Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cymeriadau’r Geni

18 Rhagfyr 2018 | Gan Cath Jones

Beth sy’n dod i dy feddwl wrth glywed rhywun yn sôn am ‘Stori’r Nadolig’? Rhesi o fugeiliaid bach yn gwisgo dressing gowns a thywelion am eu pennau? Y tri gŵr doeth yn ceisio cofio pwy ddaeth â pha anrhegion i’r preseb? Y dyn wrth y drws yn gweiddi ‘DOES DIM LLE YN Y LLETY!’?

Mae’n olygfa ffantastig, ond gallwn yn hawdd anghofio nad jyst stori neis a sentimental yw stori’r Nadolig, ond hanes gwir yn ymwneud â phobl go iawn fel ti a fi.

Cath Jones sy’n disgrifio beth allwn ei ddysgu wrth sylwi ar y bobl oedd yn dystion i enedigaeth Iesu Grist, Mab Duw.

Mair – yn diolch i Dduw am ei ras (Ceir yr hanes yn Luc 1)

Mae’r angel Gabriel yn dod at Mair i rannu newyddion sy’n swnio’n anghredadwy. Mae’n dweud y bydd Mair yn rhoi genedigaeth i fachgen, a’i enw fydd Iesu. Nid bachgen cyffredin fydd hwn ond mab Duw a’r hwn fydd yn achub pobl rhag eu pechodau. Sylwa ar ymateb Mair i’r newyddion yma trwy ymddiried yn llwyr yng Ngair Duw ac ufuddhau iddo.

Gallwn ddychmygu Mair yn teimlo’n falch a phwysig am fod Duw wedi ei dewis hi a neb arall – ond yn lle hynny, mae’n llawenhau a chanu mawl i Dduw am yr hyn y mae wedi ei wneud dros bobl Israel a throsti hi’n bersonol. Mae’n rhyfeddu Ei fod yn gallu defnyddio menyw dlawd a di-nod i fod yn rhan o’i gynllun i achub pobl!

Medrwn ddysgu oddi wrth hanes oherwydd dy’n ni ddim yn haeddu unrhyw beth, ond mae Duw yn llawn gras  daioni Duw tuag atom er nad ydym yn ei haeddu. Mae’n achub unrhyw un sy’n credu ac ymddiried yn Iesu. Ond nid dyna’r cyfan – wrth i ni fyw fel Cristnogion, mae Duw yn parhau i ddangos gras, gan ein cynnal a’n defnyddio i wneud ei waith!

Y bugeiliaid – pobl ddi-nod (Ceir yr hanes yn Luc 2)

Mae’r amrywiaeth o gymeriadau sydd yn hanes y geni ym Methlehem yn dangos fod Iesu wedi dod i’r byd i achub pobl o bob cenedl a chefndir. Doedd y bugeiliaid ddim yn bobl bwysig o gwbl, ond daeth yr angylion at y bobl ddi-nod yma. Mae’n gwahodd pob math o berson i’w addoli ac yn gallu defnyddio pobl arferol mewn ffyrdd rhyfeddol!

Pa effaith ddylai hyn ei gael arnat ti? Rhaid cofio fod neges Iesu i bawb. Does neb yn rhy dlawd nac yn rhy gyfoethog i glywed am Iesu. Mae’n hawdd i ni feddwl fod rhai pobl yn rhy ‘bell’ i glywed am Iesu – ond mae’n rhaid i ni sôn am Iesu wrth bawb.

Newyddion da

Rhannu

Joseff – yn ymddiried yn Nuw ac yn ufuddhau (Ceir yr hanes yn Mathew 1)

Wrth ddarllen hanes Joseff mae un peth yn ein taro ni. Wyt ti wedi sylwi faint o bethau anhygoel, a faint o benderfyniadau caled, oedd yn rhaid iddo wynebu? Enghraifft o hyn yw pan ddywedodd yr angel wrtho fod Mair, yr un oedd am briodi, yn mynd i gael babi (ac nid ei fabi ef). Byddai wedi bod yn hawdd iawn iddo beidio credu a pheidio priodi Mair. Neu beth am yr holl deithio ar hyd a lled y dwyrain canol er mwyn dianc oddi wrth Herod? Gallai’n hawdd iawn fod wedi cael digon ar y cyfan.

Sut fydde ti wedi ymateb? A fydde ti wedi cwyno ac anwybyddu Duw?

Yng nghanol hyn i gyd, dro ar ôl tro, rydym yn darllen fod Joseff yn ufuddhau i Dduw (Mathew 1:24, 2:13–14, 20–21, 23). Ond beth oedd yn cadw Joseff yn ufudd drwy’r cyfan?

Yr ateb syml yw ei fod yn credu addewid Duw mai Iesu fyddai’n achub pobl rhag eu pechodau, ac felly’n ymddiried ynddo bob cam o’r ffordd (Mathew 1:20-23). Roedd Joseff yn gwybod fod Duw yn dda, a bod ganddo gynllun anhygoel drwy Iesu Grist.

Beth amdanom ni? Gallwn ni hefyd fod yn sicr fod Duw yn cadw ei air ac yn gweithredu mewn cariad i achub a diogelu ei bobl. Pan mae pethau yn anodd arnom ni, gallwn ymddiried yn Nuw, ac ufuddhau, yn union fel Joseff.

Y Doethion – yn addoli’r Brenin Iesu (Ceir yr hanes yn Mathew 2)

Mae’r Beibl yn esbonio mai seryddion o’r dwyrain oedd y doethion, ac nid Iddewon. Sut felly mae egluro eu hawydd i ddod o hyd i Iesu, i deithio mor bell ac i roi anrhegion drud iddo? Ceir ateb yn Mathew 2:2. Maen nhw’n dweud eu bod yn chwilio am un sy’n Frenin yr Iddewon a’u bod eisiau ei addoli. Maen nhw’n sylweddoli pwy yw Iesu, yn gweld ei werth ac yn syrthio o’i flaen fel Brenin eu bywydau. Maen nhw’n sylweddoli mai Iesu yw Brenin yr holl fyd a’i fod yn deilwng i’w addoli.

Beth amdanat ti? Wyt ti’n plygu iddo ac yn dal i’w addoli a’i drysori yn dy fywyd di? Edrych fwy ar Iesu yn y Beibl – mae gweld ac adnabod Iesu fel Brenin a Gwaredwr yn rhoi pob rheswm i ni ei addoli a’i drysori.

Beth am fynd draw i gynllun darllen Caneuon y Nadolig i ddysgu mwy am y cymeriadau uchod?