Gwneud Marc 7 – Ffrind Pechadur
9 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
7 – Ffrind Pechadur
Marc 2:13-17
Aeth allan eto i lan y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa’n dod ato, ac yntau’n eu dysgu hwy. Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion — oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef. A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Geiriau Anodd
- Tollfa: Man lle roedd pobl yn talu trethi.
- Casglwyr trethi: Pobl oedd yn casglu arian i’r Rhufeiniaid.
- Phariseaid: Arweinwyr crefyddol lddewig.
- Cleifion: Pobl sâl.
Cwestiwn 1
Petaech chi’n cael bod yn ffrindiau ag unrhywun yn y byd, pa fath o berson fyddech chi’n ei ddewis?
Cwestiwn 2
Wrth edrych arnoch chi eich hun, fyddech chi’n dweud eich bod chi’n berson cryf neu’n berson gwan, yn iach neu’n sâl, yn bechadur neu’n berson cyfiawn?
Oes rhywun erioed wedi gofyn y cwestiwn i chi, ‘Petaech chi’n gallu cael pryd bwyd gyda unrhyw dri pherson, pwy fydden nhw?’ Sut fyddech chi’n ateb y cwestiwn hwnnw? Un o’r pethau sydd efallai yn ein taro ni yw mor rhyfedd oedd y math o bobl roedd Iesu yn dewis treulio amser â nhw a bwyta gyda nhw. Mae’n siŵr y bydden ni’n disgwyl i Fab Duw, Brenin y byd, fod yng nghwmni enwogion y cyfnod a bwyta gyda phwysigion. Ond na. Hyd yn hyn rydym wedi gweld Iesu’n galw pysgotwyr i fod yn ddilynwyr iddo. Nawr mae’n mynd cam ymhellach ac yn galw Lefi, y casglwr trethi, i fod yn ddisgybl. Roedd casglwyr trethi yn cael eu gweld fel rhai o bobl waetha’r gymdeithas. Roedden nhw’n gweithio i’r Rhufeiniaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd, ac yn aml yn twyllo a chymryd gormod o arian gan eu pobl eu hunain.
Oherwydd eu bod mor amhoblogaidd, dydyn ni ddim yn synnu fod y Phariseaid yn ymateb gan edrych i lawr ar y fath o bobl roedd Iesu’n eu galw’n ffrindiau. Ond mae agwedd Iesu yn hollol wahanol, a’i ymateb i’r Phariseaid yn gwbl glir. Mae’n dweud wrthyn nhw, os ydyn nhw’n eu twyllo eu hunain drwy feddwl eu bod yn berffaith, yna wnawn nhw fyth sylweddoli eu bod angen help. Dydy pobl sy’n credu eu bod nhw’n iach ddim yn mynd i weld y doctor. Problem y Phariseaid oedd eu bod nhw ddim yn gweld fod ganddyn nhw broblem, ac felly bod angen i rywun eu hachub nhw.
Y fath o bobl mae Iesu yn galw ato ei hun yw’r rhai hynny sy’n gwybod yn iawn eu bod nhw’n frwnt, yn wan, yn bechadurus, a bod angen i Iesu eu hachub nhw. Pobl ydyn nhw sydd wedi gweld eu bod nhw’n sâl, eu bod nhw’n methu gwella eu hunain, ac mai Iesu yw’r doctor sy’n gallu iacháu.
Cwestiwn 3
Ym mha ffyrdd ydyn ni’n gallu’n twyllo ein hunain am y math o berson ydyn ni?
Cwestiwn 4
Pam ydych chi’n meddwl fod cymaint o’r fath bobl yn dilyn Iesu?
Gweddïwch
am help i beidio ag edrych i lawr eich trwynau ar bobl eraill, ond i sylweddoli bod pawb yn frwnt yng ngolwg Duw ac angen eu golchi yn lan ganddo.