Yw hanes y geni yn wir?
21 Rhagfyr 2017 | Gan Lewis Roderick
Mae fy mêts yn credu fy mod i’n nyts! Maen nhw wedi ers y noson allan ‘na rai blynyddoedd yn ôl, pan wnaeth un ohonyn nhw ofyn os o’n i’n credu bod hanes y Nadolig fel mae’n ymddangos yn y Beibl yn wir. ‘Ydw,’ meddwn i, tra’n sipian fy niod yn nerfus. Ro’n i’n gwybod ble roedd y sgwrs yn mynd.
Y broblem yw bod beth mae fy ffrindiau’n credu am y Nadolig wedi dod o gymysgedd o ffynonellau; yn eu meddwl nhw cafodd Iesu ei eni mewn stabl ym Methlehem, cyn i Siôn Corn droi lan gydag Aur, Thus a Myrr (beth bynnag yw’r rheini…!). Wnaeth y Grinch ddweud wrth y Bugeiliaid bod yr holl beth wedi digwydd a wnaethon nhw popio rownd i weld y baban newydd, cyn setlo lawr i wylio araith y Frenhines ar y teledu!
Mae gan bawb ryw fath o take ar y Nadolig. Pawb â’i syniad ei hun am beth wnaeth ddigwydd. Nid yn unig am yr enedigaeth, ond am hanes bywyd Iesu Grist hefyd.
Nawr mae gwahaniaeth barn yn un peth – rhydd i bawb ei farn medden nhw. Ond y broblem yw, gyda’r Iesu mae’r stakes yn uchel. Pan mae dyn yn troi lan ar y Ddaear ac yn dechrau honni mai fe yw’r UNIG ffordd at Dduw; pan mae’r dyn ‘ma yn trafod pethau mor fawr a phwysig â’r Nefoedd ac Uffern, mae’n bwysig bod ni’n cael y ffeithiau’n gywir er mwyn gallu ffurfio barn deg. Mae’n bwysig i seilio’n barn ar y ffeithiau, ac nid ar syniadau ffrind ysgol, neu athro, neu mam a dad, neu’r teledu, neu blog rhywun…
Felly sut ydyn ni’n gwybod bod hanes bywyd yr Iesu’n wir? Pwy fedrwn ni ei drystio?
Does unlle gwell i fynd na’r Beibl ac edrych ar yr hanes drwy lygaid Luc. Roedd Luc yn gwybod pa mor bwysig ond anodd oedd credu’r hanesion am Iesu Grist, felly dyma fe’n penderfynu ysgrifennu dau lyfr i drio helpu (Efengyl Luc a Llyfr yr Actau). Yng nghyfnod Luc roedd llwyth o wahanol storïau’n hedfan o gwmpas am yr Iesu – pwy oedd e? Sut cafodd e ei eni? Beth wnaeth e? Roedd rhai o’r straeon yn gywir ac eraill ddim cweit mor gywir – mae e’n swnio’n debyg i’n sefyllfa ni heddiw, nagyw e? Roedd yr holl straeon yma’n drysu nifer o bobl, yn enwedig ffrind i Luc, y Rhufeiniwr pwysig, Theoffilus. Roedd Luc yn teimlo trueni dros ei ffrind oedd yn cael ei dynnu i bob cyfeiriad gan y gwahanol bethau roedd e’n eu clywed. Dyna pam wnaeth Luc eistedd lawr i ysgrifennu llyfrau am fywyd Iesu Grist. Mae’n hanes amazing, yn llawn gwyrthiau ac yn profi bod Iesu yn fab i Dduw.
Pam ydyn ni’n gallu trystio Luc?
- Gwnaeth Luc ei waith cartref
Roedd Luc yn ddoctor ac fe wnaeth ei waith cartref yn ofalus cyn ysgrifennu’r hanes i lawr. Gyda gwaith cartref hanes, does neb yn cael marc da am draethawd ar yr ail ryfel byd oni bai eu nhw’n gwneud ychydig o waith paratoi cyn ysgrifennu. Bach o ymchwilio am y ffeithiau – darllen erthyglau, darllen llyfrau eraill, holi athro neu holi mamgu wnaeth fyw drwy’r cwbl! Mae ymchwil mor bwysig. Bydd neb yn cymryd y traethawd o ddifri oni bai fod gwaith ymchwil wedi mynd mewn iddo fe. Ac mae Luc yn gwybod hynny; sylwch ar y geiriau mae e’n eu defnyddio ar ddechrau ei lyfr:
Felly, gan fy mod innau wedi astudio’r pethau yma’n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu’r cwbl yn drefnus i chi, syr. Luc 1:3
Mae Luc wedi gwneud ei waith cartref, mae e wedi mynd ati i ymchwilio’n fanwl fel ditectif yn ymchwilio crime scene.
- Siaradodd Luc â llygad-dystion
Aeth ati i siarad â’r bobl oedd yno. Ac nid gofyn i un neu ddau o bobl yn unig wnaeth Luc. Yn adnod 2 mae e’n dweud:
Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu’n llygad-dystion i’r cwbl o’r dechrau cyntaf…
– mae e wedi holi lot o bobl.
- Mae Luc yn mynd reit i ddechrau’r hanes
Mae e wedi ymchwilio i’r holl ddigwyddiadau o’r cyntaf un. Un o’r pethau cyntaf rydyn ni’n darllen amdanynt yw mam yr Iesu a mam Ioan Fedyddiwr, tra’u bod nhw’n feichiog, yn dod at ei gilydd ac yn cael rhyw fath o primitive baby shower – does dim modd mynd nôl lot ymhellach yn yr hanes na hynny! Mae hi’n hanes hyfryd, ac mae’r cyffro yng ngeiriau’r ddwy fenyw feichiog yn amlwg. Ond pam nad yw Mathew, Marc neu Ioan yn sôn am yr hanes? Achos bod Luc wedi gwneud yr ymchwil i mewn i’r rhan yma o’r hanes. Mae llawer yn meddwl bod Luc wedi mynd i gyfweld â Mair, mam yr Iesu ei hun! Hanes Luc am enedigaeth Iesu yw hanes Mair am enedigaeth yr Iesu!
- Mae Luc yn sylwi ar y manylion
Rydyn ni’n gweld hoffter Luc o sylwi ar fanylion wrth ddarllen ymlaen. Mae e’n nodi pryd a ble cafodd Iesu ei eni, mae e’n rhoi enwau llawn i’r cymeriadau (neu ddigon o wybodaeth i’w ddarllenwyr wybod am bwy mae e’n sôn); yr Offeiriad Sachareias o deulu’r Abeia oedd yn briod â Lis, un o ferched Aaron (mae’n swnio’n ffordd Gymreig iawn o gyflwyno rhywun!), Simon, roedd rhai yn ei alw’n Pedr yr un oedd yn frawd i Andreas ayb. Mae Luc yn enwi’r bobl oedd yno, er mwyn i Theoffilus chwilio amdanynt a gofyn iddynt drosto’i hun os yw e’n amau’r ffeithiau.
Felly mae Luc yn ysgrifennu ei ddau lyfr trwy ymchwilio’n fanwl i’r hanes. Mae e’n holi’r tystion, dyw e ddim yn bodloni ar gael hanner y stori. Pam bod e’n mynd i’r holl drafferth hyn? Er mwyn ei ffrind, Theoffilus. Mae Luc yn gwybod bod Iesu werth ei adnabod, ond heb y ffeithiau i gyd, byddai’n anodd i’w ffrind i ymddiried mewn babi a anwyd mewn preseb i fod yn Waredwr y byd.
2 beth i orffen:
- Dyw hanes Luc ddim wedi newid
Mae pobl yn dweud bod hanes bywyd Iesu Grist wedi newid dros filoedd o flynyddoedd wrth i bobl siarad a newid y stori – ond dyw hynny ddim yn wir. Mae haneswyr wedi profi nad yw llyfr Luc wedi newid ers iddo gael ei ysgrifennu.
- Ydy’r pethau hyn yn amhosibl i Dduw?
Mae lot o bobl yn dweud bod nhw methu credu’r hyn mae Luc yn ei ddweud. Maen nhw’n dweud bod hi’n amhosib fod Mair wedi cael babi heb gael rhyw. Maen nhw’n dweud bod hi’n amhosib bod angylion wedi ymddangos. Maen nhw’n dweud bod yr holl hanes yn gelwydd. Ond hoffwn dy adael di gydag un cwestiwn: Ydy’r pethau yma’n amhosibl i Dduw? Y gwir yw bod y pethau yma i gyd yn wir, achos mai Duw wnaeth nhw – ac mae Duw’n gallu gwneud unrhywbeth.
Felly… efallai dy fod di’n gallu cydymdeimlo â Theoffilus; efallai dy fod di angen rhagor o fanylion, rhagor o dystiolaeth. Mae hi’n bosib cael gafael ar y dystiolaeth hwn – mae Luc hyd yn oed yn dweud yn adnod 4:
Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
Beth am dreulio ychydig o amser y Nadolig hwn (tra bod y Frenhines yn rhoi ei haraith ar ôl cinio Nadolig efallai?) yn gwneud dy ymchwil dy hun? Beth am edrych mewn i’r hyn sydd gan Luc i’w ddweud am yr Iesu? Cael cwrdd â’r Iesu byw fyddai’r anrheg Nadolig orau erioed.

Rhannu
Os nad oes Beibl gen ti, beth am gofyn i dy rieni os oes ganddyn nhw un? Cofia hefyd bod Beibl.net ar gael ar y we. Mae hefyd modd cael Beibl ar ffurf ap – am fersiynau Cymraeg, chwilia am ‘ap Beibl’ ar Google Play neu Apple Store.