Pwy yw Duw?
27 Rhagfyr 2019 | Gan Elin Bryn Williams

Rhannu
Pa ddarlun sy’n llenwi dy feddwl o ganlyniad i’r cwestiwn hwn? Hen ddyn hefo gwallt a barf gwyn yn eistedd ymhell uwch ein pennau ar gymylau yn barnu pob camgymeriad? Neu efallai dy fod yn meddwl am Dduw fel ryw egni sydd y tu ôl i’r byd ond sydd bellach ddim i’w wneud â ni heddiw. Neu efallai dy fod yn meddwl tybed a oes rhywun y tu ôl i’r cyfan wedi’n creu i fwy na bodoli? Gadewch i ni, am ‘chydig, stopio i ystyried, tybed a oes Duw ac os oes pwy ydy o?
Ble ddechreuwn ni? Edrychwn o’n cwmpas ar brydferthwch natur ac ar fanylder y greadigaeth. Ystyriwn gymhlethdod y llygad dynol – y gallu i sicrhau fod adlewyrchiad golau yn rhoi golwg. Anhygoel! Ystyriwn berthynas y ddaear â’r creaduriaid sydd yn byw arni. Mae ganddynt oll eu cynefin, lle iddynt drigo ynghanol eu holl hanfodion. Damwain ydy hyn? Damwain achosodd popeth i ffynnu? Na, mae gan bob creadigaeth greawdwr yn ein byd ni. Felly onid oes creawdwr i’r bydysawd? Fel y dywed y Beibl…
Er bod Duw ei hun yn anweledig, mae’r holl bethau mae wedi’u creu yn dangos yn glir mai fe ydy’r Duw go iawn a bod ei allu yn ddi-ben-draw. Felly does gan neb esgus dros beidio credu!
Felly os derbyniwn fod Duw wedi ein creu pa gysylltiad sydd ganddo bellach â ni? Pam ei fod yn teimlo mor bell i ffwrdd?
I ddod o hyd i’r gwir rhaid i ni edrych arnom ein hunain. Fel pobl rydym wedi dewis byw ar wahân i Dduw ers y cychwyn, rydym wedi troi ein cefn arno a’i ffyrdd a daeth marwolaeth a dioddefaint yn sgîl y dewis hwn. Mae Duw yn dda ac oddi wrtho mae popeth da yn deillio, felly o ddewis fod hebddo, tywyllwch yw’n tynged ni.
Ai dyna ddiwedd y stori? Ein bod wedi’n gwahanu oddi wrth Dduw, a dyna ni? Bod Duw yn bell oddi wrthym, yn dda ond yn bell. Diolch fod dipyn mwy i’r stori yma.
Dyma, efallai, y prawf mwyaf o fodolaeth Duw. Ysgrifennodd Duw ei hun i mewn i’n hanes ni drwy Iesu Grist, ei fab, yr un a ddaeth i gyflawni’r hyn sydd yn amhosib i ni. Trwy gydol ei fywyd arhosodd yn driw i beth oedd yn iawn, yr unig un erioed i fyw bywyd perffaith a dangos Duw ei dad i ni.
Mae ei fywyd yn disgleirio ac yn dangos fod Duw yn real. Ond byw i farw a wnaeth Iesu, marw a chymryd cosb yr amherffaith – ein cosb ni (am y pethau anghywir yr ydym yn eu gwneud sy’n mynd yn erbyn daioni Duw). Trwy wneud hyn fe agorodd ffordd i ni ddod yn ôl at Dduw y Tad trwy ei ddaioni ef ac felly cael bywyd tragwyddol trwyddo. Bellach, drwy ei aberth ef, mae modd i ni ddod i adnabod Duw a phrofi ei fod yn real.
O ganlyniad i gariad Duw rwyf wrth fy modd yn cael dweud mod i yn ei adnabod rŵan. Rwyf yn ei adnabod fel creawdwr; yr hwn a wnaeth pob dim. Rwyf yn ei adnabod fel Gwaredwr; yr hwn a’m hachubodd o farwolaeth i fywyd. Rwyf yn ei adnabod fel Tad nefol; yr hwn sy’n fy ngharu er i mi droi fy nghefn arno ac sy’n fy nerbyn yn blentyn iddo.
Nid hen ddyn blin nac egni anelwig yw Duw. Mae’n real ac mae wedi mynd i eithafion i dy adnabod di, fel mae’n dweud yn ei eiriau ei hun:
Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Wyt ti eisiau ei adnabod?