych ar ein bywydau yn awr, mae’n gweld gwydraid dŵr glân a phur yr Iesu, yn hytrach na’n llanast budr ni.
Mae dod yn Gristion yn ddechrau newydd. Ac mae hefyd yn fywyd o ddechreuadau newydd. Bob dydd gallwn ddweud wrthyn ein hunain – ‘mae Duw yn gweld gwydraid pur yr Iesu ac nid fy un i’! Ydym, rydym hyd yn oed yn wannach ac yn fwy pechadurus nag yr ydym yn sylweddoli, ond rydym hefyd yn fwy annwyl gan Dduw nag y gallwn ni freuddwydio.
Nid oes rhaid i ni honni ein bod ni’n well nag yr ydym gyda Iesu. Mae’n ein gweld ni am yr hyn ydym ni ac eto mae ein caru, ac yn cynnig i ni heddiw ddechrau newydd.