Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cynllun Darllen Pwy yw’r Cristion?

31 Ionawr 2018
Pwy yw'r Cristion?

Rhannu

Pwrpas yr astudiaethau hyn yw edrych yn ofalus ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy yw’r Cristion mewn gwirionedd. Mae’r darlleniadau wedi eu rhannu’n bedair adran:

1. Y Gogoniant a Gollwyd
2. Y Gogoniant a Enillwyd
3. Y Gogoniant a Roddwyd
4. Profiadau o Ras

Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.

Tanysgrifiwch yma i dderbyn y cynllun darllen dros ebost