Dioddefaint
26 Gorffennaf 2017 | Gan Dafydd Job
Pam fod Duw, sydd fod yn dda, yn gadael i bobl ddioddef cymaint?
Edrychwch ar y newyddion unrhyw ddydd ac fe welwch chi fod yna ddioddef mawr yn y byd. Ychydig amser yn ôl roedd hanes terfysgwyr yn lladd ac anafu ym Manceinion a Llundain yn llenwi’r newyddion. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, tân tŵr Grenfell oedd yn dwyn y penawdau gyda channoedd wedi’u heffeithio. Mae pobl yn cael eu mwrdro, plant yn cael eu cam-drin, trychinebau yn digwydd a phob math o rai yn dioddef o salwch difrifol a phoenus.
Cwestiwn sy’n cael ei ofyn gan bobl yn aml yw – ble mae Duw yn hyn i gyd? Os ydi o yn dda, pam ei fod wedi creu byd mor ddrwg? Mae rhai yn mynd mor bell a dweud na fedran nhw ddim credu mewn Duw sy’n gadael i gymaint o ddioddef digwydd.
Beth felly ddylai ein hymateb ni fel Cristnogion fod i hyn, a sut mae ateb pobl sy’n gofyn y cwestiwn yma?
Wrth gwrs, ein hymateb cyntaf ni i bobl sy’n dioddef yw cydymdeimlo. Mae pobl yn mynd trwy bethau anodd iawn a’r peth sydd eisiau i ni ei wneud yw bod ar gael i’w helpu. Nid ceisio cynnig atebion slic ydyn ni, heb gymryd cwestiynau gonest o ddifrif. Oherwydd hyn, rydym hefyd yn cyfaddef nad oes gennym yr atebion i gyd. Mae yna gwestiynau na fedrwn ni ddim eu hateb yn y byd hwn. Dim ond Duw all egluro ei hunan, a does dim ffordd y gallwn ni ddeall popeth mae O’n ei wneud. Edrychwch ar Iesu Grist ei hunan, roedd yn llawn tosturi a gras tuag at bobl oedd yn dioddef.
Dyma esiampl y dylem ni ei ddilyn.
Ond mae gan y Beibl rai atebion i’r pethau hyn.
Pwy sy’n gyfrifol?
Un peth y gallwn ni ei ddweud yw fod llawer o ddioddef yn digwydd oherwydd yr hyn mae pobl yn gyffredinol yn ei wneud. Meddyliwch am brynu cyfrifiadur mewn siop, ac yna mynd a fo’n ôl oherwydd nad ydi o’n gweithio’n iawn. Y cwestiwn cyntaf sy’n rhaid ei ateb yw, pam nad ydi o’n gweithio? Os mai ar y gwneuthurwr mae’r bai, rydech chi’n gallu cael eich arian yn ôl. Ond os ydi o wedi torri oherwydd eich bod chi wedi ei daro efo morthwyl, yna does dim lot o obaith i chi gael dim yn ôl – rhaid i chi gymryd y cyfrifoldeb. Felly efo llawer o ddrygioni yn y byd. Allwn ni ddim rhoi’r bai ar Dduw am yr hyn rydym ni yn ei wneud. Mae pobl yn dewis mynd i ryfel, neu’n dewis dwyn, neu dreisio neu gam-drin eraill.
Ond bydd rhywun yn gofyn; pam fod Duw wedi ein creu ni fel pobl sy’n gallu gwneud cymaint o ddrwg? Pan edrychwch chi ar hanes Adda ac Efa yn Genesis 1:26-31, fe welwch chi fod Duw wedi eu creu yn dda. Ond sut greaduriaid oedden nhw? Peiriannau difeddwl, wedi eu rhaglennu i ddilyn eu greddf?
Dychmygwch fachgen a merch yn mynd allan. Mae’r bachgen yn prynu blodau i’r ferch. Mae hi’n gofyn “Pam wnes ti brynu rhain i fi?”. Beth fydd ei hymateb os ydi o’n dweud: “Doedd gen i ddim dewis. Rydym ni’n mynd allan efo’n gilydd, ac mae’n ddyletswydd i fi brynu blodau i ti.”? Fydd hi’n impressed?
Oni fyddai’n well ganddi glywed – “Dwi’n dewis prynu rhain oherwydd dy fod ti mor sbesial.” Felly mae Duw wedi ein creu i wneud beth sy’n dda nid oherwydd ein bod yn gorfod, ond oherwydd ein bod yn dewis y da cyn y drwg. ’Dyw’r ffaith fod cymaint o bobl yn dewis gwneud y drwg ddim yn golygu ein bod yn gallu rhoi’r bai ar Dduw.
Ond beth am afiechyd, llifogydd a daeargrynfâu?
Mae yna bethau drwg sydd ddim yn bethau mae pobl yn gyfrifol amdanyn nhw – daeargrynfâu, Tsunamis, afiechyd fel cancr ac ati (mae’n bwysig deall hyn, nid yw’r Cristion yn credu fod person yn sâl oherwydd ei fod wedi gwneud rhywbeth drwg sy’n achosi i Dduw ei gosbi). Mae gan y Beibl rhywbeth i’w ddweud fan yma hefyd. Yn Genesis pennod 3 rydym ni’n clywed am Adda ac Efa yn troi yn erbyn ffordd Duw. Un o ganlyniadau hynny oedd bod Duw yn dweud y byddai’r ddaear wedi ei melltithio (adnod 17). Roedd Duw am i ni weld fod rhywbeth o’i le gyda byw hebddo.
Nid oedd yn gwneud hyn er mwyn ein sbeitio am dorri ei reolau. Yn hytrach roedd am i ni hiraethu am y dydd pryd byddai yn gosod pob peth yn iawn eto. Mae Paul yn sôn am hyn wrth y Rhufeiniaid (Rhufeiniaid 8:19-23). Rydym yn byw mewn byd sydd wedi torri, ac felly mae dioddefaint yn rhan o fywyd pawb. Ond nid dyma gynllun Duw ar ein cyfer.
Rhoi stop ar ddioddef
Mae hyn yn ein cyfeirio at wirionedd arall mae’r Beibl yn ei egluro i ni. Mae Duw yn mynd i roi stop ar ddrwg rhyw ddydd. Mae Duw yn casáu drygioni a dioddefaint. Mae dydd yn dod pryd y bydd yna nef a daear newydd, ac yn y fan honno bydd pob drwg wedi gorffen am byth. (Edrychwch ar adnodau fel Eseia 11:1-9; Datguddiad 21:1-4) Mae’r Beibl yn sôn am hwn fel dydd bendigedig ar y naill law, ond hefyd fel dydd ofnadwy – dydd pryd y bydd Duw yn galw pobl i gyfrif am eu drygioni. Bydd pob pechod (gair y Beibl am y drwg rydym ni’n ei wneud) yn derbyn ei gosb gyfiawn. Bydd Duw yn rhoi stop ar bob drygioni, ac yn gosod bob dim yn iawn.
Os ydi hyn yn wir, beth fydd Duw yn ei wneud gyda’r drygioni rydym ni wedi ei wneud? Sut mae o’n mynd i roi stop ar ein drygioni ni? Os ydi Duw yn dda, ac yn mynd i gosbi pob pechod, beth sy’n mynd i ddigwydd i ni? Dyma, meddai’r Beibl, pam fod Duw yn gadael i’r byd barhau, er bod cymaint o ddioddef yma. Mae’n rhoi cyfle i ni gyd droi a dod o hyd i faddeuant am ein drygioni.
Mae Duw’n gwybod am ddioddefaint
Nid gwylio pobl o bell yn dioddef o’i nefoedd berffaith mae Duw. Fe ddaeth Duw yn ddyn yn Iesu Grist. Ac fel dyn fe wnaeth Iesu ddioddef llawer. Doedd ganddo ddim cartref cysurus i gael ei eni ynddo. Fe fu’n ffoadur yn dianc i’r Aifft rhag Herod. Fe gafodd ei wrthod gan gymaint o’i bobl ei hun. Roedd pobl yn dweud ei fod yn boncyrs, neu yn blentyn y diafol. Fe fu’n unig, gyda hyd yn oed un o’i ddisgyblion yn ei fradychu, un yn ei wadu a’r lleill i gyd yn rhedeg i ffwrdd. Yn y diwedd cafodd ei ladd fel troseddwr cyffredin, yn sbort i’r dyrfa oedd yn gwylio.
Mae dau wirionedd fan yma i’n helpu:
Yn gyntaf mae Duw’n gwybod sut mae hi arnom ni wrth i ni ddioddef ac mae’n addo bod gyda’i blant ynghanol y poen i gyd. Mae’n cydymdeimlo.
Yn ail dyma Iesu yn dioddef er mwyn ein hachub ni.
Roedd y groes yn ddioddefaint ofnadwy i Grist. Fe waeddodd “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” Fan yma roedd yn dioddef y peth gwaethaf, sef cael ei wahanu oddi wrth ei Dad yn y nef. Dyma Iesu yn dioddef er mwyn cymryd cosb eich pechod chi a fi. Mae Iesu wedi dioddef hyn er mwyn i ni beidio dioddef yr un peth.
Felly, mae gennym ni ddewis – wynebu dicter Duw yn erbyn ein drygioni ein hunain pan fydd Duw’n rhoi stop ar ddrygioni am byth, neu gredu yn Iesu rŵan a gwybod fod Duw wedi cosbi ein drygioni’n barod ar y groes. Felly wrth edrych ar ein byd ni heddiw mae’n rhaid i ni sylweddoli nad dyma’r byd a grëwyd gan Dduw. Mae’r byd wedi ei sbwylio oherwydd bod pawb wedi troi cefn ar Dduw. Mae Duw yn berffaith, yn caru daioni ac yn casáu drygioni, a rhyw ddydd fe fydd O’n creu byd newydd i’r rhai sy’n blant iddo – byd heb ddioddefaint, byd perffaith. Mae Duw wedi ein caru gymaint nes ei fod ef ei hun wedi dioddef yn Iesu Grist er mwyn ein hachub ni.
Dyma beth yw cariad
Fedrwn ni ddim deall pam fod Duw’n gadael i bethau drwg ddigwydd weithiau. Ond mae’n addo bod gyda ni ynghanol pob peth anodd wrth i ni gredu ynddo, ac mae’n cynnig cysur i bob un sydd eisiau troi ato yn Iesu Grist.