Adnabod Iesu, Adnabod Duw
2 Hydref 2019 | Gan Gwyon Jenkins

Rhannu
Nid crefydd oer ac allanol yw Cristnogaeth, ond dod i berthynas gyda Duw trwy ffydd yn Iesu Grist, ei Fab. Dyma’r bywyd gorau i fyw yn ein byd oherwydd i bawb sy’n trystio yn Iesu, mae Duw yn rhoi bywyd newydd, maddeuant pechodau, heddwch, llawenydd a hefyd berthynas gyda Duw sy’n ymestyn i dragwyddoldeb.
Yn y rhan gyntaf o’r cynllun darllen hwn byddwn ni’n edrych ar wahanol agweddau o ddod i adnabod Iesu Grist, cyn edrych ar rai enghreifftiau o bobl a ddaeth i adnabod Duw gan weld effaith perthynas gydag Iesu ar eu bywydau.
Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Os oes gen ti gwestiynau neu os wyt ti eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop ein gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.