Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 9 – Meistr y Saboth

9 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

9 – Meistr y Saboth

Marc 2:23-3:6

Un Saboth yr oedd yn mynd trwy’r caeau ŷd, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu’r tywysennau wrth fynd. Ac meddai’r Phariseaid wrtho, “Edrych, pam y maent yn gwneud peth sy’n groes i’r Gyfraith ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a’r rhai oedd gydag ef? Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw, yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bwyta’r torthau cysegredig nad yw’n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe’u rhoddodd hefyd i’r rhai oedd gydag ef?” Dywedodd wrthynt hefyd, “Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth. Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth.”

Aeth i mewn eto i’r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. Ac yr oeddent â’u llygaid arno i weld a fyddai’n iacháu’r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i’w ddwyn yn ei erbyn.  A dywedodd wrth y dyn â’r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.” Yna dywedodd wrthynt, “A yw’n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud. Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â’r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i’w ladd.

Geiriau Anodd

  • Ŷd: Math o rawnfwyd.
  • Tywysennau: Y rhan o’r ŷd rydych yn gallu ei bwyta.
  • Cyfraith: Y rheolau roedd Duw wedi eu rhoi i Israel pan wnaeth ei gyfamod â nhw.
  • Archoffeiriad: Y prif offeiriad oedd yn aberthu i Dduw yn y deml.
  • Cysegredig: Wedi eu cadw yn lan i’w defnyddio mewn addoliad.
  • Gwywo: Yn wan ac wedi crebachu.
  • Mud: Ddim yn gallu siarad.
  • Herodianiaid: Cefnogwyr y brenin Herod.

Cwestiwn 1

Pa fath o bethau ydych chi’n eu cyfrif yn waith?

Cwestiwn 2

Pam ydych chi’n meddwl fod y Phariseaid yn grac gyda Iesu?

  Dechreuon ni weld ym Marc 2:18-22 fod bywyd Iesu yn dechrau cyfnod newydd yn hanes y ddynoliaeth, ag effaith hynny ar ymprydio. Yn awr rydym yn dod at bwnc mawr arall sef y Saboth. Roedd yr Israeliaid i fod i orffwys ar y diwrnod arbennig hwn er mwyn dangos eu bod nhw’n rhydd o gaethiwed yr Aifft, yn dibynnu ar Dduw i ddarparu ar eu cyfer, ac yr oeddent i fod i fwynhau diwrnod yn meddwl amdano fe. Ond roedd y Phariseaid wedi colli golwg ar y ffaith fod y Saboth yn rhodd gan Dduw, ac wedi creu rhestr hir o bethau oedd yn cyfrif fel gwaith, ac felly ddim i gael eu gwneud ar y Saboth. Wrth i ddisgyblion Iesu dynnu pen yr ŷd i’w fwyta, mae’r Phariseaid yn dweud fod hyn yr un peth â chynaeafu ac felly roedden nhw’n gweithio ar y Saboth!

  Mae Iesu yn ymateb drwy ddangos iddyn nhw fod rhyddid i wneud pethau pan fo angen ar y Saboth. Mae’n eu hatgoffa o’r tro y gwnaeth y Brenin Dafydd a’i ddynion fwyta bara fydden nhw ddim fel arfer wedi ei fwyta oherwydd eu bod mewn angen.

  Yna mae Iesu’n eu hatgoffa fod y Saboth yn rhodd gan Dduw er lles pobl. Felly yn sicr mae rhyddid gan berson i’w fwydo ei hun os ydyw mewn angen. Iesu ei hun sydd wedi creu’r dydd Saboth, ac felly mae ganddo awdurdod drosto, i ddweud beth sydd yn gywir ac yn anghywir i’w wneud ar y diwrnod hwnnw. Gan fod Iesu bob amser yn ceisio’r gorau ar ein cyfer, mae’n iawn gwneud yr hyn sy’n gwneud lles i ni ar y Saboth.

  Yn dilyn hyn, mae Iesu’n ceisio dangos iddyn nhw ei fod yn iawn i wneud daioni ar y Saboth. Byddai’n well gan ei wrthwynebwyr petai Iesu wedi gadael y dyn fel roedd e, ond mae Iesu yn dweud na! Holl bwynt y Saboth yw ein rhyddhau ni oddi wrth feichiau’r byd, i ddangos ein bod yn rhydd o gaethiwed. Ac felly mae’n rhyddhau’r dyn ac yn rhoi bywyd newydd iddo. Gyda’i law wedi gwywo roedd y dyn yn methu gweithio ar unrhyw ddydd, ond yn awr mae’n gallu. Mae’r Brenin Iesu yn caru gwneud daioni.

Cwestiwn 3

Beth ddylai ein hagwedd ni fod at y Saboth?

Cwestiwn 4

Os yw’r hyn mae Iesu yn ei ddweud am y Saboth yn rhagflas o’r nefoedd, pa bethau ydych chi’n meddwl fydd yn wir am y nefoedd?

Gweddïwch

am ryddid i fwynhau’r Saboth heb weithio, gan wneud daioni i bawb.