Gwneud Marc 31 – Difrifoldeb Priodas
6 Mai 2020 | Gan Emyr James
31 – Difrifoldeb Priodas
Marc 10:1-12
Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a’r tu hwnt i’r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn ôl ei arfer dechreuodd eu dysgu. A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent. Atebodd yntau hwy gan ofyn, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?” Dywedasant hwythau, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr ysgar a’i hanfon ymaith.” Ond meddai Iesu wrthynt, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi. Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.” Wedi mynd yn ôl i’r tŷ, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn. Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi; ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.”
Geiriau Anodd
- Tiriogaeth: Ardal
- Ysgaru: Torri perthynas
Cwestiwn 1
Beth yw’r pethau sy’n gwneud priodas yn bwysig?
Cwestiwn 2
Beth mae’n golygu i ddweud wrth briodi nad dau berson sydd yno bellach, ond un cnawd?
Ers blynyddoedd, mae ein cymdeithas wedi colli golwg ar beth mor dda a difrifol yw priodas. Yn hytrach na’i gweld hi fel cytundeb i dreulio gweddill eich bywyd gyda pherson arall gan garu a chefnogi eich gilydd wrth wasanaethu Duw, mae llawer o bobl yn meddwl mai rhywbeth dros dro yw hi, sy’n gallu cael ei dorri os ydych chi’n newid eich meddwl. Mae’n siŵr fod pob un ohonom ni wedi gweld effeithiau trist priodas yn torri.
Hyd yn oed yn nyddiau Iesu, roedd llawer o ddadlau am pryd roedd hi’n iawn i chi ysgaru eich gwraig. Mae’r Phariseaid yn dod at Iesu unwaith eto er mwyn gweld beth oedd ganddo fe i’w ddweud ar y pwnc. I ddechrau mae Iesu yn gofyn iddyn nhw beth mae’r gyfraith Iddewig yn ei ddweud. Mae’n amlwg fod y gyfraith (a ddaeth trwy Moses) yn caniatáu ysgariad oherwydd fod calonnau’r bobl yn galed. Yr hyn y mae Iesu am iddyn nhw ei weld yw nid beth oedd y safon isaf roedd Duw yn ei chaniatáu iddyn nhw, and beth oedd ei ddymuniad ar eu cyfer. Mae’n dweud wrthyn nhw i gofio am y ffordd y creodd Duw bobl yn wryw a benyw. Mae priodas yn dda oherwydd dyma’r patrwm mae Duw wedi ei drefnu – fod un dyn ac un fenyw yn gadael eu teuluoedd ac yn ffurfio teulu newydd. Mae’r ddau berson gwahanol yma yn cysylltu’n llwyr â’i gilydd, gan ddod yn un corff, er mwyn helpu ei gilydd i wasanaethu Duw a magu plant mewn cartref cariadus.
Os yw hyn yn wir, os yw priodas yn golygu eich bod yn un corff â’r person arall, yna’r peth olaf ddylai fod ar eich meddwl yw cael eich rhannu oddi wrth y person hwnnw. Yr agwedd y dylem ei chael wrth briodi yw ein bod yn mynd i fod gyda’r person arall nes bod marwolaeth yn ein gwahanu.
Yn rhyfeddol iawn mae rhannau eraill o’r Testament Newydd yn dysgu fod priodas yn ddarlun o’r berthynas rhwng Iesu Grist (y gŵr) a’r Eglwys (y wraig). Mae’r darlun hwn yn dweud llawer o bethau wrthym, ond o weld agwedd Iesu at briodas mae’n roi sicrwydd i ni na fydd ef byth yn torri’r berthynas honno.
Cwestiwn 3
Wrth feddwl am y ffordd y creodd Duw un dyn ac un fenyw, beth mae hyn yn dweud wrthym am y berthynas gywir rhwng gŵr a gwraig?
Cwestiwn 4
Pam ydych chi’n credu y cynlluniodd Duw’r ffordd hon o gael perthynas?
Gweddïwch
os bwriad Duw yw i chi briodi, y bydd yn rhoi doethineb i chi wrth ddewis cymar am oes, a nerth i barhau yn y berthynas honno am weddill eich bywyd.