Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gweithgareddau’r Haf 2019

1 Awst 2019 | Gan Dewi a Gwilym a Siwan

Gweithgareddau'r Haf 2019

Sut mae dy wyliau haf yn mynd? Efallai nad wyt yn gallu credu pa mor gyflym mae’r amser yn mynd ac yn ofni bydd popeth drosodd yn rhy fuan! Neu efallai dy fod wedi hen ddiflasu ar yr amser off ac yn awyddus i fynd yn ôl i’r ysgol. Wyt ti wedi mwynhau gwyliau gyda dy deulu efallai, neu wedi treulio amser yn ymweld â ffrindiau?

I nifer fawr o bobl, mae’r haf yn gallu bod yn gyfnod andros o brysur, wrth iddynt dal lan gyda hen ffrindiau, ymweld â theulu a mynd ar wyliau. I Gristnogion yn arbennig mae’n bosib bod yn brysur bob wythnos o’r Haf gyda’r holl weithgareddau sy’n cael ei chynnal. O wersylloedd i gynadleddau i ymgyrchoedd, mae rhywbeth ymlaen o hyd!

Aeth Llwybrau ati i siarad gyda thri pherson sydd yn, neu wedi, cymryd rhan yn yr ymgyrchoedd hyn. Y bwriad yw cael well syniad o be mae’n golygu i gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn, er mwyn i ti ystyried helpu gyda rhywbeth tebyg, neu i helpu ti i weddïo’n benodol dros y pethau hyn yn ystod yr Haf eleni.

1.Ymgyrch y Traeth yng Nghei Newydd – Siwan Davies

Rhwng y 22ain a’r 28ain o Orffennaf 2017 fe ymunais i (drwy berswâd ffrind) â thîm ‘Ymgyrch y Traeth’ (United Beach Missions) yng Nghei Newydd, Ceredigion. Tîm ydyw sy’n efengylu i deuluoedd â phlant ar y traeth. Er bod ymuno â thîm wedi apelio i mi ers amser, roedd y diwrnodau yn arwain at y profiad yn llawn nerfusrwydd ac ansicrwydd am beth oedd yn fy nisgwyl. Roedd ymuno â thîm nad oeddwn yn ei adnabod, yn siarad iaith nad oeddwn yn rhy gyfforddus yn ei siarad ar y pryd yn fy arswydo braidd.

OND! Pan gyrhaeddon ni festri’r capel (ein ‘HQ’) fe ges i’r croeso mwyaf cynnes erioed, ac yn bendant fe helpodd hyn i mi ymlacio ychydig. Wrth i’r wythnos fynd ymlaen, fe dyfais yn agosach at aelodau eraill y tîm gan wneud llawer o ffrindiau newydd. Yn wir, mae cwmni hwyl yn medru gwneud i ni fwynhau unrhywbeth (gan gynnwys cysgu ar ‘air-bed’ ar lawr festri eglwys!).

Roedd y gwaith plant yn llwyddiannus gyda nifer o blant yn dod ‘nôl yn gyson. Gan fod y rhanfwyaf ohonynt ar wyliau am yr wythnos neu fwy, roedd gennym gyfle gwych i ddod i’w adnabod nhw a’u teuluoedd. Pan oedd y boreau yn fwy ffurfiol, roeddwn i’n gyfrifol am y plant o dan 5 oed. Roedd yn rhaid trefnu gemau a gweithgareddau fel pwll peli bach, teganau, swigod ayyb. Gan fod y plant o dan 5, roedd yn rhaid i riant ddod gyda nhw ac felly fe agorwyd nifer o gyfleoedd i siarad gyda rhieni, neiniau a theidiau am Dduw. Fe siaradais gydag un nain a oedd wedi dod a’i wyresau ar wyliau gan fod eu rhieni newydd ymadael cwpwl o ddiwrnodau yng nghynt. Fe ffeindiais siarad gyda phobl am bethau fel hyn yn sialens gan fy mod i, fel merch 16 oed ar y pryd, yn ddibrofiad yn y ‘byd go iawn’. Nid oedd aelodau’r teulu yn Gristnogion, ond roedd gan y nain ddiddordeb mawr mewn ‘crefydd’ ac felly fe weddïais gyda hi am ei mab a’i wyresau, a oedd eto yn sialens gan fy mod erioed wedi gweddïo yn uchel yn Saesneg o’r blaen – ond dyna yw un o’r manteision o weithio mewn tîm, mae modd gofyn i Gristnogion eraill am gymorth. Felly, gyda help aelod arall o’r tîm fe wnaethom ni weddïo gyda’r nain. Roedd yn deimlad o gysur a wna’i fyth anghofio.

Cyfrifoldeb arall oedd gen i ar ddiwrnodau mwy anffurfiol oedd gwahodd teuluoedd i’n clybiau a’n gweithgareddau. Ar y dydd Mercher, roedd hi wedi bod yn glawio ychydig cyn i ni fyd i lawr i’r traeth ac felly dim ond dau neu dri o deuluoedd oedd yno. Es i i wahodd rhai o’r teuluoedd ond dim ond un ferch 10 oed oedd am ymuno. Er hyn, fe chwaraeon ni ambell gêm gan wneud astudiaeth Feiblaidd nes ymlaen. Cyn iddi fynd fe roddwyd iddi efengyl Ioan, (er mwyn iddi ddarllen ychydig o’r bennod gyntaf), a dywedon ni wrthi i ddod ‘nol y diwrnod canlynol os oedd ganddi unrhyw gwestiynau. Fe ddaeth hi ‘nôl y diwrnod canlynol wedi darllen yr efengyl gyfan! Roedd hyn yn gymaint o anogaeth i ni fel tîm, bod Duw yn gweithio yng nghalonnau’r plant.

Ar un llaw, roedd yr wythnos yn un blinedig a oedd yn golygu codi am 7:00 bob bore! Ond rhaid i mi bwysleisio mor gwerth-chweil oedd y gwaith a fy mod i mor falch bod fy ffrind wedi fy mherswadio i fynd. Roedd yn gymaint o fraint i mi fedru gwneud gwaith Duw gyda thîm a oedd yn teimlo gymaint fel un teulu mawr ac i fod yn rhan o’i gynllun Ef mewn ardal yng Nghymru!

Am fwy o wybodaeth am waith UBM, cer i http://ubm.org.uk/.

2. Y Gorlan: Eisteddfod Genedlaethol 2019 – Gwilym Tudur

Ers iddi gael ei sefydlu yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan ym 1984, nod canolog elusen y Gorlan ydy gwasanaethu ieuenctid Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol a rhoi’r cyfle i bob un ohonynt i glywed ac ymateb i’r newyddion da am Iesu Grist.

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ym mis Awst. Eleni, bydd gwirfoddolwyr y Gorlan yn gwasanaethu ar faes gwersylla Cymdeithas yr Iaith gan gynnig brecwast a diodydd i’r gwersyllwyr. Mae’r Gymdeithas bellach wedi cadarnhau y bydd eu maes gwersylla ar Fferm Tyddyn Hen, LL26 0PT, sydd rhyw ddeg munud ar droed o ganol tref Llanrwst. Rydym yn gweddïo y bydd yr Arglwydd yn rhoi nifer o gyfleoedd i ni rannu’r newyddion da am Iesu gyda’r rhai fydd yn gwersylla yno. Gyda’r nos, bydd gwirfoddolwyr y Gorlan hefyd yn gwasanaethu y tu allan i gigiau’r Gymdeithas ym maes parcio Gwesty’r Eagles, Llanrwst, gan rannu poteli o ddŵr a diodydd poeth gyda’r eisteddfodwyr.

Ein thema eleni yw ‘Gwyn dy fyd’ lle byddwn yn edrych ar Wynfydau’r Arglwydd Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd (Mathew 5). Yn ei bregeth, mae’r Arglwydd Iesu’n disgrifio sut bobl yw’r rhai sy’n perthyn i’w Deyrnas. Ein bwriad yw holi eisteddfodwyr beth maent yn ei feddwl o’r geiriau cyfarwydd hyn gan Iesu gan egluro wrthynt mai’r unig ffordd o gael y bywyd mae’r bregeth yn ei ddisgrifio ydy trwy edifarhau a chredu yn Iesu a’i groes.

Ymuno â’r tîm!

Os wyt yn Gristion sy’n awyddus i rannu’r newyddion da am Iesu Grist ar amrywiol feysydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae croeso mawr i ti ymuno gyda thîm y Gorlan! Mae’n gyfle gwych i gyfarfod â Christnogion eraill o Gymru ac i weld bywydau pobl yn cael eu newid gan y newyddion da am Iesu Grist.  Dilyna’r linc isod i gofrestru i fod yn rhan o dîm y Gorlan eleni: https://forms.gle/jJPQLdNd9Q6bQst5A.

3. Ymgyrch ‘Bywyd’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol – Dewi Alter

Dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi bod yn rhan o babell efengylu Mudiad Efengylaidd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bwriad y babell yw codi sgyrsiau gyda phobl o gwmpas Maes yr Eisteddfod am bethau Cristnogol. Mae’n gyfle gwych i fod yn rhan o fwrlwm y bywyd Cymraeg a holi cwestiynau pwysig i’r Cymry fel:

beth yw pwrpas bywyd?

ble ydyn ni’n mynd ar ôl marw?

a defnyddio’r cwestiynau hynny fel platfform i siarad am ein gobaith ni, a gobaith yr holl, fyd Iesu Grist.

Mae’n gyfle gwych i ddod i nabod Cristnogion o dros Gymru gyfan a dysgu a manteisio ar eu doethineb nhw. Rydych wir yn dod yn ffrindiau wrth gyd-weithio – er gwaethaf gwahaniaethau oedran neu gefndir. Mae hefyd yn gyfle gwych i drafod pynciau dwfn gyda phobl rydych yn gweld o ddydd i ddydd sydd efallai’n gwybod eich bod yn Gristion, ond ddim yn hollol siŵr beth mae hynny’n ei olygu; pobl efallai rydych wir eisiau rhannu’r efengyl â nhw, ond yn methu oherwydd ofn neu oherwydd nad oes cyfle’n dod i’r amlwg.

Mae nifer o sgyrsiau o hyd yn glynu yn fy nghof. Wrth wneud gwaith fel hyn fe synnwch chi pa mor agored mae rhai pobl i siarad am eu bywydau. Synnwch hefyd am ba mor druenus a bregus yw pobl yn ein gwlad, a’r tywyllwch o fyw heb Grist. Tywyllwch yr oeddem ni i gyd ynddi ar ryw adeg.

Yn wir, wythnos heriol yw gweithio ym mhabell MEC; ond mae werth pob eiliad. Byddwch yn gadael yr Eisteddfod, rwy’n siŵr, ar dân am Iesu Grist y gwaredwr ac yn dyheu ar iddo ddod yn waredwr i’r bobl o’ch cwmpas.

Thema’r babell eleni yw ‘Bywyd: Be’ sy’n bwysig?’. Cer i www.mudiad-efengylaidd.org/eisteddfod i ddysgu mwy ac i weld sut fedri di weddïo dros y gwaith.

Felly dyna gipolwg i ti o rai o’r weithgareddau sy’n digwydd yr Haf yma. Beth am ymroi i weddïo dros un o’r weithgareddau hyn dros yr wythnos nesaf?