Yr Atgyfodiad: Amhosib, Annhebygol neu Absoliwt?
21 Ebrill 2019 | Gan Bethan Perry

Rhannu
Dywedodd y ditectif enwog Sherlock Holmes ‘Ar ôl dileu yr amhosib, beth bynnag sy’n weddill, dim ots pa mor annhebygol, dyna’r gwir.’
Mae’n rhaid eich bod yn gyfarwydd â honiadau’r Beibl a chred Cristnogion ers 2000 o flynyddoedd, i ffigwr hanesyddol – dyn o’r enw Iesu Grist – gael ei groeshoelio, ei gladdu ac yna ar y trydydd dydd, atgyfodi, sef dod nôl yn fyw.
Mae’n honiad sy’n swnio’n amhosib, ond os felly, pam bod ffydd yn y dyn atgyfodedig yma, Iesu, yn para hyd heddiw?
Ar hyd y blynyddoedd mae nifer wedi ceisio cynnig theorïau i esbonio’r bedd gwag. Beth am i ni ystyried rhai ohonynt?
-
1. Mae rhai yn dweud gwnaeth Iesu ddim marw go iawn ond ei fod mewn rhyw fath o drwmgwsg dwys, felly ni ddaeth nôl o farw yn fyw.
Wrth ystyried hyn rhaid deall ychydig am natur croeshoeliad. Roedd y Rhufeiniaid yn arbenigwyr ar arteithio a lladd. Edrychwch ar yr hanes yn Ioan 19:1-2 a 31-35:
1-2 Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio. Dyma’r milwyr yn plethu drain i wneud coron i’w rhoi am ei ben, a gwisgo clogyn porffor amdano.
31-35 Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a’r Saboth hwnnw’n ddiwrnod arbennig iawn, dyma’r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i’r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw’n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a’r ddau leidr iddyn nhw farw’n gynt, ac wedyn gallai’r cyrff gael eu cymryd i lawr. Felly dyma’r milwyr yn dod ac yn torri coesau’r ddau ddyn oedd wedi’u croeshoelio gydag Iesu. Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw’n barod. Yn lle torri ei goesau, dyma un o’r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan. Dw i’n dweud beth welais i â’m llygaid fy hun, ac mae beth dw i’n ddweud yn wir. Mae’r cwbl yn wir, a dw i’n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.
Chwipio, bwrw, gwawdio, coron o ddrain, a chario’r groes i fan y croeshoeliad. Yna, hoelion drwy’r dwylo a’r traed a byddai rhaid i’r un ar y groes godi ei hun gan ddefnyddio’r hoelion er mwyn anadlu. Yn achos Iesu, roedd y milwyr arbenigol yn sicr ei fod wedi marw, pe na bai yn gwneud ei swydd yn iawn, byddai’r milwr yn wynebu’r un gosb, croeshoeliad. Wedi’r atgyfodiad roedd posib gweld a chyffwrdd clwyfau Iesu ond doedd dim arwydd o boen nac amser i adfer, cryfhau a thendio’r clwyfau. Pe na bai Iesu wedi marw, ond disgyn i goma a dod ato’i hun, mae’n bur debyg y byddai wedi diflannu o dudalennau hanes. Beth sy’n arbennig am ddyn yn dod ato’i hun o goma? Ond atgyfodi – mae hyn yn stori wahanol!
-
2. Theori arall yw bod y disgyblion yn dweud celwydd ac wedi dwyn y corff.
Roedd claddedigaeth Iesu, fel ei farwolaeth, yn ddigwyddiad eithaf cyhoeddus. Edrychwch ar Ioan 19:38-42. Roedd llawer yn gwybod ble cafodd ei gladdu ac i wneud yn siŵr fod y corff ddim yn cael ei ddwyn, gosodwyd dau filwr i warchod y bedd.
Roedd y disgyblion mewn sioc, yn ofni am eu bywydau, wedi mynd i guddio ac mewn penbleth, nid oeddynt mewn unrhyw stad i ddwyn y corff. Yn y bedd ar y trydydd dydd, doedd dim corff ond roedd y llieiniau drud a lapiwyd Iesu ynddynt wedi ei gadael ar ôl yn daclus – dyw hyn ddim yn swnio fel gweithredoedd lladron i fi.
Felly a wnaethon nhw ddechrau si bod Iesu wedi atgyfodi achos dyna beth roedden nhw am ei gredu? Wel, petai hyn ond yn si, fe fyddai’n ddigon hawdd i’r awdurdodau Rhufeinig cynhyrchu’r corff i dangos twyll y disgyblion a charcharu’r cwbl lot. Hefyd, roedd yn eithaf amhosib i’r disgyblion creu’r math yma o stori; doedd dim categori yn ei diwinyddiaeth a’u crefydd ar gyfer rhywun yn atgyfodi ar ôl cyfnod o ddyddiau. Roeddynt yn credu mewn atgyfodiad ar ddiwedd y byd ond dim y math yma o atgyfodiad. Ni fyddent wedi dychmygu’r math yma o waredigaeth gan Y Meseia, roedd e tu hwnt i’w profiad, disgwyliadau a’u dychymyg.
Ni fyddant chwaith wedi dyfeisio stori lle’r merched oedd y cyntaf i weld yr Iesu atgyfodedig gan roi gymaint o fraint iddynt. Roedd hyn yn gwbl groes i ddiwylliant ac agwedd y dydd am ferched, diwylliant lle nad oedd tystiolaeth merch mewn achos llys yn cyfri. Felly pam byddai’r disgyblion yn creu stori i ddatgan i’r byd lle bydden nhw yn edrych mor pathetig a’r merched yn serene, heblaw bod e’n wir, wrth gwrs!
Hefyd, pe bai hyn yn gelwydd a greodd y disgyblion, roedd lot ‘in on it’ achos mae hanes yn cofnodi (hanes Beiblaidd a ffynonellau hanesyddol ar wahân i’r Beibl) i nifer weld yr Iesu atgyfodedig – dros 500 ar un achlysur!
Yn y blynyddoedd i ddilyn collodd pob un or disgyblion ag eithrio Ioan eu bywydau yn sefyll dros ac amddiffyn y ffaith i Iesu farw ac atgyfodi. Pe na bai hyn yn wir, ni fyddant wedi dioddef y fath artaith a marwolaethau erchyll dros gelwydd a dyfeisiwyd ganddynt.
-
3. Mae rhai yn dweud mai tric oedd y cyfan, taw nid Iesu oedd ar y groes, neu imposter oedd yr Iesu atgyfodedig.
Felly ble oedd yr Iesu go iawn am y 40 diwrnod rhwng yr atgyfodiad a’r esgyniad? Oni fyddai’r disgyblion wedi sylwi ar y twyll a mynd nôl at eu bywydau normal, dim marw dros gelwydd? A dyw’r theori yma ddim yn ateb y cwestiwn am y bedd gwag.
Mae yna fwy o theorïau i geisio esbonio’r bedd gwag ond nid oes yr un yn dal dŵr ag eithrio un. Er ei fod yn swnio’n anhebygol, fel chwedl Sherlock Holmes, wedi dileu yr amhosib, dyma’r gwir: i Iesu farw, cael ei gladdu ac ar y trydydd dydd dod nôl yn fyw eto – atgyfodi!
Pam bod hyn yn bwysig? Pam bod gymaint o bobl yn treulio gymaint o amser i geisio gwrthbrofi’r atgyfodiad? Pam bod yn well gennym i gredu theoriau llawn tyllau yn lle credu bod Iesu wedi atgyfodi?
Wel, os yw Iesu yn fyw, wedi atgyfodi fel y dywedodd byddai’n ei wneud, yna mae’n rhaid i ni ddod i’r casgliad fod popeth arall ddywedodd Iesu yn wir hefyd, e.e
“Fi ydy’r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” Ioan 14:6
Iesu oedd Mab Duw, daeth i’r byd i fyw a marw yn ein lle ni, i balmantu’r ffordd i ni gael perthynas gyda Duw y Tad.
Mae’r Beibl yn dweud os nad yw Iesu wedi ei atgyfodi yna dyle bobl ein pitio ni am gredu’r fath beth.
Ond mae Iesu wedi atgyfodi felly mae’n rhaid i ni gymryd sylw. Iesu yw ein gobaith mewn bywyd, oherwydd wrth iddo farw drosom, fe goncrodd marwolaeth. Trystio yn Iesu yw’r unig obaith sydd gennym o dderbyn maddeuant, a chael pwrpas mewn bywyd, ac i gael byw bywyd cyflawn.
Mae geni Iesu yn diffinio hanes, mae marwolaeth Iesu yn delio a’n gorffennol, ac mae atgyfodiad Iesu yn trawsnewid ein presennol a’n dyfodol.
Mae’n wirionedd rhy ardderchog a thyngedfennol i anwybyddu.
I ddysgu mwy am y Pasg, beth am fynd trwy’r cynllun darllen hwn? I weld pam fod y croeshoeliad yn briodol i ni heddiw, darllena hon. I weld pam bod Cristnogion yn dathlu’r Pasg, beth am ddarllen tystiolaeth Emma?